Erthyglau newyddion |

Araith Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi, 17 Chwefror 2022

Share this page

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i siarad yn y digwyddiad hwn, a diolch i chi Weinidog am eich araith a’ch angerdd am y cwricwlwm newydd. Dwi wedi bod yn y swydd am gwta 48 diwrnod, felly, fel dwi’n dweud wrth fy nghydweithwyr drwy’r amser, peidiwch â disgwyl unrhyw berlau o ddoethineb.

Yn gynta’, hoffwn i dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Meilyr Rowlands, a hefyd i fy nghydweithiwr, Claire Morgan, a wnaeth ddal y llyw dros y misoedd diwetha’. Mae’n fraint cael cerdded i mewn i sefydliad cryf, talentog ac un sy’n gweithredu’n broffesiynol ar draws y wlad. Dwi hefyd yn gwybod bod y ‘galwad’ o Estyn yn achosi’r un gofid i rai ohonoch chi â mynd i’r deintydd, fel y darganfyddes i dros y Nadolig pan wnaeth ffrind oedd yn brifathro (wna’ i ddim ei enwi) gynnig llongyfarchiadau i fi ar y swydd ond efo’r gorchymyn, ‘don’t feel you need to call’.

Yr hyn hoffwn i sôn amdano prynhawn ’ma yw fy nhaith yma efallai, ac ychydig am ein hymagwedd eleni o ran mynd yn ôl i gynnal arolygiadau, ond gyda chlust gyd-deimladwy. Hoffwn i siarad am y cwricwlwm, ei bwysigrwydd a sut mae Estyn yn addasu, fel y mae’n rhaid i ni gyd addasu, ac yn olaf, am rai newidiadau mewn ymagwedd gennym ni yn Estyn.

Mae fy nhaith i yma wedi bod yn un anuniongyrchol, a dweud y lleiaf. O fy nhref enedigol, Aberystwyth, trwy ogledd a de Cymru, Lloegr a’r Alban, nid yw fy ngyrfa wedi bod yn un syml. Dwi ddim yn ceisio cuddio’r ffaith nad ydw i’n dod o gefndir arolygu, ond yn hytrach rhywun sydd wedi gweithio ar draws y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, yn fwyaf diweddar yn arwain S4C drwy’r newidiadau mwyaf mae wedi’u gweld ers cyn cof, mae’n siŵr. Wrth gwrs, dwi wedi bod yn gysylltiedig ag addysg am nifer o flynyddoedd yn Llywodraeth Cymru ac, yn fwya’ diweddar, roeddwn i’n  gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd. Mae gen i hanes o arwain newid, ac fe fydda’ i, dros gyfnod, yn edrych ar bob agwedd ar ein gwaith a sut gallwn ni wella  ein heffaith. Ond bydd angen cefnogaeth fy nghydweithwyr arna’ i, a bydd angen eich cefnogaeth chi arna’ i lawn cymaint wrth i ni drafod syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio, gan gadw elfennau gorau ein gwaith ond hefyd treialu ffyrdd newydd o weithio. Yn hynny o beth, dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod â chi dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod wrth i fi ddysgu a dechrau cyflwyno syniadau ynglŷn â sut rydym yn mynd i addasu i wasanaethu dyfodol addysg yma yng Nghymru.

Cyn i fi ddechrau, hoffwn i ddiolch i chi gyd, ynghyd â’ch staff, am y gwaith gwych rydych chi wedi’i wneud yn ystod y ddwy flynedd diwethaf i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr. Mae’r arweinyddiaeth a ddangoswyd dim ond i gadw pethau i fynd wedi bod yn sylweddol, ac mae’r arloesi, yn enwedig o ran cyfathrebu digidol a dysgu cyfunol, wedi bod yn syfrdanol. Rydych yn dal i ymateb yn rhyfeddol, a hynny yn nhraddodiad gorau’r proffesiwn, yn fy marn i.  

