Arfer Effeithiol |

Gwella cyrhaeddiad trwy fonitro cynnydd disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
235
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Maendy wedi’i lleoli yn Nhorfaen, yn ardal Cwmbrân.  Mae’n darparu addysg i ddisgyblion tair i 11 oed.  Mae Canolfan Adnoddau Asesu 16 lle yno i ddisgyblion y cyfnod sylfaen, sy’n gwasanaethu ardal Torfaen.  Mae 235 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 28 o leoedd meithrin rhan-amser a 13 o leoedd i blant sy’n codi’n 3 oed1.  Hefyd, mae’r ysgol yn gartref i Ganolfan Asesu Torfaen ar gyfer disgyblion oed cynradd ag anhwylderau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Yn 2009, cydnabu’r ysgol fod y safonau ar y lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd y ddau gyfnod allweddol yn cael eu cyflawni gan fwyafrif o ddisgyblion yn unig, a dim ond ychydig bach iawn o ddisgyblion a oedd yn cyflawni ar y lefel uwch.  O ganlyniad, sefydlwyd Grŵp Codi Cyrhaeddiad.  Mae gwaith y grŵp wedi datblygu’n sylweddol dros gyfnod o flynyddoedd ac mae’r arfer yn system sydd wedi’i gwreiddio’n llawn yn yr ysgol, gan arwain at y lefel orau erioed o safonau uchel cyson.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y sector

Mae’r Grŵp Codi Cyrhaeddiad yn cyfarfod bob hanner tymor ac mae’n cynnwys pum aelod.  Caiff yr aelodau eu newid yn rheolaidd i feithrin gallu’r staff i wneud asesiadau cywir gan athrawon ac i gydnabod a rheoli amrywiadau a amlygir mewn safonau yn yr ysgol.  Caiff amserlen o gyfarfodydd a data cyfredol am gyrhaeddiad y garfan ddisgyblion eu rhoi i athrawon ar ddechrau pob blwyddyn newydd.  Caiff disgyblion unigol a chanran y carfannau sy’n cyflawni’r lefel ddisgwyliedig a’r lefel uwch na’r disgwyl eu hamlygu, felly hefyd y disgyblion hynny y mae angen cymorth targedig arnynt i gyflymu eu cynnydd.

Caiff yr holl aelodau staff ganllawiau cytunedig a disgwyliadau ar gyfer marcio, cyflwyniad gwaith disgyblion a thaflenni asesu a thargedau priodol i’r cyfnod allweddol.  Cyn pob cyfarfod, mae athrawon yn sicrhau bod y taflenni targedau ac asesu priodol yn eu lle yn llyfrau disgyblion, a bod y taflenni hyn yn gyfredol.  Hefyd, mae athrawon yn darparu taflenni data diwygiedig sy’n amlygu lefelau cyrhaeddiad presennol disgyblion, gan gynnwys amlygu cyrhaeddiad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r aelod staff arweiniol â chyfrifoldeb am y Grŵp Codi Cyrhaeddiad yn dewis o leiaf dri disgybl o bob carfan ac yn dewis y ffocws ar gyfer craffu ar lyfrau wedi hynny.  Dewisir y meysydd â ffocws yn ôl anghenion a mentrau presennol yr ysgol, er enghraifft y fframwaith cymhwysedd digidol neu fedrau mathemateg.  Caiff llyfrau disgyblion eu monitro’n unigol gan aelodau’r Grŵp Codi Cyrhaeddiad; mae amser yn cael eu neilltuo iddynt pan nad ydynt yn addysgu.  Yn y cyfarfod dilynol, bydd aelodau’n cyflwyno’u hasesiadau nhw o waith disgyblion unigol.  Hefyd, maent yn rhoi eu barn am fedrau a ddefnyddir ar draws y cwricwlwm, y cynllunio ar gyfer y ddarpariaeth i ateb anghenion gallu unigol disgyblion, ansawdd marcio gan athrawon a staff cymorth a chyflwyniad gwaith disgyblion.  Mae’r Grŵp Codi Cyrhaeddiad yn trafod ac yn dod i gytundeb ar asesiadau athrawon ac yn amlygu unrhyw feysydd arfer orau neu feysydd y mae angen eu gwella.  Mae’r grŵp yn ysgrifennu cofnodion ac yn paratoi adborth ar gyfer cyfarfod nesaf y staff.  Yn achos asesiadau athrawon nad yw’r Grŵp Codi Cyrhaeddiad wedi cytuno arnynt, bydd unrhyw lyfrau disgyblion yn y pwnc hwnnw’n cael eu hadolygu gan ddau aelod o’r Grŵp Codi Cyrhaeddiad ar y cyd â’r athro.  Mae arweinydd y Grŵp Codi Cyrhaeddiad yn rhoi arfarniadau ysgrifenedig unigol i’r holl athrawon, sy’n llywio adolygiadau rheoli perfformiad.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Yn ystod arolygiad yr ysgol, roedd saith o athrawon yn gweithio yn yr ysgol â llai na dwy flynedd o brofiad.  Barnwyd bod y safonau addysgu ac asesu ar gyfer dysgu yn dda yn gyson.  Mae gwaith y Grŵp Codi Cyrhaeddiad yn cefnogi dull cyson o gynllunio, darparu a marcio, ac asesu.  Caiff meysydd arfer orau a amlygir eu rhannu bob hanner mewn cyfarfodydd i’r holl staff.  Mae cynlluniau i gefnogi meysydd a amlygir i’w gwella ar gyfer unigolion neu’r ysgol gyfan yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith.  Mae olrhain disgyblion unigol a chyrhaeddiad carfanau bob hanner tymor yn sicrhau bod y disgwyliadau uchel a osodir gan yr ysgol yn cael eu bodloni.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Fe wnaeth yr awdurdod lleol secondio’r pennaeth i rannu’r arfer hon gydag ysgolion eraill Torfaen.

Mae nifer o ysgolion o awdurdodau lleol eraill wedi mynychu cyfarfodydd y Grŵp Codi Cyrhaeddiad i arsylwi’r broses.  Mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth wedi cynorthwyo ysgolion mewn awdurdod lleol cyfagos i wella cywirdeb mewn asesiadau athrawon.

1Ar ôl dyrannu lle meithrin ar gyfer mis Medi, gellid cynnig cyfle i blant a aned rhwng 1 Medi a 31 Mawrth ddechrau’n gynnar yn y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed, os bydd lleoedd ar gael – yr enw ar hyn yn gyffredin yw lle i blant sy’n codi’n 3 oed.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif ffrwd - Adroddiad arfer dda

pdf, 1.52 MB Added 23/01/2020

Mae’r ffocws yn yr adroddiad hwn ar yr arfer effeithiol gan ysgolion o dan y fframwaith statudol presennol a’r trefniadau a amlinellwyd yng Nghod Ymarfer Cymru (2002). ...Read more