Mae prif nodweddion addysg drochi iaith effeithiol yn berthnasol i ddarpariaeth trochi gynnar a hwyr, fel ei gilydd. Er bod cyd-destun ac oedran y dysgwyr yn wahanol, mae egwyddorion addysg drochi effeithiol yn gyson. Er enghraifft, mae ymarferwyr effeithiol yn creu amgylchedd dysgu diogel sy’n cofleidio dysgwyr yn y Gymraeg. Maent yn blaenoriaethu medrau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn y drefn honno ac yn rhoi pwyslais clir ar ddatblygu medrau llafar dysgwyr. Maent yn cyflwyno ac yn modelu iaith yn gywir i ddysgwyr, ac yn goslefu, ailadrodd ac yn gwneud ystumiau’n rheolaidd i’w cynorthwyo.
Amgylchedd dysgu
Mae’r amgylchedd dysgu’n rhan bwysig o ddarpariaeth addysg drochi. Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn creu naws gartrefol lle mae dysgwyr yn teimlo’n gyfforddus ac yn barod i ddysgu. Yn yr arfer orau, maent yn fannau croesawgar a chynhwysol lle mae dysgwyr yn barod i siarad Cymraeg heb ofn methu yn fuan iawn ar ôl iddynt ddechrau yn y ddarpariaeth. Mae ymarferwyr yn creu mannau deniadol sy’n ennyn diddordeb dysgwyr ac yn eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg wrth iddynt fagu hyder i siarad Cymraeg.
Mae ymarferwyr yn defnyddio sbardunau gweledol yn effeithiol, fel lluniau a phosteri sy’n cynnwys llythrennau a geirfa briodol. Mae llawer o ymarferwyr yn cyfeirio’n rheolaidd ar ystod o eirfa a phatrymau cystrawennol sy’n cael eu harddangos yn ddeniadol y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth i gefnogi dysgwyr. O ganlyniad, mae dysgwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon yn effeithiol wrth ddatblygu eu medrau’n llwyddiannus.
Cyfrwng iaith
Ym mron pob lleoliad nas cynhelir ac ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, ac mewn ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog, fel rhan o ddarpariaeth drochi gynnar, Cymraeg yw’r unig iaith sy’n cael ei chyflwyno’n ffurfiol yn y cyfnod sylfaen, er bod rhai ysgolion yn dechrau cyflwyno rhywfaint o Saesneg ar ddiwedd y cyfnod hwn. Yn yr un modd, Cymraeg yw’r unig iaith sy’n cael ei defnyddio’n ffurfiol fel rhan o raglenni iaith dwys mewn canolfannau trochi iaith. Mae siarad Cymraeg â’r holl dysgwyr yn gyson yn elfen ganolog o’r broses drochi. Mae llawer o ymarferwyr yn cyfathrebu gan ddefnyddio ychydig iawn o Saesneg dim ond pan fydd angen iddynt sicrhau bod dysgwr wedi deall cyfarwyddyd neu i gysuro plentyn.
Mae lleiafrif yr ymarferwyr yn defnyddio’r dull ‘brechdan’ mewn lleoliadau ac ysgolion ar ddechrau taith ieithyddol dysgwyr, yn enwedig yn y cyfnod sylfaen. Hynny yw, maent yn rhoi cyfarwyddyd yn y Gymraeg, yna’r Saesneg, ac yna’n ailadrodd y Gymraeg unwaith eto. Maent yn lleihau’r defnydd o’r Saesneg cyn gynted â phosibl, gan wneud hynny mewn cyfnod byr iawn. At ei gilydd, caiff dysgwyr eu trochi’n fuddiol yn yr ‘iaith darged’, sef y Gymraeg.
Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn modelu’r Gymraeg â chywirdeb addas ac ynganu clir. Mae ganddynt ystod gyfoethog o eirfa ac, yn yr achosion cryfaf, maent yn sgwrsio’n naturiol â dysgwyr ac yn eu cefnogi drwy gydol y sesiynau. Fodd bynnag, mae llawer o arweinwyr yn cyfeirio at anawsterau o ran recriwtio staff rhugl a chymwys yn y Gymraeg, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â niferoedd cymharol isel o siaradwyr Cymraeg. Mewn ychydig o achosion lle mae medrau ieithyddol ymarferwyr yn wan, nid yw dysgu’n ddigon effeithiol. Er enghraifft, nid yw dysgwyr yn clywed patrymau cystrawennol yn cael eu cyflwyno’n gywir ac yn gyson.
Mewn canolfannau trochi iaith, mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn modelu iaith yn gywir, gyda llawer o ailadrodd bwriadus a chyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr glywed a siarad Cymraeg. Wrth roi cyfarwyddiadau, mae ymarferwyr yn siarad yn ofalus ac yn treulio amser yn ynganu seiniau’n glir. Maent yn gofyn i ddysgwyr ddyfalu ystyr geirfa newydd, fel ‘cegin’, cyn coginio, drwy ddefnyddio patrymau cystrawennol mae dysgwyr eisoes yn gyfarwydd â nhw, fel “Mae’r ystafell ddosbarth yn edrych ychydig fel cegin heddiw – cegin – beth yw cegin?”. Maent yn defnyddio cyfres o frawddegau byr, syml â phatrymau tebyg yn fedrus, er enghraifft wrth esbonio: “Rydyn ni yn mynd i goginio cawl llysiau”, “Rydyn ni yn mynd i helpu”, “Rydyn ni yn mynd i roi cyfarwyddiadau”. O ganlyniad, mae dysgwyr yn magu hyder yn gyflym i efelychu ymarferwyr wrth siarad Cymraeg mewn cyd-destunau gwahanol.
Darpariaeth ar gyfer medrau
Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn darparu gweithgareddau gwrando gwerthfawr yn sail i ddatblygu gweddill medrau Cymraeg dysgwyr. Trwy wneud hynny, mae dysgwyr yn mewnoli ac yn caffael geirfa’n effeithiol. Er enghraifft, yn y cyfnod sylfaen, daw dysgwyr i ddeall geirfa’n ymwneud â phrif ddigwyddiadau’r diwrnod yn gyflym drwy ganu caneuon fel ‘Mae’n amser twtio nawr’. Mae hyn, yn ei dro, yn meithrin eu hyder i ddatblygu eu medrau siarad yn gyflym.
Mae llawer o ymarferwyr yn cynllunio cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ymarfer eu medrau gwrando a siarad mewn cyd-destunau gwahanol. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn bwydo iaith yn fwriadus drwy ganu, rapio a chyflwyno rhigymau, a thrwy ‘amser cylch’ neu sesiynau ‘ar y mat’. Mewn lleoliadau a dosbarthiadau meithrin a derbyn, mae llawer ohonynt yn gwneud defnydd medrus o’r sesiynau hyn i ymarfer caneuon â diben penodol, er enghraifft drwy gynnig cyfle i gyfrif i ddeg neu wrth gyflwyno rhannau o’r corff. Mae llawer o ymarferwyr yn defnyddio’r amser hwn yn effeithiol i ddarllen storïau. Mae mwyafrif yr ymarferwyr yn tanio dychymyg dysgwyr drwy drafod yr hyn sydd ymhlyg yn y lluniau a’u hannog i ymuno â rhannau cyfarwydd. Mae’r ymarferwyr mwyaf effeithiol yn dramateiddio ac yn ystumio’n greadigol wrth gyfleu ystyr geiriau a chyfarwyddiadau syml.
Yn yr arfer orau, mae ymarferwyr yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau i gyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol i ddysgwyr. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn gofyn i ddysgwyr ymateb i gwestiynau drwy efelychu lefelau eu llais, drwy sibrwd, siarad ac yna gweiddi er mwyn creu cyffro wrth ymarfer yr iaith gyda’i gilydd. Maent yn cynnig sesiynau effeithiol mewn grwpiau bach i ddysgwyr wrando ac ymateb yn unigol. Maent yn canu, chwarae gemau ac yn cynnig cyfleoedd iddynt chwarae rôl sydd, yn ei dro, yn atgyfnerthu’r un patrymau cyson wrth iddynt gydweithio â phartneriaid neu mewn grwpiau bach. Mae cyfleoedd rheolaidd i ymarfer geirfa a phatrymau cystrawennol mewn cyd-destunau gwahanol yn nodwedd gref o addysg drochi effeithiol.
