Arfer Effeithiol |

Effaith Bod yn Ystyriol o Drawma

Share this page

Nifer y disgyblion
11701

Gwybodaeth am y coleg

Mae Coleg Cambria yn goleg addysg bellach mawr yng ngogledd ddwyrain Cymru. Crëwyd y coleg ar ôl uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl ym mis Awst 2013. Mae ganddo bum campws ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych. Mae’r campysau sy’n cael eu defnyddio gan Goleg Cambria yng Nghei Connah, sy’n cynnwys canolfan chweched dosbarth Glannau Dyfrdwy; Iâl yn Wrecsam, sy’n cynnwys canolfan chweched dosbarth; Ffordd Y Bers yn Wrecsam; Llysfasi a Llaneurgain. Mae’r coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau sy’n cyflwyno rhaglenni o lefel cyn-mynediad i Lefel 7 ar draws ardal ddaearyddol fawr, gyda chyfleoedd ar gael ar y rhan fwyaf o gyrsiau i symud ymlaen i’r lefel nesaf, neu symud ymlaen i brentisiaethau ac addysg uwch. Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys: 

  • Safon Uwch 

  • Mynediad at addysg uwch 

  • Trin gwallt, harddwch, sba a therapïau cyflenwol 

  • Busnes 

  • Iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant 

  • Adeiladu, peirianneg a thechnolegau digidol 

  • Chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus 

  • Amaethyddiaeth a gofal anifeiliaid 

  • Medrau sylfaen a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill 

  • Y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol 

  • Lletygarwch ac arlwyo a theithio a thwristiaeth 

  • Medrau byw yn annibynnol 

Mae 11,701 o ddysgwyr wedi eu cofrestru yn y coleg, ac mae 8,154 o’r rhain wedi eu cofrestru ar ddarpariaeth addysg bellach. Mae gan y coleg 5,952 o ddysgwyr addysg bellach amser llawn, a 2,217 o ddysgwyr addysg bellach rhan-amser. O’r dysgwyr amser llawn, mae 4,541 yn dilyn cyrsiau galwedigaethol, a 1,411 yn dilyn cyrsiau addysg gyffredinol yn y canolfannau chweched dosbarth yn Iâl a Glannau Dyfrdwy. Mae’r coleg yn cyflogi 1,294 o staff. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nododd y coleg gynnydd sylweddol mewn datgeliadau ac atgyfeiriadau iechyd meddwl a lles er 2019-2020, gyda’r pandemig yn amlwg yn effeithio ar ymateb i drawma mewn llawer o bobl ifanc. Hefyd, roedd niferoedd y disgyblaethau ar gyfer dysgwyr o’r ddengradd isaf yn fwy na’r rhai o ddengraddau eraill. Mae’r rhain yn ddysgwyr y nodwyd mai nhw sydd fwyaf tebygol o fod wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. O ganlyniad, rhoddodd y coleg ddull cynhwysfawr ar waith ar draws y coleg ar gyfer arfer sy’n ystyriol o drawma, sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith Trawma dilynol ar gyfer Cymru. 

Datblygwyd y dulliau hyn trwy ‘Fethodoleg sy’n Ystyriol o Drawma’ a chânt eu cefnogi gan staff arbenigol a Strategaeth Coleg Cynhwysol. Mae’r fenter yn sicrhau bod staff wedi’u harfogi i gynorthwyo dysgwyr a chydweithwyr fel ei gilydd. Mae’r coleg wedi datblygu a rhoi cynllun gweithredu sy’n ystyriol o drawma ac amserlen codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar waith ar draws y coleg. O ganlyniad i hyn, mae staff wedi cael eu hyfforddi’n dda ac yn defnyddio strategaethau cadarnhaol ac effeithiol sy’n cefnogi lles a chadw. Trwy ymchwil a hyfforddiant manwl, mae dulliau lles, prosesau’r coleg ac addysgu a dysgu wedi cael eu gweld trwy ‘lens sy’n ystyriol o drawma’,  sy’n arwain at arwyddion cynnar o les gwell ar gyfer staff a dysgwyr, fel ei gilydd. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae Coleg Cambria yn arloeswr enwebedig ar gyfer y sector yng Nghymru. Mae’r fenter hon yn flaengar ac yn berthnasol i’r hinsawdd bresennol o ran iechyd meddwl a lles. Mae’n ddull newydd ar gyfer cynorthwyo staff a dysgwyr trwy strategaethau sy’n ystyriol o drawma, tra’n galluogi ymrwymiad ar draws y coleg i wella profiad a chadw pobl y mae trawma yn cael effaith niweidiol arnynt. Gellir addasu’r dulliau hyn a’u rhoi ar waith mewn amrywiaeth o amgylcheddau dysgu.  

