Trwy weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a warden yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Leol, mae’r ardd wedi datblygu’n adnodd pwysig i’r ysgol. Mae trefn yr ardd yn seiliedig ar ddyluniad gan grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 o’r flwyddyn academaidd gynt, a gymerodd ran mewn cystadleuaeth i greu dyluniad yr ardd gymunedol. Yna, dewiswyd y dyluniad buddugol gan brif ddisgyblion yr ysgol ac mae’r ardd bellach yn ymsefydlu ar sail y dyluniad hwnnw. Mae’r ardd yn cynnwys dros erw o dir ac mae wedi’i threfnu mewn ardaloedd penodol: ardal dyfu, ardal gardd synhwyraidd, ardal dôl, ardal bywyd gwyllt a micro fforest, lle mae’r disgyblion wedi plannu dros 500 o goed. Mae’r holl waith a wnaed hyd yn hyn wedi’i gwblhau gan y disgyblion eu hunain ac mae’n gwbl hygyrch i bawb, gan gynnwys ardal â gwelyau uchel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae’r cwricwlwm wedi’i fapio’n ofalus i sicrhau bod disgyblion yn cynyddu’u gwybodaeth ac yn datblygu medrau perthnasol tra byddant yn cymryd rhan yn eu gwers arddio wythnosol. Mae’r gwersi’n cyflwyno disgyblion i arddio ac yn caniatáu cyfle i ddatblygu medrau ymarferol. Mae disgyblion sy’n meddu eisoes ar rywfaint o wybodaeth a phrofiad o arddio o’r ysgol gynradd neu gartref yn cael rolau blaenllaw yn y gwaith i’w gwblhau. Mae hyn wedi bod yn arbennig o effeithiol i’r disgyblion hynny sy’n ei chael hi’n anodd yn yr ystafell ddosbarth ond sy’n cael cyfle i ddisgleirio yn y gwersi awyr agored. Mae’r gwersi’n dechrau gyda chyflwyniad i’r offer gwahanol a ddefnyddir i arddio a thechnegau sylfaenol ar gyfer plannu a gofalu am blanhigion. Yna, mae’r myfyrwyr yn symud ymlaen i blannu, gofalu am eu cnydau eu hunain, a’u cynaeafu. Cânt eu hannog i gydweithio fel tîm ac i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau.
Mae’r gwersi garddio’n ffordd fuddiol i’r disgyblion ddysgu am hanfodion garddio a garddwriaeth. Trwy weithgareddau a hyfforddiant ymarferol, mae’r disgyblion yn dysgu amrywiaeth o fedrau, o adnabod a gofalu am blanhigion i brofi’r pridd a chompostio. Mewn gwers arddio nodweddiadol, mae disgyblion yn dechrau trwy ddysgu am y gwahanol blanhigion a’u hanghenion, fel gofynion am heulwen a phridd. Ar ôl dysgu am yr hanfodion, mae disgyblion wedyn yn symud ymlaen i bynciau mwy datblygedig, fel tocio, plannu a chynaeafu. Yn ogystal â dysgu’r agweddau technegol ar arddio, mae disgyblion hefyd yn ennill gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae planhigion yn rhyngweithio â’u hamgylchedd. Maent yn dysgu sut i adnabod pryfed buddiol, ynghyd â sut i ddelio â phlâu. Hefyd, mae disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd cadwraeth dŵr a sut i greu gerddi cynaliadwy.
Rhan o’r cytundeb ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw bod yr ardd yn anelu at fod yn garbon niwtral, sy’n golygu bod y disgyblion wedi bod yn dysgu am effaith y newid yn yr hinsawdd a sut i fyw’n gynaliadwy a ‘lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu’, lle y bo’n bosibl. Mae’r esgidiau glaw y mae’r disgyblion yn eu gwisgo yn ystod pob gwers yn rhai ail-law ac fe’u rhoddwyd gan rieni/gwarcheidwaid a phobl o’r gymuned leol. Yn unol â’r nod o fod yn garbon niwtral, crëwyd llwybr yr ardd gan ddefnyddio graean yn lle tarmac ac mae’r pridd a symudwyd wedi’i ailddefnyddio at ddiben plannu. Mae disgyblion wedi creu gwelyau plannu o deiars ac mae blychau adar a blychau bwydo adar a wnaed gartref wedi’u gosod o gwmpas yr ardd, y mae’r disgyblion yn gofalu amdanynt.
Mae gwersi garddio’n digwydd boed law neu hindda gan fod cynlluniau dysgu ar waith ar gyfer diwrnodau ‘tywydd gwlyb’ hefyd. Mae disgyblion yn cael cyfle i ddatblygu’u medrau trawsgwricwlaidd yn ystod gwersi dan do sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, pan fyddant yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys ymchwil i gnydau, datblygu geirfa, llythrennedd ariannol a phlannu dan do. Mae disgyblion wedi plannu blodau i fynd â nhw gartref i’w teulu a rhoddodd yr ysgol goeden i bob teulu Blwyddyn 7 ei phlannu yn eu gardd eu hunain, gan greu cysylltiadau teuluol cadarn gan fod y disgyblion yn awyddus i rannu’r hyn y buont yn ei wneud yn yr ysgol.
Gan fod yr ardd yn adnodd sy’n esblygu drwy’r amser yn yr ysgol, mae cynllunio at y dyfodol yn cynnwys integreiddio a gwreiddio garddio ymhellach yng nghwricwlwm yr ysgol. Mae arweinwyr yn awyddus i grwpiau blwyddyn eraill gael y cyfleoedd a gafodd disgyblion Blwyddyn 7. Bydd ardal yr ardd synhwyraidd yn cefnogi lles ac iechyd meddwl disgyblion, ynghyd â chynnig cyfleoedd cwricwlaidd pwrpasol i’r disgyblion hynny a fyddai’n elwa’n enfawr o dreulio amser yn yr awyr agored, ym myd natur. Er mwyn hwyluso hyn, mae’r cynlluniau’n cynnwys creu mwy o welyau uchel a thyfu amrywiaeth ehangach o blanhigion a llysiau, ynghyd â chyflwyno rhaglenni addysgol fel cylchdroi cnydau, tyfu mewn twneli polythen a chompostio. Bydd yr ardd yn lle i ddisgyblion ddysgu am dwf planhigion a phwysigrwydd amaeth gynaliadwy. Bydd yr ardd yn cael ei defnyddio hefyd i addysgu’r disgyblion am faeth a gwyddor bwyd.