Datblygu siaradwyr Cymraeg naturiol ac aeddfed
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu’r disgyblion fel siaradwyr Cymraeg naturiol yn gryfder. Mae arweinwyr yr ysgol yn hyrwyddo cariad dwfn at yr iaith Gymraeg a Chymreictod, sy’n meithrin balchder cryf y disgyblion at yr iaith. Mae llafaredd yn flaenoriaeth glir ar draws yr ysgol ac mae’r cyfleoedd dyddiol i ddatblygu patrymau iaith a chystrawennau cywir yn meithrin siaradwyr Cymraeg rhugl, safonol o oed cynnar. Mae’r cynnydd yn glir a dilyniant cadarn ym medrau ieithyddol y disgyblion, gyda’r rhan fwyaf yn dangos aeddfedrwydd ieithyddol a chyfoethog erbyn maent ar frig yr ysgol.