Dylai lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion:
A1 adeiladu ar arfer effeithiol a chynllunio ystod o weithgareddau cyson sy’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr gaffael geirfa a phatrymau cystrawennol yn fwriadus a chydlynus
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A2 gynllunio’n fwriadus i sicrhau cyfle cyfartal i bob dysgwr gael mynediad at ddarpariaeth drochi cynnar a throchi hwyr
A3 gwerthuso darpariaeth drochi yn drwyadl, gan gynnwys olrhain cynnydd hwyrddyfodiaid yn gyson dros amser
A4 cryfhau a chysoni’r arlwy ddysgu broffesiynol am athroniaeth a dulliau addysg drochi ar gyfer pob ymarferydd
Dylai Llywodraeth Cymru:
A5 ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi cynnar a throchi hwyr, a chomisiynu ystod o adnoddau addas ar gyfer dysgwyr o bob oed i gefnogi addysg drochi sy’n dathlu amrywiaeth Cymru
A6 sefydlu fforwm cenedlaethol i hyrwyddo arferion mwyaf effeithiol addysg drochi, gan gynnwys hyrwyddo trefniadau lleol i gyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol