Arfer Effeithiol |

Ymchwil sydd yn sail i strategaethau dysgu ac addysgu

Share this page

Nifer y disgyblion
2000
Ystod oedran
16+
Dyddiad arolygiad

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae DCGO wedi bod yn flaengar ymysg darparwyr CiO yng Nghymru oherwydd ei bwyslais parhaus ar ymchwil fel sail i ddatblygiadau yn y maes.  Cryfder pellach y gwaith hwn yw ei fod yn seiliedig ar gydweithio gydag ysgolion academaidd amrywiol ym Mhrifysgol Bangor, gan ddwyn arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol at ei gilydd er lles y maes.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ymchwil academaidd diweddar sydd wedi ei gynnal yn cynnwys y canlynol:

  • Newid Ymddygiad - ymchwil PhD mewn cydweithrediad â’r Ysgol Seicoleg ar newid ymddygiad siaradwyr goddefol y Gymraeg.  Yn deillio o’r ymchwil hwn, mae DCGO wedi medru cymhwyso’r canfyddiadau i gyrsiau ‘Magu Hyder’ gyda’r cyhoedd ym Mangor ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac yn ddiweddarach gyda Menter Iaith Bangor gyda busnesau yn y ddinas.  Arweiniodd hyn at lunio canllaw ar gynnal sesiynau magu hyder i weddill darparwyr Cymraeg i Oedolion.  Ar gais y Ganolfan Genedlaethol, cynhelir peilot sesiynau magu hyder cenedlaethol yng Nghyngor Gwynedd.
  • E-Ddysgu – ymchwil PhD mewn e-Ddysgu ac effeithiolrwydd e-Ddysgu mewn cymhariaeth â’r dull wyneb yn wyneb arferol wrth gaffael iaith.  Mae’r ymchwil yn cynnwys mesur effaith Apiau dysgu Cymraeg a ddatblygwyd gan DCGO.  Bwriedir defnyddio’r canfyddiadau er mwyn bwydo i arlwy ar-lein DCGO yn 2022/2023.
  • Anawsterau ynganu - ymchwil PhD mewn Ieithyddiaeth sy’n canolbwyntio ar y prif anawsterau a wynebir gan ddysgwyr y Gymraeg.  Cyfrannodd y Ganolfan Genedlaethol at nawdd yr ysgoloriaeth hon. Bydd tystiolaeth yr ymchwil hwn yn medru cyfrannu at newidiadau i gynnwys cwrslyfrau/arweiniad i diwtoriaid, yn ogystal ag at gynnwys hyfforddiant cenedlaethol i diwtoriaid.

Rheolaeth Strategol ar hyfforddiant iaith o fewn y gweithle – ymchwil PhD yn wreiddiol sydd wedi arwain at astudiaethau pellach (fel y gwelir isod).  Mae canfyddiadau’r ymchwil hwn 

  • wedi arwain at newidiadau yn y modd y mae DCGO yn trafod a chynllunio hyfforddiant iaith gyda gweithleoedd (gan gynnwys staff Prifysgol Bangor) fel bod elfen llawer iawn mwy strategol i’r modd y ‘dewisir’ dysgwyr ond hefyd y modd y rheolir yr hyfforddiant, er mwyn sicrhau defnyddwyr y Gymraeg.

 

Mae prosiectau ymchwil cymhwysol eraill yn cynnwys y canlynol:

 

  • Enillwyd grant Ewropeaidd gan yr NPLD (Network to Promote Linguistic Diversity) i arwain prosiect gyda phartneriaid yn yr Eidal, Sbaen a’r Alban, gan roi sylw penodol i ddysgu ar-lein.  Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn nhymor yr hydref 2022 gyda symposiwm rhyngwladol yn cael ei drefnu er mwyn rhannu canfyddiadau ac arfer da ynghyd â gwersi y gall gwahanol wledydd yn Ewrop ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae’r astudiaeth hon hefyd yn cynnwys cymhariaeth o drefniadau a thechnegau rheoli ansawdd, hyfforddi tiwtoriaid a chynhyrchu deunyddiau dysgu.  Fel rhan o’r astudiaeth hon mae DCGO yn gweithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gan ymchwilio i effeithiolrwydd hyfforddiant iaith ei staff (fel rhan o gynllun Cymraeg Gwaith).
  • Cynhelir astudiaeth debyg i’r un gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gyda Chyngor Sir Gwynedd hefyd, sy’n edrych ar effeithiolrwydd y cynllunio a'r cymhwyso o safbwynt y staff a’r rheolwyr.

Pwysigrwydd y gwaith hwn gyda’r gweithleoedd yw er mwyn medru darparu pecyn canllawiau i’r Ganolfan Genedlaethol a’i darparwyr ac i Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn sicrhau bod hyfforddiant iaith yn y gweithle mor effeithiol ag y gall fod i’r sefydliadau, y dysgwyr newydd a’r cyhoedd sy’n derbyn gwasanaeth Cymraeg ganddynt.

Rhannu Canfyddiadau’r ymchwil

Mae DCGO yn awyddus iawn i rannu ei ganfyddiadau gyda’r maes yng Nghymru a thu hwnt.  I’r perwyl hwn, yn ogystal â’r symposiwm a gynhaliwyd yn 2019/2020 a’r gynhadledd ryngwladol a fydd yn cael ei chynnal yn 2022, mae’r cyhoeddiadau diweddar / ar y gweill canlynol hefyd yn rhannu gwybodaeth a chanfyddiadau manwl am Gymraeg yn y Gweithle:

  • Erthygl yn Current Issues in Language Planning
  • Erthygl yn Gwerddon
  • Pennod yn Y Gymraeg a Gweithle'r Gymru Gyfoes, cyfrol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru

Mae DCGO hefyd wedi cyhoeddi pennod (‘Addysgu dysgwyr ail-iaith’) yn y gyfrol a gyhoeddwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol (2020) o’r enw Cyflwyniad i ieithyddiaeth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Yr hyn sy’n nodweddiadol o’r ymchwil ydy ei fod yn ymchwil gymhwysol sy’n golygu fod canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cymhwsyo a’u defnyddio fel sail i strategaethau dysgu ac addysgu yng ngwaith pob dydd DCGO a’r sector, ac o ganlyniad mae’n cael effaith uniongyrchol ar safonau dysgwyr.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn