Holiadur cyn arolygiad - staff (Unedau cyfeirio disgyblion) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – staff (Unedau cyfeirio disgyblion)



Hoffem glywed eich barn am eich Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) fel aelod o staff. Darllenwch bob datganiad gan ystyried eich profiadau eich hun a thiciwch y blwch sy’n cyfateb orau i’ch barn. I rai cwestiynau, cewch gyfle i esbonio pam y dewisoch chi’r ateb hwnnw, os hoffech wneud hynny.

Mae eich barn yn bwysig i ni. Mae eich atebion chi ac atebion pobl eraill yn helpu i lywio’r arolygiad. Lle y bo’n briodol, gallem ddefnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu o holiaduron i’n helpu i lunio darlun cenedlaethol o waith UCDau ar draws Cymru hefyd.

Mae’r holiadur yn ddienw. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich enw.

Bydd arolygwyr Estyn:

  • yn darllen eich atebion
  • byth yn datgelu eich atebion unigol i’r UCD nac i unrhyw un y tu allan i Estyn. Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am eich diogelwch chi, diogelwch staff eraill neu ddiogelwch dysgwyr.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.