Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gynlluniau priodol i gryfhau eu darpariaeth ar gyfer y Gymraeg, gyda llawer yn cyfeirio at addysg drochi yn benodol. Mae mwyafrif y swyddogion yn siarad gyda brwdfrydedd am eu cynlluniau arfaethedig i gryfhau’r Gymraeg mewn addysg, er enghraifft trwy ddisgrifio cynnwys eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) drafft a’r defnydd arfaethedig o’r arian adfer COVID-19 sydd ar gael i gefnogi trochi hwyr. Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar i adrodd yn gynhwysfawr ar y cynlluniau a’u heffaith. Yn yr achosion lle maent yn cynnig gweledigaeth gadarn ar gyfer y defnydd o addysg drochi, mae hyn yn bennaf yn cyfeirio at gryfhau prosesau trochi cynnar sydd eisoes yn gadarn, ehangu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sectorau nas cynhelir a chynradd, neu sefydlu canolfannau trochi iaith i gefnogi hwyrddyfodiaid. Lle mae awdurdodau yn cynllunio ar gyfer sefydlu canolfannau trochi iaith newydd, ar y cyfan, mae’r trefniadau ar gam cynnar iawn. Caiff cyllideb gan Lywodraeth Cymru i gefnogi y Gymraeg mewn addysg ei ddyrannu i awdurdodau fel rhan o’r Grant Gwella Addysg.
Mae gan ychydig o awdurdodau lleol bolisi iaith lle mae pob ysgol gynradd yn trochi dysgwyr yn y Gymraeg hyd at ddiwedd y cyfnod sylfaen. Yn yr achosion hyn, mae’r disgwyliadau o ran addysg drochi yn gadarn.
Mae gan awdurdodau lleol ddulliau gwahanol o gefnogi hwyrddyfodiaid i'r Gymraeg drwy ddarpariaeth drochi hwyr. Lle mae awdurdodau'n cynnal canolfannau trochi iaith ar gyfer dysgwyr sy'n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg yn hwyrach yn eu gyrfa ysgol, mae eu trefniadau’n amrywio. Mae gan rai awdurdodau un canolfan y gall bob ysgol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ei defnyddio, tra bod gan eraill ganolfannau trochi iaith wedi’u sefydlu ar safleoedd ysgolion gwahanol. Mae gan ychydig iawn o awdurdodau gyfundrefn ddeuol, lle mae canolfan trochi iaith ar gael mewn ardal benodol, tra bod gweddill yr ysgolion yn cefnogi hwyrddyfodiaid o fewn lleoliadau eu hunain. At ei gilydd, mae darpariaeth addysg drochi hwyr ar ei orau pan mae dysgwyr yn caffael y Gymraeg trwy raglen ddwys a strwythuredig, fel arfer wrth i ddysgwyr fynychu canolfan trochi iaith. O ganlyniad i’r ddarpariaeth anghyson ledled Cymru, nid yw pob dysgwr yn derbyn yr un cyfleoedd i gaffael medrau Cymraeg yn ddigon buan wrth drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg yn hwyrach yn eu gyrfa ysgol.
Cameo – gwireddu gweledigaeth trwy gynllunio’n strategol i sefydlu Canolfan Iaith Gymraeg
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi agor Canolfan Iaith Gymraeg newydd yn sgil ail fodelu bwriadus ar draws yr awdurdod. Penderfynwyd gwneud defnydd o adeilad gwag ar safle Ysgol Glan Clwyd, sef ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg y sir. Fel rhan o’r weledigaeth, cydweithiodd partneriaid allweddol yn gyson i ddatblygu cynlluniau er mwyn sefydlu darpariaeth ar gyfer hybu medrau Cymraeg dysgwyr o bob oed.
O fewn y Ganolfan Iaith Gymraeg newydd, mae cylch meithrin wedi’i sefydlu. Trwy drefniant gyda’r Mudiad Meithrin, mae dysgwyr ôl 16 Ysgol Glan Clwyd yn derbyn cyfleoedd profiad gwaith gwerthfawr wrth iddynt gefnogi dysgwyr ifanc ar y safle.
Mae darpariaeth i gefnogi hwyrddyfodiaid cyfnod allweddol 2 trwy raglen drochi ddwys yn cael ei chynnig yn y ganolfan. Yn ogystal, mae’r ddarpariaeth ar gyfer cefnogi hwyrddyfodiaid Blwyddyn 7 a Blwyddyn 8 Ysgol Glan Clwyd yn y ganolfan.
Trwy drefniant gyda Phrifysgol Bangor, caiff cyrsiau sabothol ar gyfer y Gymraeg eu darparu yn y ganolfan. Mae canolfan adnoddau ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg wedi ei lleoli ar y safle hefyd, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau diweddaraf yn hygyrch i athrawon yr awdurdod.
Trwy ddatblygu’r weledigaeth mewn cynlluniau bwriadus, Mae’r awdurdod yn defnyddio’r ganolfan fel cyrchfan i ddarparu ystod gyfoethog o gyfleoedd i ddysgwyr o bob oed ddatblygu eu medrau Cymraeg. Dengys hyn bod holl bartneriaid yr awdurdod yn blaenoriaethu’r Gymraeg yn briodol ac wedi cydweithio’n llwyddiannus er mwyn gwireddu eu gweledigaeth.
Mewn canolfannau trochi iaith, yn y rhan fwyaf o achosion mae'r ddarpariaeth o ddydd i ddydd yn cael ei harwain gan ymarferydd sydd â chyfrifoldeb arweiniol penodol, gyda chymorth athrawon eraill neu gynorthwywyr dysgu. Fodd bynnag, mae gweithdrefnau rheoli yn amrywio'n sylweddol o’r naill awdurdod lleol i'r llall. Er enghraifft, mae un awdurdod yn dirprwyo'r cyfrifoldeb rheoli’r ganolfan drochi iaith i bennaeth yr ysgol letyol. Maent yn gyfrifol am bron bob agwedd o’r ganolfan, gan gynnwys rheoli'r gyllideb a darparu cefnogaeth adnoddau dynol, fel bo’n briodol. Mewn awdurdod arall, mae athrawon arweiniol yn adrodd yn uniongyrchol i swyddogion addysg sy'n gyfrifol am wahanol agweddau o’r ddarpariaeth. Mewn awdurdod arall eto, rheolir yr athro arweiniol gan gydgysylltydd tîm ymgynghorol y Gymraeg yr awdurdod, sydd hefyd yn darparu gwasanaethau eraill i ysgolion fel cymorth cyn-ganolfan ac ôl-ofal. Ar y cyfan, nid yw prosesau rheoli’n ddigon cadarn gan eu bod yn aml wedi esblygu dros amser, er enghraifft wrth i'r galw am addysg drochi gynyddu.
Mewn ychydig o ganolfannau trochi iaith, mae arweinwyr yn mireinio eu darpariaeth yn sgil prosesau hunanwerthuso yn briodol. Er enghraifft, mae arweinwyr yn datblygu adnoddau sy’n ennyn a chynnal diddordeb bechgyn yn ogystal a merched er mwyn eu cefnogi wrth iddynt gael eu trochi yn y Gymraeg. Yn yr arfer orau, mae penaethiaid yn arsylwi sesiynau ar y cyd gydag arweinwyr canolfannau iaith yn rheolaidd gan efelychu arddull ac amserlen hunanwerthuso yr ysgol letyol. Ar y cyfan, mae arweinwyr yn ymddiried mewn arbenigedd a phrofiad yr ymarferwyr yn y canolfannau trochi iaith. Mewn llawer o awdurdodau, mae’r trefniadau ar gyfer hunanwerthuso’r ddarpariaeth mewn canolfannau trochi iaith yn rhy anffurfiol. O ganlyniad, nid yw arweinwyr yn gwerthuso'r ddarpariaeth yn ddigon bwriadus nac yn gosod nodau gweithredu addas ar gyfer gwella'r addysgu a dysgu yn ddigon trylwyr.