Mae llawer o ymarferwyr yn defnyddio adnoddau gweledol yn effeithiol i ddatblygu medrau gwrando a siarad dysgwyr. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd buddiol i ddysgwyr ymateb i gwestiynau fel ‘Beth wyt ti’n hoffi?’ drwy ddewis geirfa sydd wedi’i harddangos ochr yn ochr â lluniau cyfatebol, a’u cynnwys mewn ymadrodd neu frawddeg lawn. Mae llawer o ymarferwyr yn defnyddio teganau’n fedrus i ysgogi dysgwyr, er enghraifft drwy symud ‘tedi’ i leoedd gwahanol er mwyn iddynt ddod yn gyfarwydd ag arddodiaid. Mae dysgu ar ei orau pan fydd cyflymder sionc i sesiynau er mwyn ennyn a dal diddordeb dysgwyr, a phan roddir cyfleoedd rheolaidd iddynt gyfrannu eu hunain. Yn yr ychydig achosion lle mae cyflymder sesiynau’n rhy araf, a lle mae ymarferwyr yn defnyddio llais mwy undonog heb lwyddo i danio chwilfrydedd, nid yw dysgwyr yn ymateb ac yn datblygu eu medrau Cymraeg hyd eithaf eu gallu bob tro.
Mae llawer o ymarferwyr mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion yn defnyddio cynlluniau penodol i feithrin ymwybyddiaeth dysgwyr o’r seiniau mae llythrennau gwahanol yn eu cynrychioli er mwyn caffael medrau darllen cynnar. Fel rhan o ddarpariaeth drochi gynnar, mae llawer ohonynt yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr adnabod llythyren, gwrando ar sain y lythyren, a dysgu ystumiau neu symudiadau i gyd-fynd fel proc i’r cof. Maent yn annog dysgwyr i efelychu’r symudiadau hyn ac ynganu’r sain yn gywir. Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr mewn canolfannau trochi iaith yn defnyddio dull tebyg i gynorthwyo’r dysgwyr hynny y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i ddatblygu medrau darllen cynnar.
Yn yr arfer gryfaf, mae ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gymhwyso eu dysgu mewn ardaloedd y tu mewn a’r tu allan i’r dosbarth er mwyn cynnig cyfleoedd iddynt ymarfer eu medrau darllen cynnar mewn cyd-destunau gwahanol. Mae llawer o ymarferwyr yn defnyddio labeli’n fwriadus i gyflwyno geirfa estynedig a chyfarwydd i ddysgwyr ac yn sicrhau bod ystod o lyfrau addas ar gael i ddysgwyr. Yn ystod eu hamser yn y cyfnod sylfaen, mae llawer o ymarferwyr yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr ddarllen testun mwyfwy heriol. Er enghraifft, maent yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddarllen llyfrau ffuglen a ffeithiol addas, barddoniaeth a chyfarwyddiadau syml. Mewn ysgolion lle mae safonau darllen yn gryf, mae ymarferwyr yn cynorthwyo dysgwyr i drafod y testun yn effeithiol er mwyn cyflwyno geirfa a phatrymau cystrawennol newydd a chadarnhau eu dealltwriaeth o’r hyn a ddarllenwyd.
Mewn canolfannau trochi iaith, mae ymarferwyr yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr ddarllen geirfa a phatrymau cystrawennol newydd, er enghraifft wrth i ddysgwyr ddarllen sgriptiau sy’n cyd-fynd ag is-thema’r wythnos honno. Mae prinder adnoddau darllen addas sydd wedi’u graddoli’n briodol â chynnwys symbylol sy’n cyfateb i oedrannau’r dysgwyr. Mewn ychydig o achosion, mae hyn yn llesteirio cynnydd dysgwyr mewn darllen wedi iddynt ddychwelyd i’r ysgol neu pan na allant fanteisio ar ganolfan trochi iaith.
Mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion, mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddatblygu medrau ysgrifennu cynnar. Er enghraifft, maent yn cynnig ystod o daclau ysgrifennu fel pinnau ffelt, sialc a chreonau i ddysgwyr ddatblygu medrau echddygol mân. Maent yn nodi cyfleoedd i ddysgwyr ddechrau ysgrifennu geiriau syml pan fyddant yn barod i wneud hynny, er enghraifft geiriau sy’n ymwneud â’r thema. Mewn ysgolion a chanolfannau trochi iaith, mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddechrau creu brawddegau syml. Mae llawer o ymarferwyr yn defnyddio sgaffaldiau’n effeithiol i fodelu patrymau cystrawennol cywir. Wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, mae’r ymarferwyr mwyaf effeithiol yn gwybod pa bryd i leihau’r gefnogaeth drwy ddefnyddio sgaffaldiau. O ganlyniad, mae ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd buddiol i ddysgwyr ddatblygu eu medrau ysgrifennu’n rhydd ac yn annibynnol.
Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd buddiol i ddysgwyr ysgrifennu’n fwyfwy estynedig wrth iddynt fagu hyder yn y Gymraeg, yn aml gan ddechrau drwy efelychu geirfa a phatrymau cystrawennol o lyfrau stori neu sgriptiau. Mae hwn yn ddull trochi effeithiol wrth i ddysgwyr fewnoli’r iaith cyn iddynt ddechrau ysgrifennu. Er enghraifft, maent yn ysgrifennu cyfres o frawddegau am anifeiliaid gwahanol drwy ddefnyddio brawddegau fel “Fflamingo ydw i, mae gen i goesau tenau hir a gwddf pinc”. Lle y bo’n briodol, mae ymarferwyr yn modelu ysgrifennu â sgaffald ac yn awgrymu ansoddeiriau defnyddiol eraill.
Mae llawer o ymarferwyr yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i rieni/gofalwyr er mwyn iddynt allu cynorthwyo eu plant gartref. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn cynnal gweithdai i esbonio eu dull o gyflwyno medrau darllen cynnar ar ddechrau’r cyfnod sylfaen. Yn yr achosion cryfaf, mae ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i rieni/gofalwyr gefnogi eu plant i gaffael medrau Cymraeg drwy gydol y cyfnod trochi cynnar. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn rhannu clipiau fideo syml sy’n dangos eu hunain yn esbonio dull mathemategol penodol, neu pan fydd mae staff yn darllen stori amser gwely y gall dysgwyr ei mwynhau gyda rhiant/gofalwr neu’n annibynnol.
Cymhwyso medrau mewn cyd-destunau gwahanol
Mae llawer o ymarferwyr yn paratoi cyfleoedd defnyddiol i ddysgwyr ddatblygu eu medrau gwrando a siarad mewn ardaloedd gwahanol yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored. Yn yr arfer orau, mae ymarferwyr yn siarad ochr yn ochr â dysgwyr ifanc ac yn cyflwyno geirfa iddynt yn naturiol. Er enghraifft, maent yn ail-greu ymweliad â fferm leol drwy ‘adeiladu bws’ wrth chwarae’n greadigol yn yr ardal awyr agored, ac yn manteisio ar y cyfle i siarad am yr hyn a welsant ar eu ffordd i’r fferm. Wrth i ddysgwyr symud drwy’r cyfnod sylfaen, mae’r ymarferwyr mwyaf effeithiol yn annog dysgwyr i gymhwyso geirfa a phatrymau cystrawennol penodol yn fwyfwy annibynnol. Er enghraifft, wrth i ddysgwyr gymhwyso iaith maent wedi ei chaffael o’r newydd wrth iddynt ryngweithio mewn siop trin gwallt, milfeddygfa a chuddfan natur.
Cameo – defnyddio’r Gymraeg y tu allan i wersi
Mae ymarferwyr yng Nghylch Meithrin Pontrobert yng Nghyngor Sir Powys yn annog chwarae digymell wedi’i seilio ar adnoddau sy’n ysbrydoli dysgwyr. Yn ystod sesiynau, mae ymarferwyr yn sgwrsio’n naturiol â’r dysgwyr.
Mae ymarferwyr yn defnyddio adnoddau’n effeithiol drwy ddarparu tiwbiau cardbord o feintiau gwahanol ar gyfer dysgwyr. Maent yn hwyluso dysgu’n fedrus drwy ganiatáu i’r dysgwyr wneud penderfyniadau am yr hyn yr hoffent ei wneud â’r tiwbiau. Mae ymarferwyr yn bwydo iaith yn gyson fel bod dealltwriaeth a geirfa dysgwyr yn datblygu wrth iddynt arbrofi â’r tiwbiau. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn tynnu sylw dysgwyr at briodweddau’r offer fel ‘caled’ a ‘meddal’, ac yn trafod seiniau drwy daro’r offer â gwrthrychau i greu synau â thraw gwahanol.
Wrth i’r sesiwn fynd rhagddi, mae ymarferwyr yn manteisio ar gyfleoedd i drafod cysyniadau newydd a bwydo geirfa’n fuddiol wrth i’r dysgwyr symud a chario’r tiwbiau. Er enghraifft, maent yn trafod cydbwyso â’r dysgwyr gan ddefnyddio iaith briodol. Pan fydd dysgwyr yn penderfynu creu offer parc gyda’r tiwbiau, fel siglen a llithren, mae’r ymarferwyr yn nodi cyfleoedd i ofyn cwestiynau fel ‘Wyt ti’n meddwl y bydd hwn yn dod lawr y llithren yn gyflym?’ neu ‘Pa mor bell wyt ti’n meddwl yr eith hwn?’
Mae ymarferwyr yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu medrau gwrando a siarad y dysgwyr drwy gyflwyno geirfa gyfoethog newydd. O ganlyniad, maent yn datblygu medrau gwrando a siarad Cymraeg dysgwyr yn hynod effeithiol.
Yn ddiweddarach yn y cyfnod sylfaen, mae mwyafrif yr ymarferwyr yn cyflwyno geirfa newydd a phatrymau cystrawennol penodol yn fwriadus. Er enghraifft, maent yn herio dysgwyr i ddewis cardiau â lluniau arnynt ac ymateb i gwestiynau i ymarfer ‘gwelais i’ a ‘welais i ddim’. Mae ymarferwyr yn defnyddio dyfais recordio llais yn effeithiol fel bod dysgwyr yn clywed cyfarwyddiadau ar gyfer tasgau mewn gweithgareddau dysgu annibynnol. Mae’r mwyafrif ohonynt yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ddefnyddio clustffonau i wrando ar storïau’n unigol neu mewn grwpiau. O ganlyniad, mae dysgwyr yn clywed seiniau geiriau’n cael eu darllen gan lais oedolyn, sy’n cyflwyno geirfa newydd ac yn modelu patrymau cystrawennol Cymraeg cywir.
Mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn cynllunio cyfleoedd buddiol i ddysgwyr wrando a siarad mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol, fel yn ystod amser byrbryd. Mae hyn yn cynnig cyfle i ddysgwyr ofyn am ffrwyth gwahanol neu drafod eu hoff fwydydd. Mae lleiafrif yr ymarferwyr mewn ysgolion a chanolfannau trochi iaith yn arwain gweithgareddau chwarae ar y buarth yn ystod amser chwarae. Trwy arwain gemau hwyliog, gyda dysgwyr o oedrannau gwahanol yn ymuno â’r chwarae, mae dysgwyr yn cael cyfleoedd gwerthfawr i siarad Cymraeg. Mae ychydig o ymarferwyr hefyd yn cynllunio cyfleoedd bwriadus i ddysgwyr siarad Cymraeg dros ginio, er enghraifft drwy osod ‘cwestiwn y dydd’, fel ‘Beth yw eich hoff raglen deledu?’ i hybu trafodaeth.
Mae llawer o ymarferwyr yn trefnu cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr glywed a siarad Cymraeg mewn cyd-destunau anffurfiol. Er enghraifft, maent yn gwahodd cymeriadau adnabyddus o lyfrau stori a’r teledu i ddod i siarad a chwarae gemau gyda’r dysgwyr, neu’n trefnu i actorion ymweld â’r ddarpariaeth i chwarae rôl pobl enwog sy’n gysylltiedig â’r thema. Mae llawer ohonynt yn cynnig gweithgareddau trochi gwerthfawr y tu allan i oriau ysgol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg, er enghraifft drwy gynnal adran yr Urdd neu weithio gyda mentrau iaith. O ganlyniad, mae dysgwyr yn mwynhau siarad Cymraeg at ddibenion gwahanol, fel cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, chwarae gemau a phosau, a thrwy ymarfer i berfformio mewn gwyliau ac eisteddfodau.
Cameo – cyfoethogi profiadau Cymraeg dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
Mae Ysgol Bro Helyg, sef yr unig ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn cyfrannu at gyfoethogi profiadau Cymraeg dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg lleol drwy’r celfyddydau mynegiannol.
Mae llawer o ddysgwyr yn perfformio mewn cyflwyniad cân actol. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr iddynt gymhwyso eu medrau Cymraeg llafar mewn modd hwyliog. Lle y bo’n briodol, mae’r testun yn dwysau dealltwriaeth dysgwyr o hanes a diwylliant Cymru ac yn creu ymdeimlad o falchder yn yr iaith Gymraeg. Er enghraifft, maent yn perfformio cân actol sy’n cynnwys hanes Tryweryn a’r ‘Welsh Not’.
Ar ôl magu hyder i berfformio’n llwyddiannus i’r cyhoedd, mae arweinwyr yn cynnig cyfle i ddysgwyr berfformio i ddysgwyr eraill mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg lleol. Mae ymarferwyr yn cynnal gweithdy gyda’r dysgwyr yn yr ysgolion Saesneg hynny i fwydo iaith berthnasol fel eu bod yn deall cynnwys y perfformiad ac yn trafod y Gymraeg gyda nhw. Ar ôl y gweithdy, mae dysgwyr yn Ysgol Bro Helyg yn perfformio er mwyn dod â’r wybodaeth a’r hanes yn fyw i’w cyfoedion. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fedrau gwrando a siarad dysgwyr yn y ddwy ysgol.
Dilyniant a pharhad
Lle mae darpariaeth i ddatblygu medrau gwrando a siarad ar ei gorau, mae ymarferwyr yn cynllunio’n fwriadus i sicrhau dilyniant a pharhad i ddysgwyr gaffael medrau Cymraeg. Mae ymarferwyr yn nodi’r eirfa a’r patrymau cystrawennol mae dysgwyr eu hangen i ddod yn gyfathrebwyr hyderus. Maent yn cyflwyno’r geiriau a’r patrymau hyn yn gyson ac yn cynllunio cyfleoedd i ail-ymweld ac adeiladu ar ddysgu blaenorol. Mae lleiafrif y lleoliadau nas cynhelir yn defnyddio’n adnoddau’n effeithiol sy’n helpu ymarferwyr i gefnogi eu medrau iaith eu hunain wrth gynllunio dilyniant addas i’w dysgwyr.
Mae gan lawer o leoliadau nas cynhelir ac ysgolion drefniadau anffurfiol i drafod medrau Cymraeg dysgwyr wrth iddynt drosglwyddo o un darparwr neu ddosbarth i’r llall. Yn yr achosion cryfaf, mae ymarferwyr yn cytuno ar ddulliau cyffredin i ddatblygu medrau ieithyddol dysgwyr. Er enghraifft, mae lleoliadau nas cynhelir a dosbarthiadau meithrin a derbyn mewn ysgolion yn defnyddio caneuon am adegau gwahanol o’r dydd yn gyson, neu’n cyflwyno seiniau llythrennau’r wyddor drwy ddefnyddio’r un dechneg. Mae ychydig o ymarferwyr yn rhannu gwybodaeth fuddiol iawn â’r athrawon sy’n addysgu dysgwyr y flwyddyn academaidd ganlynol. Er enghraifft, maent yn cyfeirio’n benodol ar yr eirfa a’r patrymau cystrawennol mae dysgwyr wedi’u caffael.
