Arfer Effeithiol |

Gwaith yr ysgol mewn perthynas â’r ddarpariaeth i ddatblygu disgyblion fel dinasyddion cyfrifol a gwybodus

Share this page

Nifer y disgyblion
1108
Ystod oedran
11-18
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn ysgol cyfrwng Cymraeg 11 - 18 oed a gynhelir gan gyngor Sir Gaerfyrddin. Mae 1108 o fyfyrwyr ar y gofrestr, gan gynnwys 181 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 12.3% a chanran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yw 17.5%.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Er mwyn cryfhau a chyfoethogi’r ddarpariaeth gwricwlaidd i bob disgybl, penodwyd cydlynydd Iechyd a Lles er mwyn sicrhau bod cyfleoedd buddiol a gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu fel dinasyddion cyfrifol, aeddfed a gwybodus. Darperir myrdd o brofiadau diddorol a pherthnasol i’r disgyblion trwy’r rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) a lles. Mae’r cyfleoedd i ddisgyblion leisio eu barnau ac arwain a dylanwadu ar waith yr ysgol, ynghyd â’r arweiniad a phrofiadau ynghylch y camau nesaf yn eu bywydau, yn enwedig byd gwaith, hefyd yn cyfrannu at eu datblygiad fel dinasyddion gwybodus. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi rhoi ffocws glir ar ddatblygu ymagweddau iechyd a lles ym mhob agwedd o’i gwaith. O ganlyniad, mae’r ysgol wedi hyrwyddo a sicrhau y cyfleoedd gorau i bob disgybl i ddatblygu’n unigolion gwydn, gwybodus a llwyddiannus. Mae’r cyfleoedd gwerthfawr yma wedi sicrhau bod ethos fugeiliol gref ac awyrgylch gyfeillgar a chroesawgar yn Ysgol Maes y Gwendraeth.

Mae datblygu rhaglen gyfoethog a theilwredig i hyrwyddo agweddau ABCh ar draws y cwricwlwm wedi bod yn rhan bwysig o’r gwaith cynllunio. Fel rhan o’r broses gynllunio, cwblhawyd awdit a roddodd drosolwg o’r agweddau a oedd eisoes yn cael eu cyflwyno o fewn y cwricwlwm, yn ogystal ag adnabod yr agweddau oedd angen eu datblygu ymhellach. Law yn llaw â hyn, defnyddiwyd data’r rhwydwaith ymchwil iechyd mewn ysgolion (SHRN), adborth disgyblion a gwybodaeth o’r cydweithio agos gyda’r gymuned er mwyn cynllunio’r ddarpariaeth. Er enghraifft, mae’r gwaith gyda’r heddlu lleol yn galluogi’r ysgol i ymateb i faterion lleol o bwys yn ogystal ac ymgymryd mewn ymgyrchoedd lleol fel trefnu banc bwyd o fewn yr ysgol. Golyga hyn bod staff yn gallu cynllunio’n gydlynus ar gyfer cwricwlwm perthnasol sy’n ymateb i faterion sy’n codi o fewn profiadau’r disgyblion. Trwy’r gwersi lles, sesiynau llesiant boreol a gwasanaethau mae’r ysgol yn cefnogi a chyfoethogi datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion drwy themâu fel perthnasoedd iach, gwrth-fwlio, fepio a iechyd meddwl. O ganlyniad, mae disgyblion yn datblygu’n unigolion gwybodus sydd yn medru trafod amrywiol faterion yn hyderus ac aeddfed. Yn unol â hyn, mae’r ysgol yn gwneud defnydd da o asiantaethau allanol megis Brook, Gofalwyr Ifanc, Choices ac Impact 242 i gryfhau’r ddarpariaeth ymhellach.

Mae fforymau ‘Llais Maes’ yn cael lle blaenllaw yng ngwaith yr ysgol. Maent yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion i fynegi eu barn, arwain gweithgareddau lles ac ysgol gyfan a datblygu medrau arwain wrth ymgymryd â chyfrifoldebau sy’n dylanwadu’n gadarnhaol ar fywyd a gwaith yr ysgol. Mae effeithiolrwydd fforymau ‘Llais Maes’ yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo barn y disgyblion yn glir ac mae hyn yn arwain at newidiadau gwerthfawr megis diwygio’r polisi gwrth- fwlio, cynyddu’r meinciau ar yr iard a datblygu prosiect i gyflwyno adnodd synhwyrau sensori. Mae disgyblion yn arwain clwb LHDTC+ ac yn cefnogi disgyblion trwy’r cynllun ‘Camu’ ble mae disgyblion y chweched dosbarth yn cefnogi disgyblion iau gyda’u medrau rhifedd a darllen. Mae cynrychiolwyr y fforymau’n crynhoi eu gwaith a'u gweithredoedd yn effeithiol trwy roi diweddariadau i’w cyd-ddisgyblion yn ystod y sesiynau lles boreol a’r gwasanaethau ac yng nghylchlythyron tymhorol ‘Llais Maes’ sy’n cael eu rhannu gyda rhan-ddeiliaid trwy amrywiol gyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad i’r arferion cryf hyn, mae disgyblion yn teimlo bod yr ysgol yn ystyried eu barnau ac yn gweithredu ar eu syniadau.

Mae paratoi disgyblion ar gyfer y camau nesaf yn eu datblygiad, boed hynny yn yr ysgol, coleg neu fyd gwaith hefyd yn rhan bwysig o’n darpariaeth ABCh. Mae llesiant a diddordebau’r disgyblion bob amser wrth wraidd y ddarpariaeth ac o ganlyniad fe gynigir cyngor diduedd a pherthnasol i bob unigolyn. Mae cyfundrefnau cynhwysfawr i gefnogi disgyblion wrth iddynt ymuno â'r ysgol ym Mlwyddyn 7 ac mae hyn yn eu helpu i ymgartrefu’n ddi-ffwdan. Wrth iddynt ddewis eu pynciau opsiwn ym Mlwyddyn 9 ac 11, mae’r ysgol yn darparu gwybodaeth ac arweiniad buddiol i ddisgyblion er mwyn iddynt wneud dewisiadau gwybodus am eu dyfodol. Mae’r ysgol yn trefnu nosweithiau ‘Llwybrau Llwyddiannus’ a sesiynau blasu sy’n darparu gwybodaeth werthfawr i ddisgyblion ynglŷn â llwybrau ôl-14 ac ôl-16. Mae wythnos o brofiad gwaith hefyd yn cael ei hyrwyddo ac mae’r disgyblion yn Mlwyddyn 10 a 12 yn manteisio’n llawn ar y profiad yma. Mae’r ysgol wedi datblygu perthnasoedd gwerthfawr gydag amrywiol gwmnïau allanol a lleol sydd yn cefnogi ei gwaith ac yn cyfoethogi profiadau ac ymwybyddiaeth y disgyblion megis Gyrfa Cymru, busnes bwyd lleol a’r Ardd Fotaneg Genedlaethol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer dda drwy hyrwyddo ei gwaith gydag amryw o ran-ddeiliaid a thrwy wahanol gyfryngau. Mae gwefan yr ysgol yn cynnwys cylchlythyron ‘Llais Maes’ ac mae cyfrif cyfryngau cymdeithasol Iechyd a Lles yr ysgol yn hysbysu a dathlu’r ddarpariaeth gyfoethog gydol y flwyddyn. Ceir defnydd cyson o blatfformau cymdeithasol i hyrwyddo’r gwaith ac mae’r disgyblion yn rhan ganolog o’r cyfan.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Gwaith ymgysylltu: Diweddariad ar y sector uwchradd – Tymor y Gwanwyn 2021

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o’r galwadau ffôn ymgysylltu a wnaed â thros 150 o ysgolion uwchradd rhwng diwedd Hydref 2020 a diwedd Chwefror 2021. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymraeg yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

pdf, 1.83 MB Added 04/05/2018

Mae ein hadroddiad newydd yn edrych ar safonau’r Gymraeg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. ...Read more