Arfer Effeithiol |

Ymagwedd ragweithiol at nodi a chymorth ar gyfer arweinwyr ysgolion y dyfodol, gan gynnwys sectorau lle mae recriwtio yn heriol

Share this page

Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Cyfanswm poblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw tua 250,000. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 77 o ysgolion cynradd, gan gynnwys 10 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Yn ychwanegol, mae 14 ysgol uwchradd, y mae dwy ohonynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae dwy ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion. Mae Dinas a Sir Abertawe yn un o dri awdurdod lleol a ffurfiodd bartneriaeth newydd, sef ‘Partneriaeth’, yn disodli consortiwm ERW a ddaeth i ben yn 2021. 

  • Dros gyfartaledd tair blynedd, mae 22% o ddisgyblion rhwng 5 ac 15 oed yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 20% 
  • Mae 16% o ddisgyblion sy’n 5 oed neu’n hŷn o leiafrifoedd ethnig, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru, sef 12% 
  • Mae gan 24% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig (AAA), sydd uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 20% 
  • Roedd 117 o blant ym mhob 10,000 yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn 2021, ac roedd yn y 12fed safle ymhlith yr awdurdodau lleol eraill. 

Mae cyfarwyddiaeth addysg yr awdurdod lleol wedi’i threfnu’n dri maes gwasanaeth –  Cynllunio Addysg ac Adnoddau, Cyflawniad a Phartneriaeth, Dysgwyr Bregus. Mae gweledigaeth yr awdurdod ar gyfer “addysg ragorol i bawb trwy gydweithio” yn nod corfforaethol sy’n gwneud defnydd da o’r holl dimau o fewn y tri maes gwasanaeth. Mae’r Tîm Gwella Ysgolion yn cyfuno ymgynghorwyr gwella ysgolion, arbenigwyr perfformiad a rheolwyr tîm o fewn y Gwasanaeth Cyflawniad a Phartneriaeth. Caiff y tîm gwella ysgolion ei arwain gan bennaeth profiadol, ac mae’n cyflogi ystod o swyddogion a gyflogir gan yr awdurdod lleol ac ymarferwyr wedi’u comisiynu sydd wedi’u lleoli mewn  ysgolion. Mae hyn yn darparu cydbwysedd sy’n galluogi golwg eang ar y gofynion cymorth presennol ar draws pob sector.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae datblygu arweinwyr ysgolion y dyfodol wedi bod yn ffocws i waith y tîm gwella ysgolion am gyfnod cynaledig. Mae’r awdurdod lleol yn arddel golwg strategol ynglŷn â chynllunio olyniant ar gyfer arweinwyr ysgol a thrwy ddadansoddi, nododd ofyniad i gefnogi ysgolion â chynllunio olyniant. Roedd hyn yn cynnwys nodi prinderau penodol mewn rhai sectorau, e.e. Catholig Rufeinig. Mewn partneriaeth ag ysgolion, datblygodd y Tîm Gwella Ysgolion gynlluniau arloesol i gefnogi cydweithio, dysgu proffesiynol a recriwtio.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mewn cydweithrediad â Chyfarwyddwr yr Esgobaeth, nododd yr ymgynghorydd gwella ysgolion (YGY) ar gyfer ysgolion cynradd Catholig fod diffyg o ran recriwtio yng ngharfan arwain y sector Catholig.

Gan ddefnyddio gwybodaeth a deallusrwydd Cyfarwyddwr yr Esgobaeth o ymweliadau cymorth yr Awdurdod Lleol, cafodd ymarferwyr effeithiol eu nodi a’u targedu fel arweinwyr y dyfodol. Dyfeisiwyd rhaglenni dysgu proffesiynol penodol. Sicrhaodd hyn fod y rhai a nodwyd yn gallu dangos arfer effeithiol gynaledig. Caiff yr ymarferwyr hyn eu defnyddio’n effeithiol, ac maent yn cyfrannu fel modelau arfer orau ar draws yr Esgobaeth. O ganlyniad, mae rhwydwaith Cymru gyfan yn cefnogi’r dysgu proffesiynol trwy fodelu arfer orau.

Yn ychwanegol, defnyddir y garfan arweinyddiaeth hon i gynorthwyo ysgolion lle mae swyddi gwag arweinyddiaeth yn bodoli. Defnyddiwyd darpar benaethiaid mewn ysgolion lle mae’r pennaeth yn absennol. Yn yr enghreifftiau gorau, mae’r unigolion hyn wedi arwain ysgolion yn llwyddiannus trwy ymweliadau monitro Estyn a rhaglenni ymyrraeth / cymorth yr awdurdod lleol. Yn ychwanegol, defnyddir secondiadau arweinyddiaeth ar draws awdurdodau. Mae hyn yn galluogi arweinwyr i rannu arfer orau.

Mae effaith arweinyddiaeth yn flaenoriaeth uchel i ymgynghorwyr gwella ysgolion ac mae’n rhan amlwg o’r agenda gytûn ar gyfer ymweliadau ag ysgolion. O ganlyniad, gall y Tîm Gwella Ysgolion werthuso’r capasiti arwain ar gyfer pob ysgol. Mae pob ymgynghorydd gwella ysgolion yn cyfrannu at drafodaeth broffesiynol sy’n amlygu, trwy eithriad, ysgolion nad yw eu perfformiad yn bodloni disgwyliadau’r awdurdod lleol. 

Mae’r awdurdod lleol yn rhagweithiol o ran nodi ysgolion y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, ac mae’n defnyddio system arloesol (School Profiler) i werthuso perfformiad ysgolion gyda chyfraniadau gan wasanaethau’r cyngor ar eu hyd. Mae llawer o randdeiliaid yn gweithredu’n gyflym trwy broses ddemocrataidd, gynlluniedig, gyda blaenoriaethau clir ar gyfer gwella, o dan gylch gorchwyl cytûn. Mae llywodraethwyr ysgolion yn arwain y grwpiau hyn sy’n teimlo eu bod wedi’u grymuso i wneud gwelliannau cyflym. Mae hyn yn helpu sicrhau bod yr awdurdod lleol yn osgoi prosesau ffurfiol ar gyfer ysgolion sy’n destun pryder, ble bynnag y bo modd. 

Mae’r awdurdod lleol yn comisiynu a chefnogi gwaith ychwanegol i ddatblygu darpar arweinwyr, arweinwyr newydd ac arweinwyr profiadol ar bob lefel. Er enghraifft, mae’r awdurdod wedi cefnogi prosiect sy’n galluogi darpar ddirprwy benaethiaid i gyfnewid ysgolion am flwyddyn ac ennill profiad gwerthfawr mewn ysgol mewn cyd-destun hynod wahanol. Defnyddir strategaethau mentora a hyfforddi cymheiriaid yn effeithiol gydag uwch arweinwyr newydd a phrofiadol mewn ysgolion.  
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad, mae pob un o’r ysgolion prin iawn yn Abertawe sydd wedi peri pryder yn y pum mlynedd ddiwethaf wedi gwneud cynnydd cryf a chyflym.

Roedd perfformiad disgyblion ar ddiwedd cyfnod allweddol 4 rhwng 2017 a 2019 uwchlaw neu ymhell uwchlaw safonau mewn ysgolion tebyg. 

Rhwng 2017 a 2019, roedd presenoldeb yn ysgolion uwchradd Abertawe uwchlaw neu ymhell uwchlaw cyfartaleddau cenedlaethol.
 
Mae rhwydweithiau ysgol amrywiol yn darparu ffynhonnell gymorth gyfoethog ar gyfer ymarferwyr i’w galluogi i rannu arfer arloesol ac effeithiol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhennir arfer dda yn rheolaidd trwy’r canlynol:

  • gwaith y Tîm Gwella Ysgolion
  • anfon cylchlythyr wythnosol at holl aelodau staff ysgolion
  • ystod o rwydweithiau / gweithgorau
  • safleoedd SharePoint a grwpiau wedi’u sefydlu yn Hwb
  • cynadleddau / cyfarfodydd penaethiaid
     

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Tegwch profiadau’r cwricwlwm ar gyfer disgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (AHY)

Ysgrifennir yr adroddiad thematig hwn i ymateb i gais am gyngor gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg yn ei lythyr cylch gwaith at Estyn ar gyfer 2022/23. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i ysgolion ac UCDau i ymateb i COVID-19

Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cynnig trosolwg o’r ffordd y mae awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol wedi gweithio gydag ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) i hyrwyddo dysgu a chefno ...Read more
Adroddiad thematig |

Arferion cofrestru disgyblion

pdf, 1.64 MB Added 25/10/2019

Mae’r adroddiad yn archwilio arferion cofrestru disgyblion yng Nghymru, ac yn benodol: ysgol sy’n tynnu enw disgybl oddi ar ei chofrestr yn gyfan gwbl heb ddefnyddio gwaharddiad parhaol ffurfiol (‘ ...Read more
Adroddiad thematig |

Codi cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy’n derbyn gofal –Deunydd hyfforddiant

pptx, 530.65 KB Added 05/07/2016

Mae'r cyflwyniad PowerPoint hwn yn ffordd i ddarparwyr rhannu brif ganfyddiadau'r adroddiad a adolygu eu perfformiad eu hunain mewn maes thematig penodol. ...Read more