Arfer Effeithiol |

Datblygu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar draws yr ysgol

Share this page

Nifer y disgyblion
840
Ystod oedran
3-16

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro.   

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol


Gan fod yr ysgol wedi ei lleoli yn Ne Sir Benfro mae canran uchel iawn o’r disgyblion yn dechrau’r ysgol yn y meithrin a’r derbyn heb unrhyw gaffael ar yr iaith Gymraeg. Maent yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Mae’r ysgol am sicrhau bod disgyblion yn hyddysg ac yn hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg erbyn iddynt gyrraedd oedran gadael. Er mwyn llwyddo, mae ffocws barhaol ar greu ymagwedd ysgol gyfan tuag at ddatblygu cynlluniau hybu sgiliau iaith a’r defnydd o’r Gymraeg. Mae'r ethos a’r diwylliant yn anelu at greu siaradwyr Cymraeg sydd yn cael mynediad llawn i’r cwricwlwm ac sydd hefyd yn ymfalchïo yn eu cynefin.

 

 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd


    
Ar lefel strategol mae datblygu medrau iaith Gymraeg y disgyblion yn cael sylw teilwng ar draws holl flaenoriaethau’r cynllun gwella ysgol. Mae datblygiadau Cwricwlwm i Gymru, yr addysgeg, strwythurau a strategaethau hyrwyddo lles a’r arweinyddiaeth ar draws yr ysgol yn helpu’r dysgwyr i ddatblygu eu medrau iaith. Ceir ffocws di gyfaddawd ar lefel ysgol gyfan ar y weledigaeth o greu siaradwyr Cymraeg sydd yn ymfalchïo yn eu cynefin ac yn eu defnydd o’r iaith yn y dosbarth ac yn gymdeithasol. Mae’r staff cyfan yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o safbwynt gwireddu’r weledigaeth ac arwain y disgyblion ar eu taith iaith. Manteisir ar bob cyfle i ddathlu Cymreictod a chymhwysir system o wobrwyo ar draws yr ysgol sydd yn cydnabod ymdrechion disgyblion i ddatblygu eu medrau iaith yn y Gymraeg.

Defnyddir holiadur y ‘Siarter Iaith’ fel modd o gasglu tystiolaeth o safbwynt agweddu’r disgyblion tuag at y Gymraeg. Mae’r ymatebion i’r holiadur a’r canfyddiadau yn gosod sail ar gyfer datblygu cynllun gweithredu ar gyfer hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y dosbarth a thu hwnt. Sicrheir bod y disgyblion yn cael mewnbwn i’r cynllun yma. Rhennir y cynllun gyda’r rhanddeiliaid allweddol ac mae llywodraethwr cyswllt yn chwarae rhan flaenllaw yn y broses o fonitro a gwerthuso cynnydd yn erbyn y targedau.

Ar draws yr ysgol, ysgogir athrawon i ystyried pa brofiadau a gweithgareddau dysgu sydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o’u cynlluniau a’r modd mae’r rhain yn gosod ac yna’n adeiladu ar y sylfeini ieithyddol angenrheidiol. Mae’r athrawon a’r staff cymorth yn cael eu hannog i feddwl am ffyrdd creadigol, cyson a phwrpasol o fodelu iaith a throchi’r dysgwyr yn yr iaith. Ceir ffocws ar ddefnyddio ystod o dechnegau drilio iaith a chynllunio gweithgareddau dysgu sydd yn sbarduno chwilfrydedd, hyder a diddordeb y plant. Mae’r plant yn cael eu trochi mewn profiadau a gweithgareddau iaith hwylus ond strwythuredig. Defnyddir amryw o strategaethau er mwyn datblygu cystrawen a phatrymau iaith cywir. Mae’r athrawon yn cyd gynllunio’n benodol ar gyfer hybu gwybodaeth disgyblion am eirfa. Gwahoddir ystod eang o ymwelwyr i mewn i’r ysgol er mwyn cynnal trafodaethau a sesiynau rhannu gwybodaeth a holi ac ateb er mwyn pwysleisio bod y Gymraeg yn iaith fyw yn y gymuned. Trefnir profiadau cyfoethogi cyson er mwyn i’r disgyblion gael cyfle i glywed a defnyddio’r Gymraeg tu allan i ffiniau’r ysgol.

Wrth drochi disgyblion mewn iaith, rhoddir pwyslais penodol ar ddatblygu medrau gwrando a siarad. Datblygir gweithgareddau chwarae unigol ac mewn grŵp tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth sydd yn caniatáu i ddisgyblion gael eu trwytho yn yr iaith lafar. Yn y cynradd ceir ffocws ar greu amgylchedd ddysgu sydd yn symbylol a hudolus ac sydd yn gyfoethog o ran iaith. Y bwriad yw ysbrydoli ac ennyn diddordeb disgyblion yn yr iaith. Defnyddir storïau, caneuon a hwiangerddi mewn modd bwriadus a chyson. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer hybu sgiliau darllen, siarad a gwrando ac ysgrifennu yn cael ei fapio’n ofalus a chydlynol gyda’r nod o sicrhau bod y gweithgareddau dysgu yn annog disgyblion i ymhyfrydu a dangos balchder yn y ffaith eu bod yn cryfhau eu sgiliau iaith. Mae’r athrawon yn  y cynradd yn trefnu noson rhieni arbennig gyda’r bwriad o rannu syniadau ynglŷn â sut y gallent gefnogi datblygiad ieithyddol y plentyn yn y cartref. Mae athrawon cam cynnydd 3 yn rhannu pecyn cefnogi datblygiad iaith y plentyn yn y cartref gyda rhieni. Mae’r ‘Clwb Cwtsh’ sydd ar gael i rieni/gofalwyr ar safle’r ysgol yn ystod y dydd yn cynnig cyfle iddynt ddysgu Cymraeg. 

