‘Dysgu i Ddysgu’: fframwaith dysgu hunangyfeiriedig
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu lefel anarferol o uchel o annibyniaeth o ystyried eu hoedran, o ganlyniad i’r dull ‘dysgu i ddysgu’ ac ethos dysgu’r ysgol. Mae eu defnydd helaeth a medrus o dechnoleg addysgol a dyfeisiau digidol i hwyluso eu dysgu yn galluogi ac yn meithrin yr annibyniaeth hon. O ganlyniad, maent yn dangos gwydnwch yn eu hagwedd at waith, gan geisio datrys heriau heb ofyn am gymorth yn rhy gynnar a dangos penderfyniad a dyfalbarhad. Mae hyn yn nodwedd arwyddocaol o’r ysgol.