Arweinyddiaeth strategol sy’n canolbwyntio ar les disgyblion a’u hagweddau at ddysgu - Estyn

Arweinyddiaeth strategol sy’n canolbwyntio ar les disgyblion a’u hagweddau at ddysgu

Ciplun

Mae arweinyddiaeth strategol y pennaeth yn cefnogi bod hybu lles disgyblion yn greiddiol i holl agweddau gwaith yr ysgol. Mae hyn yn creu amgylchedd cefnogol a chynhwysol sy’n galluogi disgyblion i ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu ac i lwyddo. Mae staff yn meithrin perthnasoedd gwaith cryf ac effeithiol â disgyblion, wedi’u seilio ar barch, gofal ac ymddiriedaeth. Mae staff yn adnabod disgyblion yn dda ac yn ymateb yn sensitif i’w hanghenion unigol. O ganlyniad, mae disgyblion yn gwybod at bwy i droi os ydynt yn poeni am rywbeth, ac maent yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu cefnogi’n gyson yn yr ysgol.Mae datblygiad proffesiynol bwriadus yn cryfhau hyder a gallu staff i gefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol. Mae staff yn adnabod disgyblion sydd angen cymorth pellach yn gynnar ac yn darparu rhaglenni cefnogi pwrpasol sy’n hybu lles disgyblion yn ofalus ac yn sensitif. Trwy gydweithio effeithiol â theuluoedd ac asiantaethau allanol, mae staff yn cefnogi disgyblion sydd ag anghenion emosiynol i oresgyn rhwystrau i ddysgu. O ganlyniad, mae disgyblion yn meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu ac at eraill, yn datblygu gwydnwch ac annibyniaeth yn fedrus, ac yn dangos ymrwymiad cynyddol i’w dysgu. Mae hyn yn cefnogi presenoldeb rheolaidd disgyblion ir ysgol, ymddygiad cadarnhaol a chyfraniad ystyrlon i fywyd yr ysgol.