Arweinyddiaeth ddosranedig effeithiol - Estyn

Arweinyddiaeth ddosranedig effeithiol

Ciplun

Mae’r trefniadau ar gyfer rhannu cyfrifoldebau arweinyddiaeth yn hynod effeithiol. Mae rolau, cyfrifoldebau a llinellau atebolrwydd clir yn cyd-fynd yn eithriadol o dda ag anghenion heriol yr ysgol. Mae arweinwyr yn deall eu rolau’n dda ac yn cydweithio â’r nod cyson o roi’r cyfle gorau mewn bywyd a’r profiadau addysgol gorau posibl i bob disgybl. O fewn meysydd cyfrifoldeb penodol, mae arweinwyr yn defnyddio prosesau monitro a gwella yn dda i sicrhau cydbwysedd da rhwng canolbwyntio ar wella addysgu a dysgu a diwallu anghenion lles disgyblion.