Mae trochi cynnar yn golygu cyflwyno a defnyddio’r Gymraeg fel unig iaith yr addysgu (heblaw am ychydig iawn o eithriadau) yn y cyfnod sylfaen mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Yn yr arfer orau, mae hyn yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei chyflwyno’n fwriadus i ddysgwyr mewn sesiynau iaith penodol, ynghyd â darparu cyfleoedd cyson iddynt gaffael a chymhwyso’u medrau Cymraeg trwy brofiadau cyfoethog o fewn a thu hwnt i’r dosbarth.
Mae trochi hwyr yn golygu darpariaeth ar gyfer dysgwyr sydd yn ymuno ag ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ffrydiau Cymraeg mewn ysgolion dwyieithog sydd heb brofi cyfnod cyfan o drochi cynnar yn y Gymraeg. Gall y dysgwyr hyn fod yn gwbl newydd i’r Gymraeg neu’n ail ymgysylltu gyda darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Yn yr achosion cryfaf, mae darpariaeth trochi hwyr yn raglen dwys a strwythuredig.
Yn dilyn cyfnodau o gaffael Cymraeg trwy ddulliau trochi effeithiol, mae y rhan fwyaf o ddysgwyr yn magu hyder a hyfedredd addas yn y Gymraeg i gael mynediad llawn at holl feysydd dysgu. Er hyn, mae ymarferwyr yn parhau i gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau Cymraeg ar ôl diwedd cyfnodau trochi cynnar neu hwyr beth bynnag fo'u cefndir ieithyddol. Mae llawer o'r dulliau trochi yr un mor berthnasol wrth gefnogi dysgwyr i gyfoethogi’r Gymraeg ag yr oeddent i gaffael y Gymraeg. Er enghraifft, mae ymarferwyr yn parhau i fwydo geirfa a phatrymau cystrawennol wrth iddynt ddatblygu medrau Cymraeg dysgwyr ar draws y meysydd dysgu.