Fel rhan o’r fenter hon, comisiynodd y coleg ddatblygu Tystysgrif PG deilwredig mewn Trawma ac Ymlyniad. Galluogodd hyn i 14 aelod o staff arbenigol allweddol wneud gwaith ymchwil o fewn y coleg a thu hwnt, yn canolbwyntio’n benodol ar y glasoed a byd oedolion, ac effaith trawma ar addysg ôl-16.  

Mae’r fenter yn dangos prosesau nodi, rheoli, atgyfeirio a chymorth mewnol / allanol effeithiol ar gyfer dysgwyr a staff sydd â phroblemau iechyd meddwl. I nodi dysgwyr a allai elwa ar gael cymorth, mae dysgwyr yn cynnal arolwg lles sy’n gweithredu fel gwasanaeth atgyfeirio a chyfeirio, fel ei gilydd. Caiff cymorth iechyd meddwl ei frysbennu gan yr Ymarferwr Iechyd Meddwl a Lles, sydd â phrofiad helaeth mewn arfer sy’n ystyriol o drawma. Caiff yr holl atgyfeiriadau dysgwyr eu rheoli a’u monitro yn rhagweithiol. Mae’r coleg wedi datblygu Dull Graddedig Iechyd Meddwl sy’n Ystyriol o Drawma a phroses atgyfeirio ar gyfer staff a dysgwyr.  

Mae bron pob un o’r tiwtoriaid a’r staff cymorth wedi ymgymryd â hyfforddiant trawma cynhwysfawr, ac mae llawer ohonynt wedi manteisio ar yr hyfforddiant teilwredig ar-lein. Mae adborth yn dangos bod bron pob un ohonynt wedi gweld yr hyfforddiant yn addysgiadol a difyr, ac roeddent yn cytuno eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn cynorthwyo cydweithwyr a dysgwyr mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma ar ôl yr hyfforddiant.   

Erbyn hyn, mae gan bob un o’r tiwtoriaid arbenigol Dystysgrif Lefel 7 PG mewn Trawma yn y Glasoed ac maent yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu arfer a chynorthwyo dysgwyr yn briodol. Dywed pob un ohonynt fod hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn eu dealltwriaeth a’u dulliau asesu, yn enwedig gyda dysgwyr a fyddai wedi cael eu cynorthwyo trwy strategaethau ADHD yn unig fel arall.  

Caiff y fenter hon ei chymeradwyo trwy’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, ac mae’n cyd-fynd â Chynllun Strategol a Strategaeth Iechyd a Lles y coleg. Caiff cynnydd tuag at gwblhau’r targedau o fewn y cynllun gweithredu eu hadrodd i’r Uwch Dîm Rheoli. Mae pob un o’r rheolwyr, uwch reolwyr, arweinwyr a llywodraethwyr wedi ymgymryd â hyfforddiant ymwybyddiaeth sy’n ystyriol o drawma.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r fenter hon yn galluogi’r coleg i gael dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau pob un o’r dysgwyr, a’r ffyrdd y dylai ymdrin â phob dysgwr ar sail angen. Un o’r elfennau sy’n ategu ei ddull sy’n ystyriol o drawma yw ymyrraeth gynnar trwy gymorth graddedig. Caiff lles dysgwyr ei nodi ar dair adeg allweddol o’r flwyddyn academaidd trwy arolygon a gefnogir. Mae hyn yn galluogi atgyfeirio amserol i wasanaethau cymorth.  

Mae’r dull hwn sy’n ystyriol o drawma nid yn unig wedi effeithio ar y ffyrdd y mae staff yn deall perthynas dysgwyr â thrawma, ond hefyd eu perthynas nhw eu hunain. Mae’n rhoi lles ac ymyrraeth i gefnogi iechyd meddwl yn ganolog i weithgareddau’r coleg, ac mae staff a dysgwyr yn elwa ar ffocws cyfannol ar draws y coleg ar hyn. Ers gweithredu Dull sy’n Ystyriol o Drawma, a ffocws cynyddol ar les cyffredinol, bu gostyngiad yn nifer y diwrnodau staff a gollir yn y coleg o ganlyniad i absenoldeb. Mae hefyd yn dechrau gweld effaith ar ddata disgyblu dysgwyr ac mae disgyblaethau o fewn y ddengradd isaf bellach yn deg â’r rhai o’r dengraddau uwch.  

Mae’r coleg wedi buddsoddi hefyd mewn gwella’i arlwy lles i gynorthwyo’r rhai sydd wedi profi trawma. Mae hyn yn cynnwys datblygu gofodau lles meddwl, cyflogi cynorthwywyr lles a Chydlynydd Iechyd Meddwl a Lles. 

Mae Dull llawn sy’n Ystyriol o Drawma wedi cael ei beilota mewn un gyfarwyddiaeth, lle mae’r holl staff cymorth a chyflwyno wedi cael eu hyfforddi mewn trawma ac ymlyniad. Mae adborth yn dangos cynnydd mewn deall trawma emosiynol a mwy o hyder yng ngallu staff i gynorthwyo dysgwyr yn yr ystafell ddosbarth a’r tu allan. Mae adborth gan staff yn datgan bod bron pob un o’r  staff yn teimlo’n fwy hyderus i gynorthwyo dysgwyr ac aelodau staff eraill ar ôl hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma.  

Mae’r Dull sy’n Ystyriol o Drawma ynglŷn ag ymgorffori strategaethau yn holistaidd i gynorthwyo pawb i deimlo’n ddiogel, ni waeth beth yw eu profiad yn y byd ehangach. Mae ynglŷn â gwneud y coleg yn ofod diogel a chroesawgar, lle nad ydynt efallai yn cael hyn fel arall. Mae’r gwaith hwn yn helpu sicrhau bod cymuned y coleg cyfan yn lle croesawgar, diogel a saff i bawb. Mae arolygon y coleg yn dangos bod bron pob un o’r dysgwyr yn cytuno eu bod yn teimlo’n ddiogel yn y coleg ac yn cael cymorth da. Mae arolwg pellach hefyd yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o rieni / gofalwyr yn teimlo bod eu person ifanc yn cael cymorth da ac yn gwybod gyda phwy i siarad os bydd ganddo / ganddi bryderon.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r coleg wedi datblygu perthnasoedd ag ymarferwyr eraill sy’n ystyriol o drawma, ac yn rhan o rwydwaith rhagweithiol, yn seiliedig ar weithredu, sy’n cynnwys y GIG, gwasanaethau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a darparwyr addysg. Mae’r coleg hefyd yn ymgysylltu’n rheolaidd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, cymuned ymarfer a phanelau cyfeirio arbenigol fel rhan o weithgorau sector sy’n cynnwys colegau a lleoliadau addysg uwch eraill. Mae’n cyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol i sicrhau bod profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael eu lliniaru a’u gostwng, ac mae trawma yn ffocws allweddol i’r coleg. Mae’r coleg yn parhau i lobïo a chefnogi ar hyn ar draws y sector ehangach.  

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol