Troi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg
Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan). Mae nodau strategol cyfredol y Ganolfan yn cynnwys:
- Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau deniadol ac addas ar gyfer dysgwyr, gan wneud defnydd llawn o dechnoleg
- Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau ble gall dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus
- Codi proffil y sector a chynyddu’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau ac yn parhau i ddysgu Cymraeg
Ailstrwythurodd y Ganolfan ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled Cymru gan sefydlu 11 darparwr Dysgu Cymraeg o 2016 ymlaen. Mae’n cyllido’r darparwyr Dysgu Cymraeg hyn i gynnig arlwy Cymraeg i Oedolion o fewn eu cymunedau.
Mae wedi llwyddo i greu ystod eang o bartneriaethau strategol gyda sefydliadau cenedlaethol i ymestyn y cynnig dysgu ffurfiol ac anffurfiol i ddysgwyr. Mae’r Ganolfan wedi manteisio ar y partneriaethau cadarn hyn i gynnig arlwy amrywiol a chyffrous o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio eu medrau ieithyddol boed hynny yn gymdeithasol, diwylliannol neu’n broffesiynol.