Arweinyddiaeth strategol yn hybu agweddau cadarn at ddysgu - Estyn

Arweinyddiaeth strategol yn hybu agweddau cadarn at ddysgu

Ciplun

Mae gweledigaeth a dyheadau’r pennaeth yn helpu sicrhau fod meithrin lles a hapusrwydd disgyblion yn treiddio trwy holl agweddau o waith yr ysgol. Mae staff yn meithrin perthnasoedd gwaith hynod effeithiol gyda disgyblion sy’n pwysleisio parch, ymddiriedaeth a disgwyliadau uchel am yr hyn y gall ddisgyblion ei gyflawni. Mae staff yn adnabod disgyblion yn dda ac yn ymateb yn bwrpasol a sensitif i’w anghenion. Mae hyn yn meithrin ymdeimlad o ddiogelwch, bodlonrwydd a hapusrwydd ymysg disgyblion ac yn cefnogi amgylchedd ddysgu cynhwysol ac egnïol sy’n annog disgyblion i ymgysylltu’n llwyddiannus â’i dysgu. Mae agweddau’r rhan fwyaf o ddisgyblion at eu dysgu’n gadarnhaol sydd yn ei dro’n cefnogi presenoldeb rheolaidd ac ymddygiad da. Yn ogystal, mae hyn yn gosod sylfaen gref sy’n hybu’r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) neu’r rhai o aelwydydd incwm isel, i wneud cynnydd cadarn yn eu medrau.