Holiadur cyn arolygiad - staff (Colegau annibynnol arbenigol) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – staff (Colegau annibynnol arbenigol)



Hoffem glywed eich barn am eich coleg fel aelod o staff. Darllenwch bob datganiad gan ystyried eich profiadau eich hun a thiciwch y blwch sy’n cyfateb orau i’ch barn. I rai cwestiynau, cewch gyfle i esbonio pam y dewisoch chi’r ateb hwnnw, os hoffech chi wneud hynny.

Mae eich barn yn bwysig i ni. Mae eich atebion chi ac atebion pobl eraill yn helpu i lywio’r arolygiad. Lle y bo’n briodol, gallem ddefnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu o arolygon i’n helpu i lunio darlun cenedlaethol o waith colegau ar draws Cymru, hefyd.

Mae’r arolwg yn ddienw. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich enw.

Bydd arolygwyr Estyn yn:

  • darllen eich atebion
  • byth yn datgelu eich atebion unigol i’r coleg nac i unrhyw un y tu allan i Estyn Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am ddiogelwch dysgwyr.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.