Arfer Effeithiol |

Cynorthwyo disgyblion ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu i wella llefaredd a lles

Share this page

Nifer y disgyblion
211
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad
 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector:

Mae Ysgol Gynradd Malpas Court wedi’i lleoli yn ninas Casnewydd.  Mae gan yr ysgol 226 o ddisgyblion, gan gynnwys 37 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin.  Mae deg athro amser llawn ar gyfer naw dosbarth.  Mae canolfan adnoddau ar gyfer 16 o ddisgyblion o’r ardal ehangach sydd â nam iaith a lleferydd. 

Mae tua 40% o ddisgyblion yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (19%).  Mae tua 40% o ddisgyblion yn ymuno neu’n ymadael â’r ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg mamiaith ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol i 14% o ddisgyblion.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan oddeutu 50% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol (25%).  Mae gan 21 o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Ymgymerodd y pennaeth â’i swydd yn 2007.  Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf yn Hydref 2011. 

Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ‘ysgol arloesi’r cwricwlwm’.  Mae hyn yn golygu ei bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill sy’n arloesi’r cwricwlwm i ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru a’i roi ar brawf.

Mae’r ysgol yn ysgol gynhwysol, groesawgar, amlieithog mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf, lle mae pob disgybl yn cael ei werthfawrogi’n unigryw.  Mae’r Ganolfan Iaith a Lleferydd sefydledig yn darparu ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 o bedwar awdurdod lleol cyfagos.  Mae’r cyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd a ddefnyddir yn y Ganolfan Namau Iaith Penodol yn bodloni anghenion y dysgwyr â Namau Iaith Penodol yn rhagorol; mae gan y dysgwyr hyn raglenni iaith arbenigol sydd wedi gwneud gwelliannau, fel y gwelir o ddeilliannau cychwynnol a therfynol.
 
Mae staff y Ganolfan Namau Iaith Penodol yn rhoi rhaglenni arbenigol priodol i ddisgyblion ac yn rhannu eu harbenigedd â staff a disgyblion y brif ffrwd.  Mae’r staff yn y ganolfan iaith a lleferydd yn nodi disgyblion mewn dosbarthiadau prif ffrwd sydd ag Anghenion Llefaredd, Iaith a Chyfathrebu sy’n effeithio’n fawr ar eu safonau cymdeithasol, emosiynol ac academaidd.  Roedd angen datblygu strategaethau cyfathrebu arbenigol yn y dosbarthiadau prif ffrwd er mwyn ennyn diddordeb a chyfoethogi pob dysgwr. 

Yn 2015, enillodd Malpas Court statws ‘Ysgolion Cyfeillgar i Gyfathrebu’ (CFS) a hi oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno i diwtoriaid rhaglen arbenigol yn 2013, gan eu hannog i hyfforddi’n diwtoriaid cyfeillgar i gyfathrebu er mwyn cyflwyno Ysgolion Cyfeillgar i Gyfathrebu ledled Cymru.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Fe wnaeth y tîm arwain rhoi’r grym i’r ysgol gyfan ddatblygu’r strategaethau hyn ar draws y cyfnod cynradd i gefnogi plant ag Anghenion Llefaredd, Iaith a Chyfathrebu, gan gynnwys Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, Anhwylder Gorfywiogrwydd a Diffyg Sylw, Anhwylderau Dysgu Penodol ac Anawsterau Ymlyniad.
 