Asesu
Wrth roi adborth llafar i ddysgwyr sy’n derbyn darpariaeth drochi gynnar, mae llawer o ymarferwyr yn rhoi canmoliaeth addas wrth iddynt ddod i adnabod a defnyddio geirfa’n gyntaf er mwyn adeiladu hyder dysgwyr. Mae ymarferwyr yn ailadrodd yn gyson, a lle mae dysgwyr yn dechrau ymateb mewn brawddegau llawn, maent yn rhoi adborth drwy fodelu’r patrwm cystrawennol cywir mewn modd sensitif ar ôl clywed ymgais y dysgwr. Mae llawer ohonynt yn defnyddio’r dechneg hon yn fedrus, sef ‘ail-lunio’, fel y disgrifir gan Lyster a Ranta (1997, t.46-47). Dyma’r broses o ailffurfio ymateb dysgwr drwy hepgor y camgymeriad. Wrth i ddysgwyr ddod yn fwyfwy hyderus wrth ddatblygu eu medrau Cymraeg yn y cyfnod sylfaen, mae ymarferwyr effeithiol yn annog dysgwyr i ailadrodd y frawddeg yn gywir, yn unol â datblygiad Cymraeg y dysgwr. Maent yn cydnabod y cydbwysedd rhwng canmol ac annog, ac yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr. Mae hyn yn datblygu hyder dysgwyr yn effeithiol sydd, yn ei dro, yn eu hysgogi i siarad Cymraeg yn ddigymell heb ofn gwneud camgymeriad.
Mae mwyafrif yr ymarferwyr mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion yn defnyddio dulliau priodol i olrhain cynnydd dysgwyr wrth iddynt gaffael a datblygu eu medrau Cymraeg. At ei gilydd, mae ymarferwyr yn defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chasglu yn addas wrth gynllunio gweithgareddau ar draws y meysydd dysgu. Fodd bynnag, maent yn gweithredu ar wybodaeth sy’n aml yn rhy amwys i nodi’r camau nesaf mewn datblygiad ieithyddol dysgwyr. O ganlyniad, nid yw’n bosibl olrhain datblygiad Cymraeg dysgwyr yn ddigon effeithiol bob tro. Er enghraifft, nid yw lleiafrif yr ymarferwyr yn nodi llwyddiannau a meysydd i’w datblygu dysgwyr a grwpiau o ddysgwyr, fel y rhai sy’n fwy abl, yn ddigon trylwyr wrth iddynt gaffael geirfa a phatrymau cystrawennol yn rhan o’r broses drochi gynnar.
Cameo – datblygu medrau gwrando a siarad ar gyfer dysgwyr o bob cefndir ieithyddol
Mae ymarferwyr yng Nghylch Meithrin Penparc, Cyngor Sir Ceredigion, yn cynllunio cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr ymarfer medrau gwrando a siarad.
Mae ymarferwyr yn cynnig sesiynau torfol buddiol, sy’n gyfle i bob dysgwr ymateb i gwestiynau gyda’i gilydd a chanu ar y cyd. Maent hefyd yn eu rhannu’n grwpiau gwahanol i roi cyfle i ddysgwyr ymateb i gwestiynau’n unigol, gan ystyried yn ofalus ddatblygiad ieithyddol dysgwyr o’u mannau cychwyn. Er enghraifft, wrth drafod ffrwythau, maent yn bwydo geirfa fwy heriol i un grŵp o siaradwyr hyderus fel ‘berllan’ ac ‘amryliw’. Maent hefyd yn gofyn cwestiynau sydd yn eu hymestyn yn werthfawr, fel ‘beth yw mwy nag un afal?’. Mae ymarferwyr eraill yn cynorthwyo dysgwyr sy’n newydd i’r Gymraeg i feithrin geirfa symlach. Er enghraifft, trwy ganolbwyntio ar enwau a lliwiau ffrwythau gwahanol a chyflwyno ansoddeiriau fel ‘bach’ a ‘mawr’.
