Ystadegau Swyddogol

Share this page

Deilliannau arolygu darparwyr addysg yng Nghymru a arolygwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2019-2020.

Diweddarwyd y dudalen hon ar 28/10/2022

2020-2021

Rydym yn cyhoeddi crynodebau ein deilliannau arolygu trwy ddatganiad ystadegau swyddogol bob mis Medi.  Bydd y gyfres hon yn cael ei hatal ar gyfer 2021-2022.

Ataliwyd ein harolygiadau ym mis Mawrth 2020 o ganlyniad i bandemig COVID-19.

Yn ystod 2020-2021, rydym wedi bod yn gwneud galwadau ffôn ymgysylltu â sampl eang o leoliadau meithrin nas cynhelir, ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed ac arbennig, ac UCDau.

Rydym wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ar ein canfyddiadau.

Bydd Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn darparu dadansoddiad pellach o’n canfyddiadau.

Deilliannau arolygu 2010-2020

Defnyddiwch ein hofferyn rhyngweithiol i weld crynodebau o’n deilliannau arolygu hanesyddol.
 

Rhestr gweld yr ystadegau cyn eu rhyddhau

Mae unigolion ar y rhestr isod wedi gallu gweld yr ystadegau yn eu ffurf derfynol 24 awr cyn eu rhyddhau.

Rhan o The Annual Report of Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training 2019-2020