Sicrhaodd arweinwyr fod staff wedi cael hyfforddiant ar therapïau arbenigol, y maent yn eu defnyddio mewn gwasanaethau ac wrth gyfarch ar draws yr ysgol.  Mae cynorthwywyr addysgu hyfforddedig yn cyflwyno rhaglenni arbenigol, gan arwain at nodi Anghenion Llefaredd, Iaith a Chyfathrebu yn gynnar.  Defnyddiant y rhain i gefnogi therapïau iaith oddefol a mynegiannol, gan ymestyn dysgu trwy ddefnyddio adnoddau penodol a gwneud i’r dysgu fod yn berthnasol ac yn gyffrous.  Mae’r disgyblion sy’n cael eu nodi’n ddisgyblion ag anawsterau ynganu yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn yn datblygu ffonoleg gan ddefnyddio rhaglenni cymeradwy.  Mae amserlenni gweledol ym mhob ystafell ddosbarth ac mae staff yn mynd i’r afael ag anghenion penodol fel anhwylderau’r sbectrwm awtistig gan ddefnyddio dulliau cymeradwy.  Mae staff yn asesu disgyblion gan ddefnyddio rhaglen fasnachol, sy’n datgan pa mor dda y maent yn deall cwestiynau.  Mae staff yn defnyddio amrywiaeth o gynlluniau codio i ddatblygu strwythur brawddegau a dull arwyddo cydnabyddedig i ddatblygu gramadeg.  Mae hyn wedi ymestyn llefaredd strwythuredig sy’n cefnogi ysgrifennu estynedig yn dda.  Mae staff yn defnyddio adnoddau arbenigol yn dda i gefnogi’r defnydd ar eirfa penodol i bwnc, gan alluogi disgyblion i ddeall sut i gyflwyno gwybodaeth yn glir. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ennill statws ‘Ysgolion Cyfeillgar i Gyfathrebu’ wedi cynyddu ystod y wybodaeth, medrau a strategaethau ar gyfer yr holl staff.  Mae’r holl ddisgyblion yn elwa o well gwybodaeth a medrau staff.  Mae tuedd barhaus o ddeilliannau da ym maes Llefaredd i’w gweld trwy amrywiaeth o restri gwirio arbenigol masnachol.  Mae disgyblion yn ymddiddori ac yn frwdfrydig ynghylch eu gallu i gyfathrebu, gan wella’u lles a’u hymddygiadau ar gyfer dysgu a datblygu’n ddysgwyr gwydn, dyfeisgar, myfyriol ac ymatebol.  Mae’r ysgol o’r farn bod bron pob un o’r disgyblion yn dangos defnydd a dealltwriaeth briodol o’r iaith trwy ddefnyddio’r strategaethau penodol hyn. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Malpas Court yn Ymarferwr Arweiniol Prosiect Braenaru Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru ar draws Cymru, gan gefnogi ysgolion sy’n dod i’r amlwg.  Fe wnaeth cyflwyniad ar ‘Ysgolion Cyfeillgar i Gyfathrebu’ i holl gydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol Casnewydd yn 2014 nodi ysgolion penodol yr oedd angen cymorth â lleferydd, iaith a chyfathrebu arnynt.  Cafodd yr ysgolion hyn, sydd â dosbarthiadau canolfannau anghenion addysgol penodol, gefnogaeth yn 2014-2015.  Mae adnoddau a strategaethau arbenigol o ganolfan Namau Iaith Penodol yr ysgol wedi cefnogi a datblygu iaith a lleferydd mewn amrywiaeth o ysgolion prif ffrwd, gan annog cyfranogiad ac ennill achrediad ‘Ysgolion Cyfeillgar i Gyfathrebu’.  Mae’r deilliannau’n cynnwys staff sydd wedi’u hyfforddi i safon a gydnabyddir yn genedlaethol, gan alluogi trawsnewid o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu ar lefel ysgol gyfan.

Mae rhieni’r disgyblion o’r pedwar awdurdod lleol cyfagos sydd ag Anghenion Llefaredd, Iaith a Chyfathrebu yn mynychu’r grŵp cymorth i rieni ym Malpas Court.  Mae hyfforddiant ar iaith arwyddion, ymddygiad, hyfforddiant cymdeithasol a hyfforddiant cyfathrebu yn rhoi’r hyder i rieni gefnogi eu plentyn gartref.  Mae arweinwyr yn bwriadu gwreiddio ac ymestyn arfer dda barhaus yr ysgol ei hun a pharhau i ledaenu ei harbenigedd i ysgolion eraill trwy amrywiaeth o strategaethau ac adnoddau sy’n canolbwyntio ar y blynyddoedd cynnar.  Nod yr ysgol yw defnyddio’i gwybodaeth i godi safonau yn ei rôl fel Ysgol Fraenaru ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad, Iechyd a Lles, wrth gynllunio’r cwricwlwm newydd i Gymru. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Paratoi ar gyfer y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

pdf, 971.48 KB Added 12/07/2018

Ysgrifennir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol Ysgrifennydd y Cabinet i Estyn ar gyfer 2017-2018. ...Read more
Adroddiad thematig |

Gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg yng nghyfnod allweddol 2

pdf, 1.25 MB Added 13/07/2017

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ym mhynciau gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnod allweddol 2 mewn ysgolion cynradd yng ...Read more