Addysg Drochi Cymraeg - Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed

Share document

Share this

Geirfa

Share document

Share this

ail-lunio

Dull o ddarparu adborth i ddysgwr lle mae'r ymarferydd yn ailgyflwyno brawddeg y dysgwr heb gamgymeriad. ‘Recast’ yn Saesneg.

amgylchedd dysgu

Ble mae’r addysgu a’r dysgu yn digwydd yn y dosbarth ac o amgylch lleoliad neu ysgol.

brechdan

Dull o gyflwyno iaith newydd (er enghraifft y Gymraeg), trwy ddweud brawddeg yn Gymraeg (sef yr iaith newydd), yna’r Saesneg (sef iaith y cartref), ac yna’r Gymraeg eto.

cyfuno

Cyfuno ffonemau unigol â’i gilydd i gynhyrchu graffem neu air.

darpariaeth barhaus ac estynedig

Termau sy’n disgrifio agweddau o ddarpariaeth yn y cyfnod sylfaen. Mae darpariaeth barhaus yn cyfeirio at ddefnyddio adnoddau sydd ar gael yn barhaus yn yr ystafell ddosbarth dan do neu yn yr awyr agored i ddysgwyr eu defnyddio’n annibynnol. Mae darpariaeth estynedig yn cyfeirio at heriau neu dasgau ychwanegol sy’n cyd-fynd â phwnc neu ddiddordebau dysgwyr. Bydd y dysgwyr yn defnyddio’r adnoddau hyn yn ogystal â’r adnoddau arferol mewn darpariaeth barhaus

darpariaeth cyn canolfan

Darpariaeth i gefnogi hwyrddyfodiaid yn ystod cyfnod interim cyn iddynt fynychu canolfan trochi iaith.

darpariaeth ôl-ofal

Darpariaeth i gefnogi hwyrddyfodiaid ar ôl iddynt fynychu canolfan trochi iaith.

hwyrddyfodiaid

Dysgwyr (sy’n 7 oed neu’n hŷn) nad ydynt yn siarad Cymraeg ond sy’n dymuno cael addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl diwedd y cyfnod sylfaen.

iaith darged

Yr iaith newydd mae dysgwr yn ei chaffael, sef Cymraeg yng nghyd-destun yr adroddiad hwn.

lleoliad nas cynhelir

Lleoliad a allai fod yn feithrinfa ddydd preifat, cylch chwarae neu Gylch Meithrin sydd â statws cymeradwy sy'n cynnig 10 awr yr wythnos o addysg a ariennir dros o leiaf 3 diwrnod.

mam ysgol

Yr ysgol cyfrwng Cymraeg newydd mae’r dysgwr yn ymuno â hi llawn amser ar ôl cyfnod mewn canolfan trochi iaith.

newydd-ddyfodiaid

Term arall ar gyfer ‘hwyrddyfodiaid’ (gweler uchod). Yn yr adroddiad hwn rydym yn defnyddio’r term ‘hwyrddyfodiaid’.

patrymau cystrawennol

Strwythur brawddeg sy’n cynnwys geiriau mewn trefn benodol.

trefniadau peripatetig

Darpariaeth i gefnogi hwyrddyfodiaid drwy drefnu cymorth unigol neu grŵp bach gan ymarferydd sy'n ymweld â'r ysgol yn unol ag amserlen, er enghraifft yn wythnosol.

trochi cynnar

Mae trochi cynnar yn golygu cyflwyno a defnyddio’r Gymraeg fel unig iaith yr addysgu (heblaw am ychydig iawn o eithriadau) yn y cyfnod sylfaen mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Yn yr arfer orau, mae hyn yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei chyflwyno’n fwriadus i ddysgwyr mewn sesiynau iaith penodol, ynghyd â darparu cyfleoedd cyson iddynt gaffael a chymhwyso’u medrau Cymraeg trwy brofiadau cyfoethog o fewn a thu hwnt i’r dosbarth.  

trochi hwyr

Mae trochi hwyr yn golygu darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd yn ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog sydd heb brofi cyfnod cyfan o drochi cynnar yn y Gymraeg. Gall y dysgwyr hyn fod yn gwbl newydd i’r Gymraeg neu’n ail ymgysylltu gyda darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn yr achosion cryfaf, mae darpariaeth trochi hwyr yn raglen dwys a strwythuredig.

ymarferwyr

Term cyffredinol i ddisgrifio oedolion sy’n gweithio gyda dysgwyr, er enghraifft athrawon, cynorthwywyr ac arweinwyr cylchoedd meithrin.

ysgol letyol

Ysgol lle lleolir y ganolfan drochi iaith.

Rhifau – meintiau a chyfrannau

 

bron bob un =

gydag ychydig o eithriadau

y rhan fwyaf =

90% neu fwy

llawer =

70% neu fwy

mwyafrif =

dros 60%

hanner =

50%

tua hanner =

yn agos at 50%

lleiafrif =

o dan 40%

ychydig =

o dan 20%

ychydig iawn =

llai na 10%

 

Share document

Share this