Erthyglau newyddion |

Sefydliadau addysg yng Nghymru yn dod ynghyd i leihau baich gwaith athrawon

Share this page

Mae sefydliadau addysg yng Nghymru wedi dangos eu hymrwymiad ar y cyd i helpu athrawon i gydbwyso’u baich gwaith. Heddiw, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a Phrif Arolygydd Addysg Ei Mawrhydi, Meilyr Rowlands, lansio adnoddau sy’n canolbwyntio ar sut gall athrawon leihau gweithgarwch diangen.

Gyda chefnogaeth 16 sefydliad, gan gynnwys Estyn, Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac undebau, mae’r adnoddau yn cydnabod ar y cyd y baich y gall y gweithlu addysg ei deimlo. Mae poster i ystafell y staff a chanllaw poced yn amlygu beth ddylai ac na ddylai athrawon ei wneud wrth gynllunio gwersi, marcio ac asesu, a chasglu data, yn ogystal ag egluro disgwyliadau Estyn.

Wrth siarad yn Ysgol Gynradd Palmerston, y Barri, meddai’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Rydym yn benderfynol o roi mwy o amser i athrawon wneud beth maen nhw’n ei wneud orau: cynllunio ac addysgu’r gwersi gorau posibl i’w disgyblion.

“Yn rhy aml, rwy’n clywed sut mae athrawon yn teimlo’u bod yn cael eu rhwystro gan ofynion ‘ticio blychau’ nad ydynt yn canolbwyntio ar godi safonau yn ein hystafelloedd dosbarth.  Mae angen i ni gywiro ambell gamsyniad am yr hyn sy’n ofynnol i athrawon ei wneud a bod yn hollol glir yn ein harweiniad.

“Mae lleihau biwrocratiaeth ddiangen a galluogi athrawon i dreulio mwy o amser yn cefnogi dysgu disgyblion yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon.  Rydym am wneud yn siŵr bod gwaith marcio, cynllunio ac asesu gan athrawon yn effeithiol ac yn gymesur.

“Bydd y canllaw newydd hwn, a ddatblygwyd gydag amrywiaeth o bartneriaid, yn helpu athrawon i fwrw ymlaen ag addysgu fel y gallwn barhau i godi safonau.”

Dywed Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd

Mae baich gwaith athrawon yn fater y mae Estyn yn ei gymryd o ddifrif a’m gobaith yw y bydd y canllaw hwn yn helpu i egluro disgwyliadau a helpu athrawon i hoelio’u hamser a’u hymdrechion ar yr hyn sydd bwysicaf – addysgu a dysgu.”

Anfonir y canllaw poced at bob athro cofrestredig yng Nghymru a bydd pob ysgol yn cael poster ar gyfer ystafell y staff.  Hefyd, byddant ar gael ar-lein yn https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-orau/lleihau-baich-gwaith-athrawon-phenaethiaid

Nodiadau i Olygyddion:

Datblygwyd yr adnoddau ar y cyd gan:

  • Lywodraeth Cymru
  • Estyn
  • CSC
  • EAS
  • ERW
  • GwE
  • Cyngor y Gweithlu Addysg
  • National Education Union 
  • NASUWT
  • NAHT Cymru
  • UNISON Cymru / Wales
  • UCAC
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Voice Cymru
  • ASCL
  • Esgobaethau – Yr Eglwys yng Nghymru