Yng Nghanolfan Iaith Ysgol Caer Elen mae disgyblion sy’n hwyr ddyfodiaid i addysg Gymraeg cynradd yn cael eu trochi yn yr iaith. Ers i’r ysgol agor yn 2018, mae dros gant o blant wedi trosglwyddo’n llwyddiannus o’r sector addysg cyfrwng Saesneg i addysg Gymraeg. Yn y Ganolfan Iaith mae’r disgyblion yn derbyn tri diwrnod o drochi yn y lle cyntaf ac yna mae’r ymyrraeth yn cael ei deilwra yn seiliedig ar gynnydd y gwna’r disgybl. Ceir ffocws ar siarad a gwrando er mwyn datblygu hyder disgyblion a defnyddir ystod o strategaethau drilio er mwyn sicrhau bod y disgyblion yn datblygu eu hyfedredd yn yr iaith gyflym. Testun balchder yw bod pob disgybl sydd wedi mynychu’r Ganolfan Iaith wedi llwyddo i gael mynediad llawn i’r cwricwlwm ac yn ffynnu yn y brif ffrwd.     

Mae ‘Pwyllgor Cymreictod’ yr ysgol  yn cynnwys disgyblion o Flwyddyn 3 hyd at Flwyddyn 11 ynghyd â staff ac mae’r aelodau yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen o weithgareddau er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol. Mae’r pwyllgor wedi cydweithio gyda Menter Iaith a’r Urdd yn Sir Benfro er mwyn gwahodd amryw o grwpiau cerddorol nodedig i berfformio yn yr ysgol. Mae’r pwyllgor hefyd wedi gwahodd artistiaid megis Mei Gwynedd a Mr.Phormiwla a beirdd fel Ceri Wyn Jones a Mererid Hopwood i gynnal gweithdai gyda’r disgyblion hŷn.  Yn dilyn cais gan y pwyllgor Cymreictod, bellach mae bwydlen eang o glybiau ar gael yn ystod adeg cinio ac ar ôl ysgol ar gyfer plant o bob oed.

 

 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae arweinwyr yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ar gyfer y staff er mwyn iddynt allu datblygu eu gallu i hyrwyddo sgiliau iaith a llythrennedd y disgyblion. Mae hyn wedi sicrhau eu bod yn ymarferwyr hyderus sydd yn deall y fethodoleg drochi a chaffael iaith. Mae’r cynllunio bwriadus ar draws yr ysgol yn sicrhau bod dulliau hyrwyddo iaith yn gyson ar draws yr ysgol. Mae’r amgylchedd ddysgu ysgogol mae’r athrawon wedi ei greu yn hyrwyddo sgiliau iaith.   

Mae’r ysgol yn dathlu Cymreictod ac yn hyrwyddo bob cyfle i ddisgyblion ddatblygu’n ddysgwyr dwyieithog hyderus. Mae agwedd disgyblion tuag eu haddysg a thuag at yr iaith Gymraeg yn dda iawn. Maent disgyblion sy’n trosglwyddo o addysg cyfrwng Saesneg yn hwyr, yn gwneud cynnydd cyflym a llwyddiannus yn eu medrau Cymraeg. Maent yn datblygu’n siaradwyr hyderus a rhugl. Yn fuan iawn, mae’r disgyblion hyn yn datblygu’n siaradwyr sydd yn gallu astudio’r holl gwricwlwm drwy’r Gymraeg. Mae agweddau bron bob disgybl yn gadarnhaol at y Gymraeg ac maent yn dangos balchder a mwynhad amlwg yn eu hiaith a’u diwylliant. Mae’r pwyllgor Cymreictod yn chwarae rhan bwysig wrth drefnu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu am hanes Cymru ac ymdrochi mewn diwylliant Cymreig. Mae’r disgwyliadau uchel a’r ethos ar gyfer hyrwyddo Cymreictod a dathlu treftadaeth Gymreig yn gryfder. Trefnir cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion drochi mewn diwylliant Cymreig ac ymfalchïo yn eu gwlad.   

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae athrawon Ysgol Caer Elen wedi cael eu gwahodd i rannu syniadau ac arfer dda gydag arweinwyr ac athrawon y clwstwr ac yn ystod sesiynau hyfforddiant sydd wedi eu trefnu gan consortia addysg rhanbarthol. Mae’r arweinwyr yma hefyd wedi cwblhau gwaith cefnogi ysgol i ysgol ar draws yr awdurdodau lleol.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol