Addysg Drochi Cymraeg - Strategaethau a dulliau i gefnogi dysgwyr 3-11 mlwydd oed

Share document

Share this

Atodiad 2 – blaenoriaethau cenedlaethol

Share document

Share this

Page Content

Mae addysg drochi yn cydblethu gyda nifer o flaenoriaethau cenedlaethol.

Ym Medi 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh). Ymgais oedd hwn i gyfrannu at y nod ‘bod plant Cymru yn gallu datblygu medrau llythrennedd a rhifedd ardderchog yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.’(Llywodraeth Cymru, 2013, t.2). Bwriadwyd iddo fod yn ‘offeryn cynllunio’r cwricwlwm i ysgolion a fydd yn darparu continwwm o ddatblygiad, gan amlinellu’n glir ddeilliannau disgwyliedig blynyddol mewn llythrennedd a rhifedd’. Mae’r ddogfen gynorthwyol yn perthnasu’r disgwyliadau o ran y fframwaith llythrennedd i’r ymarfer trochi trwy egluro:

‘Mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg cydnabyddir y gall caffael medrau iaith a llythrennedd yn y blynyddoedd cynnar ddilyn patrwm gwahanol. Bydd methodoleg trochi yn datblygu medrau Cymraeg plant ac erbyn Cyfnod Allweddol 2 bydd cyffelybiaeth gynyddol yn natblygiad medrau llythrennedd Cymraeg a Saesneg. O ganlyniad, yn y dosbarth Derbyn i Flwyddyn 3, bydd rhaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio cydran llythrennedd Cymraeg y FfLlRh yn unig (ochr yn ochr â rhifedd). O Flwyddyn 4 ymlaen, disgwyliwn i ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio’r cydrannau Cymraeg a Saesneg.’ (Llywodraeth Cymru, 2013, t.10)

Mae’r Fframwaith yn disgrifio’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr sy’n caffael medrau iaith o’r newydd trwy ddweud:

‘Mae dysgwyr sydd â Chymraeg neu Saesneg yn iaith ychwanegol yn debygol o ddod ar draws Cymraeg/Saesneg am y tro cyntaf ac felly bydd angen cymorth ychwanegol â ffocws arnynt i’w helpu i gaffael medrau llythrennedd priodol. Ar y dechrau gall dysgwyr arddangos medrau sydd yn llawer is na’u disgwyliadau oedran mewn rhai agweddau ar y cydrannau llythrennedd. Dylai athrawon benderfynu pryd bydd yn briodol i ddefnyddio’r FfLlRh yn sail ar gyfer asesu ffurfiannol i’r dysgwyr hynny ac ni ddylent ddefnyddio’r gydran ar drywydd llythrennedd ar gyfer eu hasesu ffurfiannol.’ (Llywodraeth Cymru, 2013, t.12)

Mae’r ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod nodau er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn cynnwys y nod o greu ‘Cymru a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, 2015,t.4). Maent yn disgrifio hyn fel ‘cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg, ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden’ (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, 2015, t.4).

Yn ei adolygiad annibynnol o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yng Nghymru, Dyfodol Profiadau: Adolygu Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru (Donaldson, 2015), galwodd Yr Athro Graham Donaldson ar ysgolion i ‘ganolbwyntio o'r newydd ar ddysgu Cymraeg yn bennaf fel ffordd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu a deall yr iaith lafar’ (Donaldson, 2015, t.60). Awgrymodd hefyd y dylid canolbwyntio ar 'gryfhau'r iaith mewn ysgolion cynradd er mwyn gosod sylfeini cadarn ar gyfer dysgwyr drwy’r Gymraeg.' (Donaldson, 2015, t.60).

