Arfer Effeithiol |

Datblygu cymuned ysgol

Share this page

Students writing
Nifer y disgyblion
1037
Ystod oedran
11-19
Dyddiad arolygiad

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn ysgol amlddiwylliannol, amlieithog ac aml-ffydd yng nghanol Caerdydd. Mae tua 42% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. Cynrychiolir dros 50 o wahanol fathau o ethnigrwydd yng nghymuned yr ysgol, a siaredir 67 o ieithoedd gwahanol. Mae tua 27% o ddisgyblion wedi eu categoreiddio yn rhai sydd ‘islaw cymwys’ yn Saesneg. Mae cyfraddau symudedd gryn dipyn yn uwch nag ydynt bron ym mhob ysgol arall yng Nghymru, a daw tua 60% o ddisgyblion o’r tu allan i’r dalgylch.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Er bod arweinwyr Ysgol Uwchradd Cathays yn canolbwyntio’n glir ar gydnabod a dathlu amrywiaeth eu hysgol, maent hefyd yn sicrhau eu bod yn creu ymdeimlad o berthyn i un gymuned. Mae’r ymdeimlad hwn o ‘gynefin’ yn treiddio trwy bob agwedd ar y gwaith a wnânt i gynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd, y cynnig cwricwlwm a’r ddarpariaeth ar gyfer lles y disgyblion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Trwy ymarfer ymgynghori trylwyr gyda rhanddeiliaid, sefydlodd arweinwyr ddiwylliant eglur yr ysgol yn canolbwyntio ar y genhadaeth i ddarparu ‘Cyfleoedd i Bawb’. Nodon nhw dri gwerth craidd ar gyfer disgyblion, sef: Bod yn Barod, Parch a Balchder. Mae’r gwerthoedd hyn yn rhoi disgwyliadau clir i’r holl ddisgyblion fod yn aelodau cadarnhaol o gymuned yr ysgol. Defnyddir y genhadaeth a’r gwerthoedd yn eglur yn y polisi perthnasoedd cadarnhaol, ac mae staff yn cyfeirio atynt yn gyson ar draws yr ysgol. O ganlyniad, cânt eu deall a’u harddangos yn dda gan ddisgyblion. Mae’r gwerthoedd yn ffurfio rhan allweddol o weledigaeth yr ysgol ar gyfer y cwricwlwm newydd, a datblygu safle’r ysgol newydd. Mae disgyblion yn myfyrio arnynt bob chwe mis trwy’r arolwg lles disgyblion.

Roedd llais y disgybl yn elfen allweddol wrth ddatblygu cenhadaeth a gwerthoedd yr ysgol. Hefyd, mae wedi helpu creu a chynnal amgylchedd cynhwysol a difyr lle mae barn disgyblion yn cael effaith ar wella’r ysgol, er enghraifft ar ddatblygu’r ddarpariaeth lles. Mae prosesau sicrhau ansawdd yr ysgol wedi ymestyn hyn ymhellach. Mae’r prosesau hyn yn ymgorffori’r adborth i ddisgyblion wrth gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol, er enghraifft adborth ar ddysgu fel rhan o’r broses craffu ar waith. Yn ychwanegol, gofynnir i ddisgyblion sut beth ddylai diwylliant addysgu ac ystafell ddosbarth rhagorol fod, ac mae eu hymatebion wedi helpu datblygu arferion ystafell ddosbarth. Mae ymgynghori â disgyblion a rhanddeiliaid eraill wedi cyfrannu’n bwysig at yr ymdeimlad o berthyn a pherthynas lle mae pob aelod o’r gymuned yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u trin fel unigolion. Mae’r wybodaeth a gasglwyd hefyd wedi helpu dylanwadu ar y cynnig dysgu proffesiynol teilwredig ar gyfer pob aelod o staff.

Mae’r ysgol wedi datblygu cynnig cwricwlwm effeithiol a helaeth sy’n gwerthfawrogi ac yn diwallu anghenion pob un o’r disgyblion, o’r disgyblion mwyaf abl i’r rhai mwyaf bregus. Mae’r ysgol wedi canolbwyntio’n ddiwyd ar ddatblygu profiadau cwricwlwm ar draws pob maes profiad dysgu sy’n adlewyrchu ei chymuned tra’n sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn meddu ar y wybodaeth a’r medrau sydd eu hangen arnynt i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol, ac mewn bywyd ar ôl yr ysgol. Er enghraifft, mae ganddi ddarpariaeth deilwredig ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio neu dangyflawni yng Nghyfnod Allweddol 4, sy’n darparu cymorth a chyfleoedd ychwanegol, ond yn bwysig, yn eu cadw’n rhan o’r brif ffrwd. Er y gallai’r disgyblion a nodwyd ar gyfer y ddarpariaeth hon ddilyn cymwysterau gyda darparwyr allanol a chael amserlen fwy teilwredig, maent yn mynychu gwersi pynciau craidd a sesiynau tiwtorial dosbarth gyda’u cyfoedion o hyd. Yn ychwanegol, mae disgyblion sy’n newydd-ddyfodiaid i’r DU ac y mae eu Saesneg yn gyfyngedig, yn cael cynnig cwricwlwm hynod effeithiol sy’n cefnogi eu datblygiad o ran y Saesneg, yn eu harwain at deimlo eu bod yn rhan o ysgol yng Nghymru, ac yn eu hintegreiddio’n gyflym ac yn llawn mewn dosbarthiadau prif ffrwd pan fyddant yn barod. O ganlyniad i natur gynhwysol eu cynnig cwricwlwm, mae cynnydd a deilliannau pob grŵp o ddysgwyr yn gryf beth bynnag yw eu mannau cychwyn, a phryd bynnag y maent yn ymuno â chymuned yr ysgol.

Mae perthnasoedd effeithiol gydag athrawon yn hanfodol wrth ddatblygu dysgwyr gwydn a medrus. Mae hon yn elfen bwysig o feithrin cynefin yr ysgol. Mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu yn yr ystafell ddosbarth, sy’n cyfrannu at amgylchedd gweithio cadarnhaol ac ymdeimlad cryf o berthyn. Mae gan Ysgol Uwchradd Cathays brosesau a darpariaeth hynod effeithiol i gefnogi anghenion unigol pob un o’r disgyblion, gan gynnwys y rhai ag anghenion ychwanegol a’r rhai sydd angen cymorth ar gyfer heriau emosiynol. Er enghraifft, defnyddir yr arolygon lles i nodi unigolion a grwpiau sydd angen cymorth emosiynol gan ddarpariaeth “Tŷ Diogel” yr ysgol. Ceir cymorth i wella cynnydd academaidd a/neu gymdeithasol myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol tra byddant yn parhau i fynychu cymaint o wersi prif ffrwd â’r hyn sy’n briodol. Mae’r cymorth hwn yn bwrpasol ac yn cyfrannu at deimladau’r disgyblion o gael eu parchu a’u gwerthfawrogi gan yr holl oedolion yn yr ysgol, ac ymdeimlad eu bod yn perthyn i gymuned y mae eu cynnydd academaidd a’u lles yn bwysig iddi.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn cydnabod gwerth y ddarpariaeth a’i heffaith ar eu cynnydd a’u lles. Mae llawer o ddisgyblion yn nodi bod ymdeimlad cryf o falchder mewn perthyn i Ysgol Uwchradd Cathays.

Roedd deilliannau cyn y pandemig yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 yn gryf ac yn gwella bron ym mhob dangosydd, ac yn enwedig mewn mesurau gwerth ychwanegol.

Roedd presenoldeb disgyblion yn gryf am dair blynedd cyn y pandemig, ac mae’n gwella’n dda ers dychwelyd i fod yn yr ysgol amser llawn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi bod yn rhan o Grŵp Gwella Ysgolion y consortiwm rhanbarthol, ac wedi rhannu ei harferion gydag ysgolion eraill trwy’r fforwm hwn.

Hefyd, mae wedi meithrin perthnasoedd gydag ysgolion eraill y mae wedi rhannu ei systemau a’i phrosesau â nhw.

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Datblygu pobl ac arferion: y tu hwnt i ddysgu proffesiynol

Mae Ysgol Uwchradd Cathays yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad gyrfa pob un o’u staff. Mae arweinwyr yn sicrhau eu bod yn datblygu a hyrwyddo diwylliant a gwerthoedd yr ysgol.  ...Read more
Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Adroddiad interim ar y sector uwchradd

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o alwadau ffôn ymgysylltu a galwadau ffôn bugeiliol a wnaed i ysgolion uwchradd yn ystod Ionawr a Chwefror 2021. ...Read more
Adroddiad thematig |

Adolygiad o addysg perthnasoedd iach

pdf, 1.18 MB Added 23/06/2017

Mae’r adroddiad yn arfarnu ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer addysg perthnasoedd iach mewn ysgolion yng Nghymru. ...Read more
Adroddiad thematig |

Cymedroli asesiadau athrawon yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3: adolygiad o gywirdeb a chysondeb

pdf, 1.1 MB Added 22/09/2016

Mae canfyddiadau’r arolwg wedi eu seilio ar ymweliadau ag wyth cyfarfod cymedroli clwstwr, dau ym mhob un o’r consortia rhanbarthol, wedi eu dilyn gan ymweliadau â dwy ysgol ym mhob clwstwr. ...Read more
Adroddiad thematig |

Presenoldeb mewn ysgolion uwchradd - Medi 2014

pdf, 938.24 KB Added 01/09/2014

Hwn yw’r cyntaf o ddau adroddiad i ymateb i gais am gyngor ar bresenoldeb gan Lywodraeth Cymru yn y llythyr cylch gwaith blynyddol i Estyn ar gyfer 2013-2014 gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau. ...Read more
Adroddiad thematig |

Arfer effeithiol wrth fynd i'r afael thlodi ac anfantais mewn ysgolion - Tachwedd 2012

pdf, 2.18 MB Added 01/11/2012

Mae’r adroddiad hwn yn ganllaw arfer dda i helpu ysgolion fynd i’r afael ag effaith tlodi ac anfantais.Mae’r adroddiad yn amlinellu cyfres o argymhellion ac yn tynnu sylw at astudiaethau achos arfe ...Read more