Holl bwrpas y teithiau prynhawn Mercher yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchedd go iawn. Enghraifft o hyn yw ymweld â siop lyfrau Gymraeg mewn tref gyfagos a chefnogi’r dysgwyr i ofyn cwestiwn yn Gymraeg i’r perchennog. I nifer ar y lefelau is, dyma’r tro cyntaf iddynt ddefnyddio’r Gymraeg yn annibynnol. Mae enghreifftiau o eraill yn prynu llyfr Cymraeg am y tro cyntaf neu yn prynu paned drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn gam mawr iawn i sawl dysgwr ac yn rhywbeth y maent yn teimlo’n falch iawn o’i wneud.
Mae lleoliad y teithiau i gyd wedi eu dewis yn ofalus ac rydym yn cefnogi’r unigolion sydd yn gweithio yno i gefnogi’r dysgwyr mewn ffordd briodol. Golyga hyn ei bod hi’n annhebygol iawn i ddysgwr gael profiad anodd neu anghyfforddus. Maent yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddefnyddio’r Gymraeg. I nifer o ddysgwyr, mae hyn yn drobwynt yn eu taith iaith.
Rydym yn annog y dysgwyr i ymweld â Thafarn y Fic yn ystod eu hwythnos gyda ni. Mae’r dafarn hon sy’n lleol iawn i’r Nant yn bartner pwysig i ni ac yn cynnig amgylchedd naturiol cyfrwng Cymraeg. Dyma gyfle i’r dysgwyr ymlacio yng nghwmni siaradwyr Cymraeg, ymuno yn y cwis wythnosol neu wylio gêm o bêl droed. Yn ddiweddar iawn, rydym wedi gweld enghreifftiau lle mae’r dysgwyr wedi ymuno mewn ymarfer côr lleol ac un arall wedi cynnig cyfeilio am fod y gyfeilyddes yn sâl. Mae’r profiadau hyn yn bwysig iawn i’r dysgwyr wrth iddynt deimlo yn rhan o’r gymuned Gymraeg ehangach.
Ar gyfer y criwiau Cymraeg Gwaith, mae teithiau i leoliadau gwaith cyfrwng Cymraeg amlwg yn bwysig. Mae ymweld â lleoliadau megis Galeri Caernarfon a chwmni teledu Cwmni Da wedi bod yn gyfle i’r dysgwyr weld y Gymraeg yng nghyd-destun y gweithle, a’r cyd-destunau rheiny yn rhai cyfoes a chyffrous sy’n ffynnu. Mae creu’r ddelwedd gadarnhaol yma o ddefnydd iaith yn holl bwysig i annog defnydd iaith.
Yn gyffredinol, mae gennym lu o enghreifftiau o fannau i ymweld â nhw megis Gwinllan Pant Du, Cwrw Llŷn, Amgueddfa Forwrol Llŷn, Canolfan Porth y Swnt, Oriel Glyn y Weddw, Coffi Poblado i enwi rhai yn unig. Drwy’r casgliad gwych yma o bartneriaid rydym yn medru darparu amrywiaeth o brofiadau i ddysgwyr sy’n dewis dychwelyd i’r Nant dro ar ôl tro.
Yn yr un modd, mae’r adloniant a drefnir i’r dysgwyr yn ddylanwadol hefyd. Mae’r ddarpariaeth yn eang ac yn ymatebol i ofynion y grŵp, er enghraifft wrth drefnu Noson Lawen ar gyfer criw o weithwyr celfyddydol a oedd gyda ni ar gwrs Mynediad. Doedd neb o’r criw wedi perfformio yn y Gymraeg o’r blaen felly roedd tipyn o nerfau a pharatoi. Bu’r tiwtoriaid yn cefnogi’r dysgwyr i baratoi eitemau, e.e. darnau llefaru, geiriau caneuon, ddarlleniadau, ac ati. Gwnaeth un criw berfformio Neges Ewyllys Da'r Urdd. Ar ddiwedd y noson roedd pawb wrth eu boddau a’r teimlad o gyflawniad yn amlwg. Bu gweddill yr wythnos yn un llawn egni a brwdfrydedd tuag at y dysgu yn y dosbarth.
Mae unigolion amlwg o’r Sîn Roc Gymraeg yn ymuno gyda ni yn wythnosol i ddiddanu hefyd. Dyma gyfle i’r dysgwyr weld y diwylliant Cymraeg cyfoes ar waith a chael cip ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael iddynt drwy eu hiaith newydd. Mae cymeriadau fel Meinir Gwilym yn agor y drws at gerddoriaeth Gymraeg ac at deledu Cymraeg megis ‘Garddio a Mwy’ hefyd.
Mae’r gwaith paratoi sy’n digwydd cyn ymweliad/adloniant yn holl bwysig i fwynhad y dysgwyr. Os ydynt wedi eu harfogi yn y gywir, e.e. gyda geirfa briodol, cwestiynau addas, gwybodaeth gefndirol maent yn medru gwneud y mwyaf o’r cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg a hynny gyda chefnogaeth lawn eu cyd-ddysgwyr a’u tiwtor.