Yn 'Cymraeg 2050 – Miliwn o Siaradwyr' (Llywodraeth Cymru, 2017b), nododd Llywodraeth Cymru eu gweledigaeth hirdymor a'u strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae'r ddogfen yn ei gwneud yn glir bod addysg drochi yn agwedd allweddol ar y strategaeth:

Addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw ein prif ddull ar gyfer sicrhau bod plant yn gallu datblygu eu medrau Cymraeg, ac ar gyfer creu siaradwyr newydd.’ (Llywodraeth Cymru, 2017b, t.21)

Maent yn ailddatgan y rôl bwysig sydd gan addysg drochi o ran cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn eu cynllun 'Cymraeg 2050: ein cynllun ar gyfer 2021 i 2026' (Llywodraeth Cymru, 2021c), drwy restru meysydd gweithredu sy'n cynnwys datblygu 'rhwydwaith i gefnogi addysg drochi drwy gyfrwng y Gymraeg', ac ehangu'r 'Rhaglen Drochi Hwyr i Ddysgwyr i sicrhau bod gan yr holl newydd-ddyfodiad i'r iaith fynediad at addysg cyfrwng Cymraeg pan fydd ei hangen arnyn nhw a lle bynnag y maen nhw ar eu taith ddysgu' (Llywodraeth Cymru, 2021c, t.12-13).

Yn eu cynllun gweithredu ar gyfer 2017-21, ‘Cenhadaeth ein cenedl' (Llywodraeth Cymru, 2017a) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y nod o 'ddatblygu dull gweddnewidiol mewn perthynas a dysgu, addysgu ac asesu'r Gymraeg gyda'r nod o sicrhau y bydd pob dysgwr yn gallu siarad yr iaith pan fyddant yn gadael yr ysgol' (Llywodraeth Cymru, 2017a, t.18). Yn eu diweddariad ym mis Hydref 2020, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru yn benodol at drochi fel offeryn i helpu i gyflawni'r nod hwn drwy nodi eu bwriad i:

‘Ymchwilio i dechnegau trochi a ddefnyddir ar hyn o bryd ynghyd a’r ymchwil academaidd genedlaethol a rhyngwladol ddiweddaraf er mwyn cefnogi arferion gorau mewn modelau cyfrwng Cymraeg a modelau dwyieithog.

‘Ystyried rôl canolfannau trochi ieithyddol hwyr wrth gefnogi’r sector cyfrwng Cymraeg ac y ddylai cymorth o’r fath fod ar gael ym mhob awdurdod lleol.’ (Llywodraeth Cymru, 2020, t.28)

Mae ein hadroddiad ar gaffael yr iaith Gymraeg yn cynnig dau argymhelliad sy’n ymwneud yn benodol ag addysg drochi:

‘Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

‘A6 ddarparu hyfforddiant i ddwysau dealltwriaeth ymarferwyr o’r modd y mae dysgwyr yn caffael y Gymraeg, ac o fethodoleg effeithiol o ran trochi iaith

Dylai Llywodraeth Cymru:

‘A7 ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi iaith er mwyn cefnogi addysgu a dysgu wrth gaffael y Gymraeg’ (Estyn, 2021, t.35)

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-2019, eglurodd Prif Arolygwr ei Mawrhydi yng Nghymru bod defnydd o addysg drochi yn y sector ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn gryfder.

‘Mae bron yr holl leoliadau ac ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn datblygu medrau iaith eu dysgwyr yn effeithiol trwy drochi mewn Cymraeg ar draws yr holl feysydd dysgu yn ystod y cyfnod sylfaen, beth bynnag yw iaith gartref y dysgwyr.’ (Estyn, 2019, t.15)

Adnabuwyd ymarfer cryf o ran addysg drochi hwyr, gan gyfeirio at y ddarpariaeth mewn ychydig o awdurdodau lleol:

‘Mae darpariaeth effeithiol iawn gan ychydig o awdurdodau lleol ar gyfer trochi iaith i ddysgwyr sy’n ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog sydd â fawr o Gymraeg neu ddim Cymraeg cyn hynny. Maent yn cynnig cyfleoedd i garfan newydd o ddysgwyr ddatblygu’u medrau mewn Cymraeg, ac yn darparu sylfaen ieithyddol gadarn iddynt gyfranogi’n llawn mewn addysg ddwyieithog a manteisio ar y profiadau a gynigir.’ (Estyn, 2019, t.50)

Share document

Share this