Mae bron bob dysgwr sy’n rhan o ddarpariaeth trochi cynnar yn mwynhau dysgu Cymraeg ac yn ymgolli mewn gweithgareddau lle darperir addysg drochi mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion cynradd. Maent yn cychwyn wrth wrando ar y Gymraeg sy’n cael ei fodelu gan oedolion ac ymateb yn briodol i gyfarwyddiadau gydag ystumiau i’w cefnogi. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dechrau ymuno gydag oedolion a phlant eraill gyda hyder cynyddol wrth ganu caneuon byrion a dweud rhigymau, er enghraifft. Maent yn dechrau efelychu’r ymarferwyr trwy ddefnyddio geirfa allweddol addas. Yn ystod eu hamser yn y cyfnod sylfaen, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dod yn siaradwyr cynyddol hyderus.
Yn y rhan fwyaf o leoliadau nas cynhelir ac ysgolion, mae llawer o ddysgwyr y cyfnod sylfaen yn dilyn cyfarwyddiadau ac yn ymateb yn briodol i gwestiynau mewn sesiynau. Wrth iddynt datblygu trwy’r cyfnod mae llawer yn datblygu geirfa eang, gan adeiladu brawddegau yn hyderus gyda chymorth ymarferwyr. O ganlyniad i’r broses drochi, maent yn siarad Cymraeg yn fwyfwy naturiol gyda staff, er efallai nad yw’r gystrawen bob amser yn gywir. Mae lleiafrif y dysgwyr yn siarad Cymraeg gyda’u cyfoedion yn y dosbarth yn rheolaidd. Mae bron bob un o’r dysgwyr yn caffael y medrau angenrheidiol i lwyddo mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2.
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn datblygu medrau gwrando a siarad yn effeithiol. Mewn lleoliadau ac ysgolion lle mae safonau gwrando a siarad yn gryf, mae dysgwyr yn ymateb i amrywiaeth o sbardunau mewn sesiynau sydd wedi eu cynllunio’n fwriadus i hybu a datblygu medrau gwrando a siarad. Daw’r dealltwriaeth yn gyntaf lle mae dysgwyr yn gwneud synnwyr o eirfa wrth ei hail ddefnyddio. Er enghraifft, maent yn cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau cyfarwydd, a chanu a rapio mewn cyd destunau gwahanol. Mae hyn yn datblygu eu dealltwriaeth sydd yn ei dro yn eu cefnogi i ddod yn siaradwyr gynyddol hyderus.
Wrth i ymarferwyr gyflwyno ac ail-ymweld ag ystod o batrymau cystrawennol cywir, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn eu hefelychu’n gywir, gan eu cymhwyso a’u cymhathu fwyfwy cywir dros gyfnod. O oedran cynnar, maent yn dechrau ymateb yn addas i gyfarwyddiadau syml, er enghraifft, ‘Ewch i eistedd wrth y bwrdd coch’. Maent yn gwrando ar ymarferwyr mewn sesiynau grŵp, ac yn ymateb yn briodol, er enghraifft wrth gynnig teitl cân addas pan ofynnir y cwestiwn ‘Pa gân hoffet ti ganu?’. Maent yn ymateb i gwestiynau gan ymarferwyr yn fwyfwy annibynnol wrth chwarae yn ardaloedd y ddarpariaeth o fewn a thu hwnt i’r dosbarth.
Cameo – defnyddio medrau Cymraeg yn ardaloedd gwahanol y darpariaeth
Yn Ysgol Mornant, yn Sir Fflint, mae dysgwyr yn datblygu medrau gwrando a siarad yn llwyddiannus o oedran cynnar wrth chwarae ac ymateb i weithgareddau yn ardaloedd gwahanol y cyfnod sylfaen. Er enghraifft, mae dysgwyr y dosbarth meithrin yn datblygu medrau gwrando a siarad o amgylch y twb tywod.
Mae’r dysgwyr hyn yn chwilota am ddinosoriaid a cherrig yn y tywod gyda brwdfrydedd. Mae’r gweithgaredd ymarferol yn dal dychymyg y dysgwyr ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i’r ymarferwyr gyflwyno iaith. Mae’r cynorthwywr yn eu holi’n effeithiol, ac yn atgyfnerthu geirfa wrth i’r dysgwyr ddidoli’r teganau. O ganlyniad, maent yn ymateb yn gadarnhaol i gwestiynau fel ‘I ba flwch mae’r garreg yma yn mynd?’, ac yn cynnig ansoddeiriau syml fel ‘bach’ a ‘mawr’. Mae dysgwyr yn dwyn i gof geirfa sy’n ymwneud â’r thema yn briodol, er enghraifft trwy gynnig y gair ‘sgerbwd’ i helpu cyfaill oedd yn defnyddio’r gair ‘skeleton’.
Yn ystod eu hamser yn y cyfnod sylfaen, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dod yn fwyfwy hyderus i siarad Cymraeg mewn amrywiaeth gyfoethog o gyd-destunau dysgu. Maent yn defnyddio ystod o eirfa yn gynyddol dda sy’n cyd-fynd â’r thema, er enghraifft i ddisgrifio ystyr y gair ‘ffrwydro’ wrth drafod tân gwyllt. Erbyn Blwyddyn 1, mae llawer o ddysgwyr yn ymateb yn frwdfrydig mewn brawddegau llawn gyda chefnogaeth rheolaidd yr ymarferwyr.
Mae llawer o ddysgwyr yn dod yn gynyddol hyderus wrth drafod gyda’u cyfeillion, ymarferwyr ac ymwelwyr yn ystod y cyfnod trochi cynnar. Er enghraifft, maent yn datblygu hyder trwy ymarfer a pherfformio mewn cyngherddau ac eisteddfodau, neu drwy fynychu clybiau sy’n hybu defnydd o’r Gymraeg. Mae lleiafrif yn gwneud gwallau ieithyddol o ran cywirdeb iaith wrth ymateb i gwestiynau ac wrth fynegi eu hunain. At ei gilydd, maent yn hyderus i siarad a thrafod ac yn aml yn cywiro eu hunain neu gywiro eu cyfoedion. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif y dysgwyr yn datblygu i fod yn siaradwyr digon rhugl gan nad yw ymarferwyr yn darparu cyfleoedd digon cyson i siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol. O ganlyniad, mae lleiafrif y dysgwyr yn tueddu i gyfieithu geirfa a phatrymau cystrawennol o’r Saesneg i’r Gymraeg cyn ynganu.
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cyson wrth ddatblygu eu medrau darllen. Maent yn dod i adnabod seiniau llythrennau gwahanol yn gywir cyn dechrau cyfuno’r seiniau i ddarllen geiriau syml. Maent yn ymuno mewn gweithgareddau torfol i atgyfnerthu’r ymwybyddiaeth hon, er enghraifft trwy ganu caneuon yn frwdfrydig am y llythrennau unigol a gwneud symudiadau sy’n gysylltiedig â hwy. Maent yn ymarfer y medrau hyn mewn gweithgareddau unigol yn fuddiol. Er enghraifft, maent yn edrych a chyfeirio at siâp y llythyren sydd wedi ei chuddio mewn llun, yn dewis magned sy’n cyfateb i’r llythyren, ac yna’n ynganu’r sain yn gywir. O ganlyniad, maent yn adnabod llythrennau’n gynyddol hyderus ac yn datblygu medrau darllen cynnar yn llwyddiannus.
Yn ystod y cyfnod sylfaen, mae llawer o ddysgwyr yn datblygu eu medrau darllen yn gyson dros gyfnod sy’n gyfystyr â’u hoed. Mewn lleoliadau ac ysgolion lle mae safonau darllen yn gryf, mae dysgwyr yn mwynhau edrych ar ystod o lyfrau deniadol o oedran cynnar, gan ddangos diddordeb cynyddol yn y testun. Erbyn diwedd y cyfnod sylfaen, mae’r rhan fwyaf yn egluro manylion perthnasol o destunau yn hyderus, er enghraifft wrth ail ddweud stori. Mae llawer o ddysgwyr yn cymhwyso eu medrau darllen i bwrpas yn llwyddiannus, er enghraifft wrth ddarllen geiriau sy’n disgrifio anifeiliaid gwahanol fel ‘cigysydd’ a ‘llysieuydd’ i ddatrys pos yn yr arddull ‘pwy ydw i?’.
Mae medrau ysgrifennu llawer o ddysgwyr yn y cyfnod sylfaen yn gadarn. Mewn lleoliadau nas cynhelir a dosbarthiadau meithrin, mae dysgwyr yn dechrau datblygu medrau ysgrifennu trwy arbrofi a gwneud marciau gan gynhyrchu darnau o ysgrifennu cynnar yn addas. Wrth iddynt symud trwy’r cyfnod, mae llawer o ddysgwyr yn cofnodi digwyddiadau yn briodol gyda sgaffaldau a chynhaliaeth gan ymarferwyr. Er enghraifft, maent yn ysgrifennu cyfarwyddiadau yng nghyd-destun eu gwaith thema, neu’n creu rhestrau ar gyfer siopa. Erbyn diwedd y cyfnod sylfaen, mae llawer yn ysgrifennu at wahanol ddibenion yn gyson gan gyfathrebu’n glir ac yn fynegiannol.
Mae llawer o ddysgwyr yn datblygu eu medrau siarad ac ysgrifennu yn effeithiol, gyda’r cyswllt hwn yn rhan allweddol o’r broses drochi. Yn yr arferion gorau, mae darparwyr yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr gymhwyso geirfa a phatrymau cystrawennol mewn gweithgareddau drama ac ysgrifennu. Er enghraifft, mae dysgwyr yn defnyddio geirfa fel ‘anhygoel’, patrymau cystrawennol fel ‘tawelwch llethol’ ac idiomau ‘ar ben ei ddigon’ yn hynod effeithiol. Fodd bynnag, yn yr ychydig achosion lle mae safonau ysgrifennu’n wan, mae dysgwyr yn ei chael anodd i fewnoli’r iaith gan nad oes digon o gyfleoedd cyson iddynt ymarfer a datblygu eu medrau siarad. Mae hyn yn llesteirio eu gallu i ysgrifennu’n rhydd a chyda hyder annibynnol.
Ar y cyfan, mae dysgwyr o grwpiau gwahanol yn gwneud cynnydd cyson wrth cael eu trochi yn y Gymraeg. Mae bron bob dysgwr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn gwneud cynnydd addas yn unol â thargedau eu cynlluniau datblygu unigol. Yn ogystal, mae dysgwyr sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol yn caffael medrau Cymraeg i’r un graddau â’u cyfoedion sydd yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Ar y cyfan, mae dysgwyr o gartrefi lle siaredir Cymraeg a rhai lle na siaredir y Gymraeg yn gwneud cynnydd cyson. Fodd bynnag, mewn ychydig o achosion lle mae disgwyliadau ymarferwyr o ddysgwyr yn rhy isel, nid yw dysgwyr mwy abl yn gwneud digon o gynnydd wrth gaffael y Gymraeg.