Bu’n gyfnod o gryn newidiadau i Estyn hefyd. Fe wnaethon ni oedi ein gweithgareddau arferol o blaid cynorthwyo’r sectorau a datblygu’r cwricwlwm. Dwi’n credu mai dyna oedd y penderfyniad cywir ac un sydd wedi ein galluogi i feithrin perthynas wahanol gyda llawer ohonoch chi. Yn wir, dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, mae’r profiad o dreulio mwy o amser ar ymgysylltiad llai manwl, yn canolbwyntio ar gefnogaeth, wedi ein rhoi ni mewn lle da ac wedi gwella ein perthynas gydag ymarferwyr, ac mae hwn yn rhywbeth yr hoffwn i adeiladu arno i’r dyfodol.

Rydym wedi gweld galluoedd arweinwyr yn tyfu wrth i ni ymdopi â heriau annisgwyl a’r angen i ailwerthuso arferion normal. Mae’r pandemig wedi eich gorfodi i feddwl yn wahanol am bopeth rydych yn ei wneud, cwestiynu ffyrdd hen sefydledig o weithio, a chymryd camau pendant.  

Mae’r pandemig wedi arwain hefyd at ddatblygu dysgu pur a dysgu cyfunol ar-lein, ac mae hynny’n rhywbeth rwy’n credu y mae angen i ni gyd ddal gafael arno wrth i ni ddychwelyd i’r hyn fydd yn ‘normal newydd’.

Un o fy mhenderfyniadau cynta’ i yn Estyn, ar yr ail ddiwrnod, os cofia’ i’n iawn, oedd cytuno i ohirio ein harolygiadau peilot hyd nes ar ôl hanner tymor. Dwi’n deall yn iawn fod llawer o alwadau yn cystadlu am eich sylw. Nid y lleiaf ohonyn nhw newidiadau i’r cwricwlwm, ymdopi â’r newidiadau yn y gyfundrefn cymwysterau, gwella ansawdd addysgu, ond ie, yn aml, dim ond ceisio cadw pethau i fynd wrth i’r pandemig fynd drwy ei gamau amrywiol, a chithau’n gweld eich bod chi’n brin o athrawon ar nos Sul.

Bu’n rhaid i ni wynebu ein heriau ein hunain. Newidion ni ffocws ein gwaith i ymagwedd lai manwl, ond gan gynnal ein ffocws ar roi cymorth mwy manwl i ysgolion, pan roedd angen. Mae’n nodedig, yn ystod y pandemig, bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod nifer o ysgolion wedi dod allan o gategorïau gweithgarwch dilynol, a hoffwn longyfarch yr arweinwyr a’r staff o’r ysgolion hyn. Hefyd, addason ni i’r ffaith nad ydym wedi cael setiau data craidd, a bod yna fylchau yn llyfrau disgyblion, yn naturiol; ond bu modd i ni barhau i gyflawni ein gwaith a ffurfio gwerthusiadau cadarn. Canolbwyntion ni ar brosesau a darpariaeth yr ysgol, ac unrhyw dystiolaeth o effaith y gallen ni ei gweld. Mae pob un o’r ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion mewn categori wedi cael AEM bugeiliol sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r ysgol trwy gydol y pandemig. Mae hyn wedi ein helpu i ddeall cyd-destun a heriau pob ysgol yn well, ac addasu ein gwaith yn unol â hynny.  

Mae ein gwaith arolygu ac ymgysylltu yn ystod 2021−2022 wedi canolbwyntio ar gefnogi adnewyddu a diwygio, a byddwn yn parhau i wneud hynny, ond rwy’n credu’n gryf fod angen i ni fynd yn ôl i’r arfer o roi sicrwydd ac arolygu. Er y byddwn yn gydymdeimladwy, mae’n rhaid i ni gynllunio nawr hefyd i sefydlu’r hyn a ddaw yn normal newydd, yn barod ar gyfer digwyddiadau annisgwyl, ond yn brofiadol o ran sut i ddelio â nhw. 

Er mwyn dangos yr ymagwedd hon, yn ein fframwaith newydd, a fydd yn cael ei dreialu gyda nifer fach o ddarparwyr yn nhymor y gwanwyn, byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein dulliau arolygu yn cefnogi meddylfryd cadarnhaol. Ar ddechrau pob arolygiad, byddwn yn trafod sut ydych yn teimlo mae’r pandemig wedi effeithio arnoch chi. A byddwn ni’n gwrando.  

Bydd y fframwaith yn cynnwys pwysleisiau newydd cynnil, a’r prif newidiadau fydd ffocws cryfach ar: 

  • arweinyddiaeth ystwyth ac ymatebol  
  • y diwylliant ar gyfer diogelu, nid y polisïau a’r trefniadau yn unig 
  • cyswllt cryfach rhwng dysgu proffesiynol ac ansawdd addysgu​  

I gefnogi hyn, mae’n rhaid i’n hymagwedd ni at arolygu fod yn:  

  • Deg a diduedd, ond hefyd yn
  • Gefnogol – byddwn yn gweithio i arwain darparwyr i roi gwelliannau ar waith sy’n fuddiol i ddysgwyr.
  • Yn bwysig, byddwn yn annog arloesi ac yn cydnabod bwriadau da. Byddwn yn cefnogi diwygio addysgol. Byddwn hefyd, ac yn hollbwysig rwy’n meddwl, yn canmol arloesi, hyd yn oes os ydych yn methu. Mae gan Estyn ei ran i chwarae i wneud Cymru yn fan diogel i roi cynnig ar ffyrdd newydd ac i archwilio ymagweddau newydd. Dydyn ni ddim yma i fygu eich arloesedd.     
  • Byddwn yn fyfyriol ac â meddwl agored. Byddwn yn gwrando ar ystod eang o randdeiliaid ac yn myfyrio ar eu hymatebion.
  • Byddwn yn dryloyw – byddwn yn wybodus ac yn cyfathrebu’n glir, yn uniongyrchol ac yn gryno. Mwy am hynny nes ymlaen. Byddwn yn defnyddio methodolegau arolygu effeithlon ac effeithiol, ond yn hollbwysig, byddwn yn eu defnyddio i ymateb i sefyllfa unigryw’r darparwr. Byddwn yn cynllunio gweithgarwch arolygu ac yn adrodd ar gryfderau a gwendidau mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu amgylchiadau penodol pob darparwr unigol. Gobeithiwn y bydd hyn yn hyrwyddo ymddiriedaeth a pharch ar y naill ochr.  

Rydym yn gobeithio bod ein gwaith gydag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion sy’n peri pryder yn ystod yr ychydig dymhorau diwethaf wedi rhoi sicrwydd ynglŷn â’n hymagwedd a’n dealltwriaeth o’r heriau parhaus sy’n wynebu’ch ysgolion. 

Gyda llaw, a ga’ i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rheiny ohonoch chi sydd wedi cysylltu i enwebu eich ysgol fel arolygiad peilot, a hefyd y rheiny ohonoch chi sydd wedi mynychu’r cyntaf o’n digwyddiadau hyfforddiant diweddaru i arolygwyr cymheiriaid. Mae eich rôl fel arolygwyr cymheiriaid yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hymagwedd arolygu, ac mae’n faes lle’r hoffwn ein gweld ni’n cynyddu ein darpariaeth hyfforddi ynddo.

Bydd ein harolygiadau peilot yn gyfle pwysig i ni fireinio ein methodoleg arolygu. Byddwn yn dysgu gyda’n gilydd. Gobeithiwn y bydd dileu graddau crynodol yn gwneud arolygu yn brofiad â llai yn y fantol, a byddwn yn sicrhau ffocws cryfach ar werthusiadau ac adborth a gyflwynir gan y tîm. Yr allwedd i ni yw bod ein gwaith yn hygyrch, yn adeiladol ac yn waith a all hwyluso newid cadarnhaol.  

I'r rheiny sy’n chwilio am fanylion y camau nesaf:

  • bydd ein harolygiadau yn nhymor y gwanwyn yn dechrau o 28 Chwefror 2022 (Peilotau cam 1 – tua 20 o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion
  • Byddwn yn dileu graddau crynodol, ond byddwn yn darparu naratif cryfach gyda ffocws dyfnach ar gryfderau a meysydd i’w gwella
  • Bydd mwy o ffocws ar gynnydd ar y Cwricwlwm i Gymru ac addasu i’r newidiadau yn sgil y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Ac yn olaf, bydd mwy o ffocws ar ddiwylliant diogelu 

Byddwn yn parhau i beilota arolygiadau i mewn i’r haf, ond bydd un gwahaniaeth hollbwysig, sef y byddwn yn dewis yr ysgolion hynny ar sail ystod o feini prawf, gan gynnwys yr amser sydd wedi mynd heibio ers eu harolygiad craidd diwethaf (Peilotau cam 2). Mae’n werth pwysleisio y bydd y tymor hwn yn gweld yr ysgolion cyntaf rydym wedi’u dewis yn hytrach na thrwy wirfoddolwyr.

Rydym yn rhagweld y bydd arolygiadau’n cael eu cyflwyno’n llawn o fis Medi 2023 – Haf 2024 (diwedd y cylch 8-mlynedd).

Fydd hi ddim yn syndod mai un o brif themâu ein gwaith parhaus fydd ein cefnogaeth ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Roeddwn i’n gweithio yn Llywodraeth Cymru yn y cyfnod pan roedd y cwricwlwm newydd yn awgrym yn unig gan y Gweinidog ar y pryd. Cefais y fraint o weithio gyda Graham a rhai eraill wrth iddo ysgrifennu’r glasbrint. Dwi’n cofio ei waith maes, yn siarad gydag addysgwyr ledled Cymru wrth iddo gasglu’i feddyliau ynghyd ynglŷn â beth oedd o’i le a sut gallai cwricwlwm newydd ailfywiogi addysg yng Nghymru. Fe wnaeth sgwrs ar hap gyda chydweithiwr yr wythnos hon f’atgoffa am ei fyfyrdodau am weithlu a oedd yn cael eu clymu i lawr gan arweiniad ar bob agwedd ar y cwricwlwm, yn cael eu clymu i lawr gan yr anallu i ddylunio’u ffyrdd eu hunain o weithio ac i ddefnyddio’u profiad a’u medrau eu hunain, ac yn bwysicaf oll o bosibl, ofn mentro.

Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma ble’r ydw i. Mae gan Estyn ran allweddol i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn llwyddiant. Fel y sector addysg cyfan, bu angen i Estyn addasu, ac addasu y byddwn ni. Rydym yn deall na fydd ymagwedd ‘yr un peth i bawb’ at y cwricwlwm newydd yn gweithio. Byddwn yn cydnabod y bydd pob ysgol wedi cymhwyso egwyddorion y cwricwlwm newydd gan ddibynnu ar eu sefyllfa leol eu hunain a’u gweledigaeth. Rydym yn deall bod rhai ar y blaen a bod rhai ar ei hôl hi ar eu taith. Rydym yn cydnabod hefyd na fydd y cwricwlwm yn llwyddiant oni bai bod ysgolion yn dysgu oddi wrth ysgolion, ac yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt hefyd i weithredu’r newidiadau gofynnol. Mae’n adeg pan fo angen i ni gyd ddangos ychydig o arweinyddiaeth i sicrhau bod hyn yn gweithio.

Dwi wedi sôn droeon ein bod yn cydymdeimlo â chi o ran yr hyn mae’r sector cyfan wedi bod drwyddo dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Nawr yw’r amser, serch hynny, i fod yn cynllunio ac yn gweithio i’r dyfodol. Fel y dywedais i, mae’n rhaid i ni addasu hefyd.

Rydym ni’n addasu, fel y soniais i’n barod, ac efallai y gallaf ymhelaethu ychydig am sut byddwn i’’n mynd i’r afael â gwerthuso datblygiad y cwricwlwm.

