Addysg Drochi Cymraeg - Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed

Share document

Share this

Prif ganfyddiadau

Share document

Share this

Arweinyddiaeth
  1. Addysg drochi yw prif ddull bron bob awdurdod lleol ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd a datblygu medrau Cymraeg dysgwyr. Mae arweinwyr mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, ysgolion dwyieithog, a chanolfannau trochi iaith yn blaenoriaethu addysg drochi yn effeithiol. Maent yn darparu profiadau cyfoethog i ddysgwyr mewn amgylchedd dysgu gynhwysol a Chymreig. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae arweinwyr yn cynllunio’n fwriadus i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y ddarpariaeth, y cartref a’r gymuned.
  2. Mae’r rhan fwyaf o arweinwyr mewn awdurdodau lleol yn cynllunio strategaethau addas er mwyn galluogi ymarferwyr i ddefnyddio dulliau trochi cynnar fel rhan annatod o ddarpariaeth y cyfnod sylfaen. Mae tua hanner yr awdurdodau lleol yn cefnogi hwyrddyfodiaid i addysg cyfrwng Gymraeg mewn canolfannau trochi. Yn yr arferion gorau, caiff trafnidiaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid i’r canolfannau hyn ei gyllido a’i drefnu gan yr awdurdodau. Gan fod y ddarpariaeth ar gyfer hwyrddyfodiaid mor anghyson ledled Cymru, nid yw pob dysgwr yn cael yr un cyfleon i gael mynediad yn ddigon buan at addysg cyfrwng Cymraeg. At ei gilydd, mae llawer o awdurdodau yn darparu gwybodaeth addas am addysg drochi i rieni/gofalwyr.  
  3. Mae gan lawer o awdurdodau lleol drefniadau priodol ar gyfer hunanwerthuso a gwella darpariaeth trochi cynnar a throchi hwyr. Mewn ychydig o awdurdodau, mae’r prosesau ar gyfer gwerthuso a phennu nodau gwella yn aneglur. Yn yr arferion gorau, mae awdurdodau a chonsortia rhanbarthol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ymarferwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o athroniaeth a dulliau trochi, a rhannu arfer effeithiol. Nid yw’r cyfleoedd dysgu proffesiynol yn cael effaith digon cyson ar wella darpariaeth er mwyn cefnogi dysgwyr i gaffael medrau Cymraeg trwy’r broses drochi.  
Darpariaeth
  1. Mae bron bob un o’r ymarferwyr yn cefnogi dysgwyr yn effeithiol trwy greu amgylchedd dysgu cynhaliol. Mae ymarferwyr yn cynnal dysgwyr i deimlo’n gynyddol hyderus i roi cynnig ar siarad Cymraeg heb ofn methu. Yn yr achosion cryfaf, maent yn darparu amrywiaeth o brofiadau sy’n cofleidio’r dysgwyr yn y Gymraeg. Lle mae’r addysgu ar ei orau, mae ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau gyda chyflymder sionc. Maent yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael geirfa ac ymarfer patrymau cystrawennol mewn sesiynau torfol, trwy ymateb i ymarferwyr mewn grwpiau bach, a thrwy siarad mewn parau.
  2. Mae y rhan fwyaf o ymarferwyr yn meithrin a datblygu medrau gwrando a siarad dysgwyr fel rhan greiddiol o ddarpariaeth drochi iaith. Maent yn cefnogi dysgwyr i gaffael medrau Cymraeg trwy fodelu iaith raenus yn gyson a chydag ynganiad clir. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif yr ymarferwyr yn cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol yn ddigon bwriadus er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad wrth gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau siarad.
  3. Mae llawer o ymarferwyr y cyfnod sylfaen yn datblygu medrau darllen cynnar dysgwyr yn effeithiol trwy gyflwyno llythrennau a’r seiniau cyfatebol mewn modd hwyliog ac aml-synhwyrol. Maent yn ysgogi diddordeb dysgwyr ifanc trwy ddarllen straeon a rhoi mynediad iddynt at ystod o ddeunyddiau addas. Mae’r ymarferwyr hyn yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddarllen testunau sy’n gynyddol heriol wrth iddynt fagu hyder yn ystod y cyfnod trochi cynnar. Mae’r rhan fwyaf o’r ymarferwyr sy’n cefnogi hwyrddyfodiaid yn cynllunio gweithgareddau buddiol iddynt ddatblygu eu medrau darllen, er enghraifft wrth i ddysgwyr ddarllen sgriptiau.
  4. Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn darparu gweithgareddau ysgrifennu buddiol wrth i ddysgwyr ddatblygu eu medrau. Mae ymarferwyr yn datblygu medrau llafar dysgwyr yn llwyddiannus sydd yn ei dro yn cael effaith cadarnhaol ar eu medrau ysgrifennu. Mae ymarferwyr yn sicrhau cyfleodd buddiol i ddysgwyr fewnoli’r Gymraeg cyn iddynt roi cynnig ar ysgrifennu.
  5. Mae’r ddarpariaeth drochi hwyr fwyaf effeithiol yn cael ei chynnig trwy gyfrwng rhaglenni dwys. Mae hyn yn golygu bod ymarferwyr yn meithrin medrau Cymraeg dysgwyr mewn grwpiau bach am ran fwyaf o’r amser am gyfnod estynedig. Mae rhan fwyaf o ymarferwyr mewn canolfannau trochi iaith yn darparu rhaglenni trochi hynod lwyddiannus sy’n ysgogi dysgwyr yn effeithiol. Fodd bynnag, nid yw’r holl adnoddau sy’n cael eu defnyddio yn adlewyrchu a dathlu’r amrywiaeth sy’n bodoli yn y Gymru fodern. At ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn hyderus a hyfedr eu medrau Cymraeg ar ddiwedd y rhaglenni.
Dysgu ac agweddau at ddysgu
  1. Mae bron bob dysgwr yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu’r Gymraeg yn ystod y broses addysg drochi. Maent yn cymryd rhan mewn sesiynau yn frwdfrydig, ac yn ymfalchïo yn y cynnydd â wnânt wrth ddatblygu hyder i siarad Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn mwynhau siarad Cymraeg yn y dosbarth a thu hwnt, er enghraifft wrth iddynt gymryd rhan mewn gemau buarth. Trwy hyn, maent yn dod yn siaradwyr gweithredol ac yn llwyddo i gymhwyso eu medrau yn fwyfwy annibynnol. 
  2. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion yn caffael medrau Cymraeg yn llwyddiannus trwy’r broses drochi cynnar. Maent yn meithrin eu medrau gwrando a siarad trwy adeiladu’n gyflym ar adnabyddiaeth o eiriau allweddol. Yn dilyn cefnogaeth drochi gyson, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dechrau siarad Cymraeg gydag oedolion a chyfoedion gyda hyder cynyddol. Maent yn datblygu medrau darllen yn fedrus, ac yn ei dro maent datblygu eu medrau ysgrifennu’n briodol gan ddwyn i gof geirfa a phatrymau cystrawennol. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu eu medrau Cymraeg yn dda ac mae hyn yn eu cefnogi i wneud cynnydd pellach ar draws y meysydd dysgu yng nghyfnod allweddol 2.
  3. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n cwblhau rhaglenni trochi hwyr dwys yn cyrraedd lefel hyfedredd addas er mwyn llwyddo mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr mewn canolfannau trochi iaith yn datblygu medrau gwrando a siarad yn gyson dda. Gwnânt gynnydd cyson yn eu medrau darllen ac erbyn diwedd y rhaglenni trochi hwyr dwys mae llawer yn ysgrifennu darnau estynedig yn y Gymraeg gan ddefnyddio geirfa cyfarwydd. Yn yr achosion hynny lle darperir cefnogaeth i hwyrddyfodiaid trwy drefniadau amgen yn yr ysgol, mae mwyafrif yn gwneud cynnydd priodol.

Share document

Share this