At ei gilydd, mae gan awdurdodau lleol weithdrefnau gwahanol wrth dderbyn hwyrddyfodiaid i ganolfannau trochi iaith. Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf yn cynnig llefydd i ddysgwyr cyfnod allweddol 2, gydag ychydig yn cynnig darpariaeth o Flwyddyn 1 ymlaen. Mae’r rhan fwyaf yn darparu mynediad cyson ar ddechrau cyfnod penodol o’r rhaglen yn unig, sydd gan amlaf ar ddechrau tymor newydd, gydag ychydig yn rhoi mynediad i ddysgwyr yn hwyrach yn y tymor sy’n golygu eu bod yn ymuno ar ôl i ddysgwr eraill ddechrau’r rhaglen. At ei gilydd, mae hwyrddyfodiaid yn caffael y Gymraeg yn gyflymach wrth gael mynediad diymdroi at ddarpariaeth mewn canolfannau trochi iaith. Fodd bynnag, mae hyn yn amharu ar lif a dilyniant y rhaglenni sydd yn ei tro yn cael effaith ar gynnydd dysgwyr sydd wedi mynychu ers dechrau’r tymor.
Mae bron bob awdurdod lleol sydd â chanolfan trochi iaith yn ariannu a threfnu trafnidiaeth ar gyfer dysgwyr sy’n mynychu’r ganolfan. Mae arweinwyr yn nodi’n glir bod hyn yn ystyriaeth bwysig er mwyn sicrhau ymrwymiad rhieni/gofalwyr i ddewis addysg Gymraeg, a llwyddiant y broses drochi ar gyfer eu plant. Mae ychydig iawn o awdurdodau yn darparu gwasanaeth i awdurdodau cyfagos trwy drefniant, sy’n caniatáu i ddysgwyr gael mynediad at ddarpariaeth mewn canolfannau trochi iaith.
Mae llawer o awdurdodau lleol yn cyfeirio at y canolfannau trochi iaith mewn llyfrynnau mynediad yn briodol. At ei gilydd, nid ydynt yn hyrwyddo neu hybu’r ddarpariaeth yn benodol, a phrin yw’r wybodaeth i rieni/gofalwyr am fanteision dwyieithrwydd ac athroniaeth trochi, yn gyffredinol. Mewn llawer o awdurdodau ble mae cynnydd am y galw yn y ddarpariaeth, nid yw’r awdurdodau hynny yn blaengynllunio’n ddigon bwriadus i ddiwallu dyheadau rhieni/gofalwyr. O ganlyniad, mae’r cynlluniau ar gyfer darparu gwasanaeth trochi hwyr yn dueddol o fod yn adweithiol yn hytrach na rhagweithiol.
Cameo – awdurdod yn rhannu gwybodaeth gyda phartneriaid eraill
Mae Tîm Athrawon Datblygu’r Gymraeg Cyngor Sir Gâr yn darparu gwybodaeth fuddiol am addysg drochi trwy wefan berthnasol. Maent yn paratoi clipiau fideo i hybu addysg cyfrwng Cymraeg i rieni/gofalwyr ac cynnig cymorth i’r sawl sydd ddim yn siarad Cymraeg. Er enghraifft, mewn un clip, maent yn cynnig gweithgareddau posibl ar gyfer rhieni a’u plant, fel ymweld â siop lyfrau Gymraeg neu wylio rhaglenni teledu Cymraeg. Mewn clip arall, maent yn egluro enwau llefydd Cymraeg yn yr ardal. Maent yn darparu cyfres o gyflwyniadau deniadol sy’n egluro manteision dwyieithrwydd ac yn ymateb i gwestiynau cyffredin rhieni/gofalwyr am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Mae adran arall o’r wefan yn cynnig adnoddau defnyddiol ar gyfer athrawon. Er enghraifft, ceir cyfres o gemau bwrdd i atgyfnerthu geirfa, gemau digidol a chyfarwyddiadau ar gyfer gemau buarth. Mae adran arall yn cynnwys cyfres o fonologau gan actorion sy’n chwarae rhan cymeriadau hanesyddol yr ardal fel sbardun apelgar wrth gyflwyno straeon lleol i ddysgwyr. Yn ogystal, ceir fideos sy’n darparu gwybodaeth fuddiol, er enghraifft trwy amlygu arfer effeithiol ar gyfer datblygu medrau Cymraeg dysgwyr.
Wrth rannu gwybodaeth gyda rhieni/gofalwyr, mae’r awdurdod yn cyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol am raglenni sy’n cael eu darparu gan y canolfannau trochi iaith. Yn ogystal, maent yn cyflwyno deunyddiau buddiol am addysg cyfrwng Cymraeg mewn clipiau defnyddiol sy’n cynnwys cyfraniadau gan rieni/gofalwyr eraill sydd eisoes wedi manteisio ar y ddarpariaeth ar gyfer eu plant.
Mewn tua hanner yr awdurdodau lleol, ceir athrawon ymgynghorol sy’n cefnogi gwaith eu canolfannau trochi iaith. Yn yr arfer orau, maent yn cynnig gwasanaeth gynhwysfawr i ddysgwyr, er enghraifft darpariaeth cyn ganolfan ac ôl-ofal. Maent hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol buddiol ac adnoddau defnyddiol ar gyfer ymarferwyr. At ei gilydd, mae’r gefnogaeth hon yn cynnig darpariaeth gyson ar draws yr awdurdod i ddysgwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd.
Mae mwyafrif yr awdurdodau lleol yn cynnig rhaglenni trochi gwerthfawr ar ddechrau Blwyddyn 7 ar gyfer dysgwyr sy’n ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg am y tro cyntaf ar ddechrau eu haddysg uwchradd. Mewn ychydig o achosion, mae dysgwyr yn mynychu’r ysgol uwchradd newydd am gyfnod o thua hanner tymor cyn gwyliau’r haf i dderbyn gwersi Cymraeg a phrofiadau ar draws y meysydd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad i’r trefniadau hyn, mae dysgwyr yn magu hyder i siarad Cymraeg gyda’u cyfoedion newydd mewn amgylchedd dysgu Cymraeg a Chymreig.
Mae rhai awdurdodau lleol yn dyrannu cyllid ar gyfer darpariaeth addysg drochi hwyr yn uniongyrchol i'w hysgolion cyfrwng Cymraeg a ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog. Prif nod y dull hwn yw caniatáu i'r ysgolion hynny gyflogi staff cymorth ychwanegol i gynorthwyo hwyrddyfodiaid i integreiddio i'w hamgylchedd dysgu Cymraeg newydd. Yn yr enghreifftiau cryfaf, mae ysgolion yn cydweithio’n agos gyda'r awdurdod i gyflwyno rhaglen ddwys ar gyfer hwyrddyfodiaid. Fodd bynnag, lle mae dulliau gweithredu'n llai bwriadus, nid oes gan ddysgwyr fynediad at gymorth cyson neu systematig wrth gaffael medrau Cymraeg newydd. Mae hyn yn llesteirio eu cynnydd a’u gallu i gael mynediad at brofiadau addas ar draws y meysydd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gan ychydig iawn o awdurdodau lleol drefniadau peripatetig i gefnogi hwyrddyfodiaid. Fel arfer, mae trefniadau peripatetig yn darparu profiadau buddiol i ddysgwyr mewn sesiynau unigol neu grwpiau bach am gyfran fechan o'r wythnos. Mewn ychydig o achosion, gall hyn fod cyn lleied â 45 munud yr wythnos. O ganlyniad, nid yw’r dull hwn yn cefnogi’r dysgwyr i gael eu trochi yn y Gymraeg yn ddigon effeithiol mewn cyfnod byr. Yn ogystal, nid yw’n darparu cyfleoedd digon cyson iddynt fagu hyder i siarad Cymraeg yn fwyfwy digymell gyda’u cyfoedion ac ymarferwyr.