Mae’r ymarferwyr yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddysgwyr fodloni eu hanghenion ieithyddol. Maent yn cynllunio’n fwriadus ac yn penderfynu ar eirfa a phatrymau cystrawennol i’w cyflwyno trwy gyfrwng eu themâu. Maent yn manteisio ar gyfleoedd amrywiol i ddysgwyr ddefnyddio a chymhwyso’r iaith maent wedi’i chaffael drwy gael eu trochi ymhellach mewn gweithgareddau mewn ardaloedd gwahanol yn y ddarpariaeth gynhwysol. Maent yn cyfoethogi profiadau’r dysgwyr drwy ymweliadau yn y gymuned leol, er enghraifft drwy fynd am dro i’r berllan gyfagos.
Mae bron bob pennaeth ysgol ac arweinydd canolfan trochi iaith yn hynod gefnogol o lwyddiannau rhaglenni dwys mewn canolfannau trochi iaith. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn olrhain cynnydd dysgwyr drwy ddull anffurfiol, er enghraifft drwy arsylwi sesiynau a sgwrsio gyda dysgwyr. Yn ddiweddar iawn, mae ychydig o ganolfannau wedi mabwysiadu system olrhain sy’n debyg i’r gwasanaeth Saesneg fel iaith ychwanegol drwy ddefnyddio ‘model 5 cam o Gymraeg fel ail iaith ychwanegol’ i asesu dysgwyr deirgwaith yn ystod y cwrs. Mae hwn yn gyfrwng addas i ymarferwyr olrhain caffael iaith dysgwyr o gam A, a ddiffinnir fel ‘Mae'r Gymraeg yn newydd iddynt’ hyd at gam D, a ddiffinnir fel ‘rhugl’. Mae hyn yn cryfhau dealltwriaeth ymarferwyr o’r camau nesaf ar gyfer y dysgwr. Er enghraifft, mae’n gosod disgwyliadau defnyddiol fel bod siaradwyr ‘Cam Ch’ yn ‘gallu ateb cwestiynau caeëdig penodol mewn gwersi’. Fodd bynnag, mae dulliau ar gyfer asesu cynnydd hwyrddyfodiaid trwy gydol eu gyrfa ysgol yn anghyson.
Darpariaeth ar gyfer grwpiau o ddysgwyr
At ei gilydd, mae ymarferwyr yn llwyddo i ddefnyddio’r un dulliau trochi iaith ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn yr arfer orau, caiff darpariaeth i gefnogi medrau Cymraeg dysgwyr ei thrafod fel rhan o’r broses o adolygu anghenion dysgwyr unigol, ac mae’r plentyn yn cyfrannu at y trafodaethau. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn trefnu adnoddau Braille drwy gyfrwng y Gymraeg i ddysgwyr sydd â nam ar y golwg. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn datblygu eu medrau Cymraeg yn briodol fel rhan o’r broses drochi.
Mae bron pob ymarferydd yn cynnig cymorth addas i ddysgwyr sy’n siarad ychydig iawn o Saesneg gartref, os o gwbl. Nid ydynt yn addasu darpariaeth addysg drochi i ddysgwyr nad ydynt yn siarad Saesneg, gan fod y dysgwyr hyn fel arfer yn datblygu eu medrau Cymraeg yn addas. Mae ymarferwyr yn eu cynnwys yn gefnogol ym mhob gweithgaredd ac yn defnyddio’r ystod lawn o ddulliau trochi gwerthfawr i hybu eu dealltwriaeth o’r Gymraeg. Fodd bynnag, mae ychydig o awdurdodau lleol yn trefnu cymorth mewn sesiynau ar wahân i dargedu medrau Saesneg hwyrddyfodiaid. Mae ychydig iawn o dystiolaeth o ymarferwyr sy’n cynllunio i ddatblygu medrau amlieithrwydd y tu hwnt i gefnogi dysgwyr sydd eisoes yn siarad iaith ychwanegol gartref.