Arweinyddiaeth - Estyn

Arweinyddiaeth

Ciplun

Mae’r uned cyfeirio disgyblion (UCD) yn elwa ar arweinyddiaeth ysbrydoledig ac ethos o barch a chymuned sydd wedi’i wreiddio’n gadarn. Mae staff yn modelu hyn yn gyson, gan greu amgylchedd cefnogol sy’n galluogi disgyblion i ffynnu. O ganlyniad, mae disgyblion yn dangos gwelliannau yn eu hymddygiad, eu dysgu a’u datblygiad emosiynol. Mae’r ddarpariaeth yn eithriadol o gryf, gyda thîm ymroddedig a medrus sy’n rhoi disgyblion wrth wraidd eu gwaith.