Mae’r lleoliad yn sicrhau bod pob un o’r plant yn ei ofal yn derbyn cymorth i ddiwallu eu hanghenion unigol. Mae gan y plant lais cryf lle mae staff yn gwrando’n astud ac yn deall beth sydd ei angen a’i eisiau ar bob plentyn. Mae staff yn ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn barhaus i gynorthwyo pob plentyn. Mae staff wedi elwa ar ystod eang a gwerthfawr o hyfforddiant yn gysylltiedig â datblygiad, lles ac ymddygiad plant. Erbyn hyn, mae’r lleoliad yn defnyddio ymagwedd gyffredinol at sicrhau bod pob un o’r staff yn fedrus a hyderus yn cynorthwyo plant. Caiff staff eu lleoli mewn ardaloedd o’r lleoliad, a phan fydd plentyn yn mynd i’r ardal, mae staff yn deall sut i gyfathrebu’n effeithiol i hyrwyddo datblygiad pob plentyn. Ar laniardiau staff, mae targedau personol ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol, sydd fel arfer yn cynnwys strategaethau o’u cynlluniau chwarae neu’u cynlluniau datblygu unigol. Mae’r broses hon yn sicrhau bod strategaethau i hyrwyddo datblygiad yn cael eu defnyddio’n barhaus trwy gydol y sesiwn. Mae pob un o’r staff yn ymwybodol o’r plant y mae angen eu herio, ac fe gaiff gweithgareddau neu ysgogiadau eu cynllunio i gefnogi datblygiad cyfannol pob plentyn yn briodol. Caiff perthnasoedd cryf eu meithrin rhwng plant a staff. Mae hyn yn ffactor arwyddocaol i sicrhau bod addysgwyr wedi’u harfogi i gynorthwyo pob plentyn yn effeithiol gan fod pob un o’r staff yn adnabod pob un o’r plant yn eithriadol o dda.
Mae ystafell bontio yn y lleoliad, a phrofwyd bod yr ystafell yn hanfodol wrth sicrhau bod lles pob un o’r plant yn cael ei ystyried. Nid yw’r ystafell bontio yn rhan o’r amgylchedd llif rhydd, ac felly ni chaiff ei defnyddio fel ystafell gofal dydd.
Defnyddir yr ystafell ar gyfer plant sy’n pontio. Gall rhieni ddod i mewn a chymryd rhan mewn sesiynau chwarae yn yr ystafell gyda gweithiwr allweddol eu plentyn. Mae’r ystafell yn hynod fuddiol ar gyfer plant sy’n cael trafferth yn yr amgylchedd llif rhydd, oherwydd gall hyn fod yn llethol i rai ohonynt. Mae plant yn dechrau eu cyfnod yn yr ystafell bontio ac wedyn yn cael eu cyflwyno’n raddol i’r amgylchedd llif rhydd. Mae staff yn y lleoliad wedi sylwi bod hyn yn cynorthwyo’r plentyn i gael cyfnod pontio pwyllog ac esmwyth i’r lleoliad, tra’n cadw’r lefelau sŵn i lawr yn yr amgylchedd llif rhydd hefyd fel nad yw plant yn mynd yn ofidus. Mae rhai plant yn defnyddio’r ystafell bontio yn ystod y sesiwn pan fyddant yn chwilio am ardal dawel a phwyllog. Mae arweinwyr yn y lleoliad yn rhagweithiol iawn o ran sicrhau bod yr amgylchedd yn diwallu anghenion pob un o’r plant. Er enghraifft, yn ddiweddar, maent wedi troi eu hystafell staff yn ystafell ymlacio ar gyfer plant ac yn ystafell les ar gyfer staff. Defnyddir yr ystafell pan fydd plant yn ddigalon neu’n gofidio ac i helpu’r plant â hunanreoli. Mae dogfennau “popeth amdanaf i” effeithiol ar waith ar gyfer pob plentyn, a gwahoddir rhieni ac amrywiaeth o asiantaethau i gyfrannu, fel y bo’n briodol.