Terrace Road Primary School - Estyn
Cynradd - Dinas a Sir Abertawe

Terrace Road Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Unedig trwy ddysgu – cefnogi pob disgybl

Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer lles, gofal, cymorth ac arweiniad yn gryfder nodedig. Mae arweinwyr, ynghyd â thîm lles hynod fedrus, yn amlwg o gwmpas yr ysgol ac yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu perthnasoedd cryf â’r teuluoedd mwyaf agored i niwed. Maent yn llwyddo i greu amgylchedd diogel ac ethos sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch rhwng pawb, gan sicrhau bod disgyblion a’u rhieni neu ofalwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae’r ymrwymiad hwn yn ganolog i ddatganiad gweledigaeth yr ysgol, ‘Yn Unedig Trwy Ddysgu’. Mae staff yn darparu cymorth helaeth ac ymarferol i deuluoedd sy’n wynebu amgylchiadau heriol. O ganlyniad i’r dull cynhwysfawr a thosturiol hwn, mae’r ysgol yn llwyddo i werthfawrogi pob disgybl a theulu ac yn lleihau effaith trawma, aflonyddwch a thlodi ar gyrhaeddiad a chynnydd. O ganlyniad, mae bron pob disgybl a’u rhieni a’u gofalwyr yn teimlo’n ddiogel, yn hapus, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu parchu. Yn ei dro, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd academaidd, cymdeithasol ac emosiynol cryf yn yr ysgol.

Manylion

Cyfeiriad

Terrace Road
Mount Pleasant
SA1 6JD