Ar y cychwyn, gweithiodd tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn agos ag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys y consortiwm rhanbarthol ac arbenigwyr allanol i sefydlu gwaelodlin a chytuno ar flaenoriaethau allweddol ar gyfer newid dros gyfnod o dair blynedd. Rhoddodd y waelodlin gytunedig hon gyfarwyddyd clir i’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r corff llywodraethol am yr hyn roedd angen ei wella a ffurfiodd sail cynllun gwella’r ysgol. Roedd yn bwysig i bawb dan sylw yn y broses rheoli newid yr ymgynghorwyd yn llawn â’r holl bartneriaid trwy gydol y broses, a bod yr holl newidiadau’n cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â phob un o’r staff, y disgyblion a’r rhieni / gofalwyr.
Mae’r corff llywodraethol wedi bod trwy newid sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf, yn ailwerthuso’i rôl fel ffrind beirniadol i’r ysgol. Mae cyflwyno llywodraethwyr fel cadeiryddion i’r is-bwyllgor sy’n monitro cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau strategol yn golygu bod gan y llywodraethwyr ddealltwriaeth drylwyr bellach o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu. Maent wedi defnyddio’u
meysydd arbenigedd yn dda i gefnogi uwch arweinwyr a staff trwy’r cyfnod hwn o newid sylweddol.
Sefydlwyd tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys staff yr ysgol, Gyrfa Cymru, yr awdurdod lleol, llywodraethwyr a’r coleg addysg bellach i adolygu’r cynnig dysgu, y pecyn achredu, gofal a chymorth, a seilwaith yr ysgol o’r herwydd.
Cytunodd y corff llywodraethol i ehangu’r uwch dîm arweinyddiaeth a datblygodd yr ysgol rôl y penaethiaid cynorthwyol i fod yn benaethiaid sectorau, gan roi ymreolaeth a chymorth iddynt gynnal eu sector. Rhoddwyd y dull sectorau ar waith ym mis Medi 2020, gan ddarparu strwythur ar gyfer staff a disgyblion. Mae pob sector yn darparu arlwy cwricwlwm teilwredig i ddiwallu anghenion penodol eu disgyblion a gweithio gyda’i gilydd yn agos i gefnogi pontio wrth iddynt symud o un sector i’r llall.
Trafododd yr ysgol newid rheolaeth o ran y diwrnod ysgol. O ganlyniad, mae pob un o’r staff cymorth bellach yn mynychu diwrnodau hyfforddiant mewn swydd yr ysgol ac yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob un o feysydd datblygu’r ysgol, gan gynnwys datblygu ymagweddau at y pedwar diben, arlwy’r cwricwlwm a datblygu’r camau bach ar gyfer dysgu’r disgyblion.
Mabwysiadodd yr ysgol fodel cydweithredol ar gyfer datblygu ei hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru. Mae’n canolbwyntio ar ddyheadau pontio sydd gan ddisgyblion a’r medrau sydd eu hangen arnynt i gefnogi eu cyfnod pontio. Mae dadansoddi ac archwilio’r pedwar diben gyda staff, disgyblion a rhieni wedi arwain at arlwy cwricwlwm clir a dilynol ym mhob sector sy’n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu ym mhob un o’u meysydd dysgu.