Arfer Effeithiol |

Sut mae’r ysgol yn defnyddio’r amgylchedd awyr agored a’r gymuned ehangach (Cynefin) i ehangu profiadau dysgu disgyblion

Share this page

Nifer y disgyblion
622

Gwybodaeth am yr ysgol

Agorwyd Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ym mis Medi 2018. Mae’r ysgol, sydd wedi’i lleoli ar draws tri champws, yn gwasanaethu cymuned wledig yn bennaf. Mae gan yr ysgol ethos cynhwysol cryf a adlewyrchir yn ei harwyddair, sef  “gwnewch y pethau bychain”. Mae 622 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd: 191 yn y sector cynradd a 431 yn y sector uwchradd. Mae tua 11% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 24% angen dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwasanaethu’r ysgol ag amgylchedd dysgu unigryw a naturiol, ac mae gan bob campws ei amgylchedd a’i gymuned ei hun. Cyn i’r ysgol agor, cynhaliodd y corff llywodraethol dros dro gyfres o gyfarfodydd cymunedol â rhanddeiliaid gan sefydlu gweithgor i ddatblygu’r amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored. Mae wedi sefydlu cysylltiadau cryf â’r gymuned lle mae disgyblion yn rhyngweithio’n rheolaidd ag arlunwyr lleol, grwpiau cymunedol, busnesau fferm, a gwasanaethau cyhoeddus i ehangu eu profiadau dysgu. Fel aelodau o’r Fforwm Ysgolion Pob Oed, teithiodd staff i Sweden a Gwlad Yr Iâ i ymchwilio i fentrau dysgu yn yr awyr agored. Mae arlwy’r cwricwlwm ôl-14 yn cynnwys cyrsiau mewn Lletygarwch ac Arlwyo, Amaethyddiaeth, Peirianneg a Gofal Plant er mwyn ymateb i anghenion cyflogaeth lleol. Mae’r Eglwys Gadeiriol yn darparu adnodd unigryw i ddysgu am hanes, diwylliant, crefydd a chymuned, ac mae clerigwyr yn cyfrannu at ddatblygu cerddoriaeth a gwerthoedd Cristnogol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Defnyddir y ‘cynefin’ yn gyfrwng i yrru dysgu. Er enghraifft, fe wnaeth cyllid o ‘Dysgu drwy Dirweddau’, hwyluso dysgu proffesiynol a chaffael adnoddau allweddol ar gyfer adeiladu cuddfan, offer cynnau tân a chwrs cyfeiriannu. O ganlyniad i ymchwil staff, cafodd strategaethau dysgu gomisiynau dilys. Mae datblygiad medrau disgyblion wedi’i gysylltu â’r pedwar diben. Mae dysgu wedi canolbwyntio ar themâu lleol a chenedlaethol, gyda disgyblion:

  • Yn cael eu comisiynu fel crewyr cynnwys i ymchwilio i, a chreu, gwefannau Olympaidd, er enghraifft wrth gyfweld â’r cyn-ddisgybl Jasmine Joyce, sy’n chwaraewr rygbi Olympaidd a Rhyngwladol o Gymru, ac ysgrifennu amdani.
  • Yn dod yn rheolwyr digwyddiadau ar gyfer digwyddiad Olympaidd ar Draeth Porth Mawr. Cafodd disgyblion eu hyfforddi gan gatrawd Corfflu Brenhinol y Signalau sydd wedi’u lleoli ym Mreudeth.
  • Yn creu timau cynyrchiadau theatr i lansio, marchnata, pennu costau, cynhyrchu a pherfformio The Lion King a chodi £3000 ar gyfer disgyblion o Wcráin yn yr ysgol.
  • Yn cynnal nifer o arddangosfeydd yn Oriel y Parc, (canolfan groeso), gan gynnwys arddangosfeydd celf a ‘Beth sy’n Gwneud Cymru’n Rhyfeddol’ (‘What makes Wales Wonderful’) 2022.
  • Yn gweithio ar gynaliadwyedd, bioamrywiaeth a ffermio mewnbwn sero a oedd yn cynnwys gweithdai gyda Car Y Môr, (y fferm gwymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf yng Nghymru) ac ymweliadau ag Ynys Dewi gyda’r RSPB.
  • Yn cwblhau prosiectau gyda Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Darwin Science a Dŵr Cymru ar newid hinsawdd a llygredd arfordirol.

Mae disgyblion yn ymweld yn rheolaidd ag Erw Dewi (gardd gymunedol gynaliadwy leol) a Lower Treginnis, Farms for City Children, i helpu tyfu, pwyso a phecynnu cynnyrch sy’n cael ei werthu er budd y banc bwyd lleol. Mae dysgu wedi cynnwys dylunio maes chwarae naturiol, ‘bio blitzes’ a dysgu am brosesau bywyd.

Mae disgyblion yn defnyddio adnoddau cymunedol yn ystod ‘Dydd Iau Gwefreiddiol’ (‘Thrilling Thursday’). Mae hyn yn cynnwys sefydlu siopau dros dro i werthu eitemau a grewyd yn yr ysgol. Ceir ‘parthau sy’n rhydd rhag sbwriel’ ar y cyd â Caru Cymru (Cadwch Gymru’n Daclus) ac mae disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol rheolaidd i godi sbwriel fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus.

Mae gan gymuned yr ysgol gysylltiadau cryf yn fyd-eang. Cynhaliwyd ‘taith rithwir’ â Lesotho ym mis Gorffennaf 2022 a ‘Diffodd y Pŵer ar Benrhyn y Gogledd’ cyn ymweld ag ysgol bartner yn Lesotho, i gydweithio a gyrru dysgu ar nodau datblygu cynaliadwy a lles disgyblion. Bu disgyblion o’r ysgol yn cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda disgyblion o Wexford i ddysgu am y dreftadaeth, y bererindod a’r diwylliant a rennir.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r profiadau dysgu hyn yn niwtral o ran cost ac felly’n gynhwysol. Mae ‘cynefin’ wedi bod yn gyfrwng i ysbrydoli a gwella agweddau at ddysgu. Mae’r gweithgareddau hyn wedi darparu platfform difyr ar gyfer datblygu’r pedwar diben a medrau disgyblion. Pan ymgorfforir ‘cynefin’ neu ddysgu yn yr awyr agored, mae cynllunio ar gyfer dysgu yn gadarn ac yn hwyluso cynnydd cryf, mae ansawdd yr addysgu yn gyson uchel, a thros gyfnod, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu. Mae defnydd dychmygus o’r ‘cynefin’ yn galluogi disgyblion i ddysgu mewn cyd-destunau dilys. Mae arweinwyr yn cynllunio’r cwricwlwm yn strategol i ddisgyblion hŷn astudio ystod eang o gymwysterau addas sy’n gwneud defnydd gwerthfawr o’r ardal leol, ei hadnoddau a’i chyflogwyr.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol