Arweinyddiaeth wydn a myfyriol sy’n sbarduno gwelliant cynaliadwy - Estyn

Arweinyddiaeth wydn a myfyriol sy’n sbarduno gwelliant cynaliadwy

Ciplun

Mae Ysgol Park Lane wedi gwneud cynnydd cyflym o dan arweinyddiaeth gref a strategol. Ers penodi’r pennaeth presennol, mae arweinwyr wedi sefydlu cyfeiriad clir sy’n canolbwyntio ar ddiwygio’r cwricwlwm, codi safonau addysgu a datblygu’r gallu i arwain. Mae eu gweledigaeth wedi’i seilio ar arfer fyfyriol ac wedi’i chryfhau trwy gydweithio ag ysgolion arbennig eraill, cynghorwyr allanol a phartner gwella’r ysgol. Mae’r partneriaethau hyn wedi helpu i lywio cynllun y cwricwlwm ac wedi gwella datblygiad proffesiynol, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel llythrennedd a lles. Un o gryfderau mawr yr ysgol yw ei diwylliant cynyddol fyfyriol ac atebol. Mae staff bellach yn cymryd mwy o ran mewn hunanwerthuso a dulliau sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, gyda chymorth prosesau rheoli perfformiad gwell a threfniadau atebolrwydd clir. Mae pennu targedau bellach wedi’i deilwra’n fwy i staff addysgu a staff cymorth, gan gyfrannu at amgylchedd gwaith mwy cydlynol a phroffesiynol.