  • Byddwn yn gwerthuso’r graddau y mae profiadau dysgu yn ysgogi ac yn herio ystod lawn y disgyblion
  • Byddwn yn mynd i’r afael ag arloesi a hyblygrwydd o ran ymagwedd mewn ffordd gadarnhaol
  • Byddwn yn ystyried pa mor dda mae’r cwricwlwm yn adeiladu’n systematig ac yn gydlynus
  • Byddwn yn ystyried y graddau mae’r cwricwlwm yn darparu ehangder a manylder addas o ran profiadau i ddisgyblion ar draws ystod o brofiadau dysgu a phynciau 
  • A byddwn yn ystyried sut mae arweinwyr wedi sefydlu rhesymwaith strategol, clir ar gyfer y cwricwlwm o ran ei fuddion i ddisgyblion i’w  paratoi i ddysgu trwy gydol eu bywydau a chwarae rhan lawn mewn cymdeithas 

Yn symud ymlaen ac yn ola’, falle cwpl o eiriau am rai o fy mlaenoriaethau inne fel y Prif Arolygydd newydd.

Fel rhywun sydd newydd fod yn rhan o siwrne addysgol awdurdod Caerdydd, ble cadeiriais i Fwrdd Datblygu Addysg y ddinas, rwy’n adnabod y pwysau mae arolygiad yn eu creu. Ond dwi hefyd wedi gweld, os ydyn ni’n gofyn y cwestiynau cywir, deall eich sefyllfa a wedyn cynnig ciplun o’r profiad sydd wedi ei adeiladu o fewn Estyn, dyle’r holl broses fod yn un sy’n heriol ond hefyd yn un adeiladol ac, erbyn y diwedd, yn un positif sy’n galluogi unrhyw sefydliad addysgol i wella. Dyna yw fy uchelgais i ar gyfer ein holl waith. Fel rhan o sicrhau hyn, dwi’n credu bod ‘na welliannau y gallwn ni eu gwneud wrth dargedu a phecynnu ein gwaith, yn enwedig o gwmpas ein gwaith thematig.

Dwi wir yn credu ein bod yn cynhyrchu gwaith o safon. Mae’r addroddiadau ar Aflonyddu Rhywiol ymhlith Cyfoedion a hefyd ar Drochi Iaith yn esiamplau pwerus o beth rydym yn gallu cyflawni. Ac os ydych chi heb darllen y ddau, bydden i’n eich annog chi i gael cipolwg. Ond rwy’n deall iawn y pwysau rydych chi gyd yn wynebu o ddydd i ddydd a’r diffyg amser sydd ar draws addysg. Felly mae’n rhaid i Estyn gynnig crynodeb cywir o’n canfyddiadau i sicrhau bod y negeseuon pwysig o’ch blaenau.

Gofynnais i ychydig o gydweithwyr yr wythnos ddiwethaf faint ohonyn nhw oedd wedi darllen ein hadroddiad blynyddol o glawr i glawr, ac roedd cryn dipyn o shifflo’n anesmwyth. Fydd hi ddim yn syndod i chi felly, gobeithio, bod gwaith eisoes ar droed i wneud adroddiad eleni’n fwy hygyrch, ac yn fwy defnyddiol, gobeithio. Hefyd, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n dechrau gweld symudiad tuag at ddarparu adolygiadau ac adroddiadau mwy hygyrch, gyda chrynodebau byr a fersiynau wedi’u teilwra ar gyfer ein rhanddeiliaid amrywiol, chi y proffesiwn, ond hefyd i ddysgwyr ac yn wir, rhieni a llywodraethwyr, a hyd yn oed llunwyr polisi.

Effaith yw fy mhrif nod, a thrwy gamau o’r fath, dwi’n gobeithio y gall Estyn adeiladu ar ei waith i ddarparu’r sicrwydd a’r cymorth sydd ei angen arnoch chi wrth i ni gyd geisio gwella o ddiwrnod i ddiwrnod er budd dysgwyr ledled Cymru.

Diolch yn fawr.