Mae ychydig o awdurdodau lleol yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol defnyddiol yn rheolaidd i ymarferwyr i gefnogi a datblygu addysg drochi. Er enghraifft, mae swyddog addysg mewn un awdurdod yn darparu hyfforddiant i athrawon newydd gymhwyso am y polisi iaith a’r athroniaeth drochi. Mae awdurdod arall yn defnyddio gwasanaeth a ddarperir gan y tîm ymgynghorol y Gymraeg yn effeithiol i fodelu dulliau trochi mewn dosbarthiadau prif lif er mwyn i ymarferwyr efelychu’r arferion effeithiol hyn. Yn yr enghreifftiau gorau, mae ymarferwyr mewn canolfannau trochi iaith yn rhannu eu harferion yn effeithiol gydag ymarferwyr mewn ysgolion. Er enghraifft, maent yn cydweithio gyda’r consortia lleol i rannu gwybodaeth am waith ymchwil rhyngwladol am ddulliau trochi iaith. Trwy hyn, mae ymarferwyr yn dwysau eu dealltwriaeth am ddulliau trochi effeithiol sy’n cyfoethogi profiadau dysgwyr wrth gaffael medrau Cymraeg. Ar y cyfan, prin yw’r esiamplau lle ceir cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd am drochi iaith fel rhan o strategaeth awdurdod neu ranbarth. O ganlyniad, er bod ychydig o ymarferwyr yn cael budd o’r cyfleoedd hyn, nid yw arweinwyr yn cynllunio’n fwriadus i ddarparu cyfleoedd cyson i arfogi gweddill yr ymarferwyr wrth iddynt ddatblygu eu harferion trochi.
Cameo – defnyddio ymchwil rhyngwladol i gryfhau’r ddarpariaeth trochi hwyr
Mae ymarferwyr yn Uned Drochi Iaith Caerdydd yn myfyrio ar ymchwil rhyngwladol er mwyn mireinio’r ddarpariaeth a’u dulliau trochi. Fel rhan o’u dysgu proffesiynol maent wedi adnabod athroniaeth drochi effeithiol sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar ddulliau addysgu yr ymarferwyr wrth iddynt gefnogi dysgwyr gyda’u medrau Cymraeg.
Mae ymarferwyr yn gwneud defnydd effeithiol o agweddau o’r athroniaeth ‘dadawgrymeg’ (Lozanov, 2005). Mae hyn yn cynnwys creu amgylchedd bositif lle mae’r dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn mwynhau dysgu. Maent yn cyflawni hyn trwy nifer o strategaethau gwahanol gan gynnwys creu mannau dysgu deniadol gyda phosteri sy’n amlinellu geirfa a phatrymau cystrawennol Cymraeg. Maent yn newid y posteri yn amserol er mwyn iddynt fod mor ddefnyddiol â phosibl i’r dysgwyr. Maent yn cynllunio gweithgareddau sy’n galluogi dysgwyr i ymgolli eu hunain mewn cymeriad gwahanol wrth siarad Cymraeg, er enghraifft trwy actio rhan tad-cu yn deillio o straeon y rhaglen ddwys.
Mae ymarferwyr hefyd yn defnyddio agweddau o’r dull ‘ymateb corfforol llwyr’ (Asher, 1969) yn gyson trwy ddefnyddio symudiadau i gyd-fynd a geiriau allweddol wrth iddynt siarad. Pan gyflwynir geirfa newydd i ddysgwyr, mae ymarferwyr yn eu hannog i’w hefelychu trwy wneud symudiadau tebyg. Mae’r ymarferwyr yn parhau i ddefnyddio’r symudiadau trwy gydol y rhaglen er mwyn atgyfnerthu dealltwriaeth y dysgwyr.
Yn dilyn cyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr, mae gan ymarferwyr yr wybodaeth broffesiynol angenrheidiol i gefnogi dysgwyr yn hynod effeithiol wrth i ymchwil rhyngwladol fod yn sylfaen cadarn i’w dulliau trochi.
Mae bron bob un o’r awdurdodau lleol sydd yn cynnal canolfannau trochi iaith yn eu lleoli ar dir ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mewn llawer o achosion, mae hyn yn cael effaith cadarnhaol ar yr ysgol letyol. Er enghraifft, mae ymarferwyr yr ysgolion hynny yn derbyn cyfleodd buddiol i arsylwi sesiynau gan athrawon arbenigol y canolfannau trochi iaith. Yn yr enghreifftiau gorau, mae ymarferwyr canolfannau trochi iaith yn arwain ar gynlluniau cyflwyno iaith ar draws ysgolion y clwstwr. Er enghraifft, maent yn cydweithio gydag ymarferwyr ysgolion i gyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol wrth i ddysgwyr ryngweithio yn yr ardal tu allan. Trwy gydweithio cyson, caiff hyn effaith cadarnhaol ar fedrau Cymraeg dysgwyr gan sicrhau cysondeb mewn profiadau dysgu ar draws y clwstwr.
Cameo – defnyddio arbenigedd ymarferwyr canolfannau trochi iaith i ledaenu arfer effeithiol
Mae ymarferwyr Canolfan Iaith Môn yn cefnogi ysgolion drwy gynnig, arweiniad, arbenigeddau ieithyddol ac adnoddau. Mae hyn yn arfogi athrawon gyda’r medrau angenrheidiol sydd eu hangen arnynt wrth drochi dysgwyr yn effeithiol yn y Gymraeg.
Mae ymarferwyr yn arwain ar gyfleoedd dysgu proffesiynol mewn ardaloedd gyda chanran uchel o siaradwr Saesneg. Er enghraifft, yn nalgylch Caergybi maent wedi cefnogi ymarferwyr mewn ysgolion i gyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol briodol yn gyson trwy’r clwstwr. Mae ymarferwyr yn cynnig arweiniad ar sut i gefnogi medrau Cymraeg dysgwyr trwy weithgareddau yn yr ardal tu allan. Er enghraifft, maent yn cydweithio gydag athrawon y clwstwr i greu matiau iaith yn seiliedig ar eirfa byd natur a bywyd gwyllt, a themâu cyffredin arall. Mae hyn yn cael effaith cadarnhaol ar safonau ieithyddol llawer o ddysgwyr.
Yn ddiweddar, mae ymarferwyr wedi datblygu’r gefnogaeth ymhellach er mwyn rhannu arferion effeithiol ar draws yr awdurdod. Maent yn rhannu clipiau digidol byr yn cyflwyno dulliau a syniadau ar addysgeg drochi bwriadus i’r ymarferwyr mewn ysgolion. Er enghraifft, trwy gynnig syniadau am y defnydd o iaith wrth gofrestru a sut i ateb cwestiynau gan ddewis yn gywir o’r gwahanol ffyrdd o ddweud ia a na. Mae’r clipiau yn cyfeirio at adnoddau i gefnogi’r dysgu sydd eisoes ar gael ar eu cyfer fel matiau iaith penodol.
Mae ymarferwyr Canolfan Iaith Môn yn darparu gwybodaeth a chyfleoedd dysgu proffesiynol defnyddiol i ddatblygu dealltwriaeth athrawon newydd gymhwyso o ddulliau trochi effeithiol. Mae’r athrawon hyn yn derbyn cyfleoedd buddiol i ymweld â’r ganolfan ac arsylwi’r dulliau hyn ar waith ac yn derbyn pecyn o adnoddau defnyddiol.
Mae’r gefnogaeth a ddarperir gan ymarferwyr yn y ganolfan trochi iaith yn cyfrannu’n fuddiol at gysoni arferion trochi iaith effeithiol trwy’r awdurdod.
Mae llawer o ymarferwyr mewn canolfannau trochi iaith neu dimau ymgynghorol y Gymraeg yn creu cysylltiadau anffurfiol addas gyda chydweithwyr er mwyn rhannu arferion effeithiol ac adnoddau addysg drochi. Mae lleiafrif yn mireinio eu hymarfer yn fuddiol wrth drafod a chymharu dulliau trochi gydag arbenigwyr mewn awdurdodau lleol eraill. Er bod y cyfleoedd hyn yn fanteisiol wrth i ymarferwyr ddatblygu eu dulliau trochi iaith ymhellach, nid yw hyn yn darparu cyfleoedd cyson i ymarferwyr ar draws bob awdurdod. At ei gilydd, mae cyfleoedd i ymarferwyr arbenigol ddylanwadu’n gadarnhaol ar y ddarpariaeth drochi yn genedlaethol, a rhannu arferion ac adnoddau yn brin.
Lle mae cydweithio ar ei orau, mae awdurdodau lleol neu gonsortia rhanbarthol yn hyrwyddo addysg drochi ac yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol penodol ar gyfer datblygu dulliau addysg drochi. Er enghraifft, mae un consortiwm rhanbarthol yn gweithio gydag awdurdodau yn llwyddiannus i adnabod a sefydlu ‘egin ganolfannau’, sef darpariaeth gychwynnol sydd yn cael eu lleoli mewn ysgolion fel cam cyntaf o broses hirdymor i hyrwyddo trochi Cymraeg. Mae consortiwm arall yn trefnu cefnogaeth gan ysgolion eraill yn y rhanbarth i hyrwyddo arferion effeithiol neu drwy ddarparu sesiynau dysgu o bell i athrawon newydd gymhwyso.
Cameo – rhannu arferion trochi iaith yn rhanbarthol
Mae Consortiwm Canolbarth y De wedi comisiynu staff o Uned Drochi Iaith Caerdydd i gydweithio gyda swyddogion Cymraeg y consortiwm ar greu pecyn o adnoddau trochi. Mae’r adnoddau yn cynnig arweiniad buddiol i ysgolion nad oes ganddynt fynediad i ganolfan drochi iaith o fewn eu hawdurdod lleol. Mae’r pecyn yn cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol penodol yn eu tro er mwyn gwella’r cysondeb yn yr addysgu.
Mae’r adnoddau yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddefnyddio geirfa a phatrymau cystrawennol yn ddyddiol mewn sefyllfaoedd chwarae rôl, sesiynau drama, neu mewn cyd-destun chwarae gêm. Mae’r gweithgareddau darllen ac ysgrifennu yn canolbwyntio ar yr un patrymau. Mae’r iaith yn cael ei fodelu mewn clipiau sain defnyddiol i gefnogi ymarferwyr llai hyderus.
Ceir pecyn o gardiau lliwgar yn cynnwys y geirfa a phatrymau cystrawennol yn ôl themâu gan gynnwys cardiau cwestiwn ac ateb, cardiau fflach, lluniau i’w trafod, a chardiau i chwarae gemau llafar. Er enghraifft, mae un uned o waith yn ymwneud â’r parc. Cyflwynir geirfa fel siglen, ffrâm ddringo, coed a blodau ynghyd â chwestiynau ac ymatebion addas fel ‘oes pwll tywod yn y parc?’ ac ‘oes, mae pwll tywod yn y parc’. Lleolir uned waith arall mewn caffi, sydd yn cynnig llawer o gyfleodd i gyflwyno geirfa mathemategol yn ymwneud ag arian, siapiau a ffracsiynau. Er enghraifft, mae dysgwyr yn archebu ‘chwarter pitsa’ gan dalu’r swm cywir o arian. Maent yn cyflwyno’r amser gorffennol a dyddiau’r wythnos gan ddefnyddio cyd-destun y caffi. Er enghraifft, trwy gynnig gwybodaeth fel ‘cefais i sglodion dydd Llun’ neu ‘yfais i sudd oren dydd Mercher’. O ganlyniad, mae dysgwyr yn datblygu geirfa a phatrymau mewn modd strwythuredig ac yn eu cymhwyso’n fwyfwy llwyddiannus ar draws y meysydd dysgu.
Yn yr arfer orau, mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu prosesau hunanwerthuso i adnabod lle mae angen cryfhau darpariaeth addysg drochi ac yn blaenoriaethu datblygiadau’n effeithiol. Er enghraifft, maent yn adnabod grwpiau o ddysgwyr sydd ddim yn cyrraedd y deilliant disgwyliedig ar ddiwedd y cyfnod sylfaen ac yn trefnu bod aelodau tîm ymgynghorol y Gymraeg yn darparu cefnogaeth i ymarferwyr yn yr ysgolion hynny. Er bod y mwyafrif yn olrhain niferoedd dysgwyr sy’n trosglwyddo o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i ysgolion uwchradd o’r un cyfrwng, prin yw’r esiamplau o olrhain cynnydd hwyrddyfodiaid yn benodol. Ar y cyfan, nid yw prosesau awdurdodau ar gyfer hunanwerthuso’r ddarpariaeth addysg drochi yn ddigon trylwyr, er enghraifft wrth graffu ar arferion effeithiol neu feysydd ar gyfer gwella. Yn ogystal, nid yw gweithdrefnau hunanwerthuso yn esgor ar wybodaeth digon penodol am werth am arian y ddarpariaeth.