Arfer Effeithiol |

Creu platfform digidol ar gyfer y sector Cymraeg i Oedolion

Share this page

Nifer y disgyblion
13260
Ystod oedran
16+
Dyddiad arolygiad

Ar 1 Awst 2016, trosglwyddwyd cyfrifoldeb llawn am y sector Cymraeg i Oedolion i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (y Ganolfan). Mae nodau strategol cyfredol y Ganolfan yn cynnwys:

  • Datblygu rhaglen arloesol o gyrsiau deniadol ac addas ar gyfer dysgwyr, gan wneud defnydd llawn o dechnoleg 
  • Datblygu cynlluniau arloesol i sicrhau cyfleoedd a chyd-destunau ble gall dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn hyderus
  • Codi proffil y sector a chynyddu’r niferoedd sy’n dechrau cyrsiau ac yn parhau i ddysgu Cymraeg

Ailstrwythurodd y Ganolfan ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ledled Cymru gan sefydlu 11 darparwr Dysgu Cymraeg o 2016 ymlaen. Mae’n cyllido’r darparwyr Dysgu Cymraeg hyn i gynnig arlwy Cymraeg i Oedolion o fewn eu cymunedau. 

Mewn cyfnod byr, mae’r Ganolfan wedi llwyddo i gysoni darpariaeth Dysgu Cymraeg ar draws Cymru. Mae wedi datblygu platfform digidol i fod yn gyfrwng hwylus a hygyrch i ddysgwyr ei ddefnyddio wrth chwilio am gwrs, ymrestru a thalu. Defnyddir y platfform yn greadigol drwy ddarparu cyrsiau a llu o adnoddau digidol, yn ogystal â chynnig llwyfan i ymarferwyr y sector rannu arferion da a chynnal datblygiad proffesiynol parhaus gwerthfawr.

Nodwch sut mae’r maes arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector a nodwyd yn ystod arolygiad, yn ymwneud â chwestiwn allweddol, dangosydd ansawdd a/neu agwedd benodol:

Ar ddechrau cyfnod sefydlu’r Ganolfan gwnaethpwyd penderfyniad bwriadus i fuddsoddi mewn datblygu platfform digidol unigryw i’r sector. Mae’n blatfform aml-haenog sy’n cynnwys elfennau amrywiol sy’n darparu profiad ‘siop un stop’ i ddysgwyr. Mae’r platfform yn cynnwys 

  • Chwilotwr Cyrsiau: sy'n caniatáu dysgwyr i chwilio, gofrestru a thalu am gwrs
  • Llyfrgell adnoddau rhithiol: sy'n cynnwys dros 1,500 o adnoddau digidol i gefnogi dysgu'r dysgwyr
  • System Rheoli Data:, sy'n caniatáu i’r Ganolfan gasglu’r data mae’n gallu ei ryddhau fel Cyhoeddwr Ystadegau Swyddogol
  • System Rheoli Dysgu: sy'n cynnwys ardal ‘fy nysgu' unigryw i bob dysgwr’ ble mae modd tracio cynnydd, adnabod adnoddau i gynorthwyo'r dysgu a chydnabod llwyddiannau
  • Adeiladwr Cwrs: sy'n caniatáu i’r Ganolfan ychwanegu at y dulliau dysgu a gynigir i ddysgwyr, gan gynnwys dulliau hunan-astudio a dysgu rhithiol.

Mae’r platfform hefyd yn llwyfan pwysig i rannu gwybodaeth a newyddion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector:

Yn 2018 cyhoeddwyd Fframwaith Digidol ar gyfer y sector gan y Ganolfan, sy’n amlinellu’n fanwl y ddarpariaeth y bwriadwyd ei datblygu er mwyn datblygu a hyrwyddo’r dysgu a’r addysgu digidol. Ar sail y Fframwaith Digidol, a thrwy ymgynghoriad gyda’r sector, mae cynllun blynyddol yn cael ei gytuno i barhau i ddatblygu’r platfform. Mae’r cynlluniau ar gyfer 2021-22 yn cynnwys:

  • Gwasanaeth ‘dal i fyny’ i ddysgwr sy’n colli gwers, fydd yn cael ei dracio a’i gofnodi
  • Adran trydydd parti, fydd yn ganolbwynt i rai o’r partneriaethau sectorol ac yn caniatáu cyd-destunoli a theilwra adnoddau a chyrsiau i sectorau penodol.
  • Adran Academi fydd yn cynnwys ardal ‘fy nysgu’ i diwtoriaid, ble mae modd cynnig ystod o gyfleoedd datblygiad proffesiynol fydd yn cael eu tracio a’u cofnodi yn unigryw i bob defnyddiwr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr:

Mae’r platfform digidol wedi dod yn rhan ganolog o’r gwasanaeth Dysgu Cymraeg, gyda darpar-ddysgwyr, dysgwyr, tiwtoriaid, staff cefnogi a staff y Ganolfan yn defnyddio elfennau ohono yn rheolaidd.

  • Mae dros 85,000 o unigolion â chyfrif ar y platfform digidol.
  • Mae dros 500,000 o ymwelwyr i’r platfform digidol mewn cyfnod o 12 mis.
  • Mae dros 2,000 o gyrsiau dysgu Cymraeg yn cael eu hysbysebu ar y platfform digidol. 
  • Mae pob un o ddysgwyr y Ganolfan (17,000+) yn cofrestru ar 30,000+ cwrs drwy’r Platfform digidol. Mae gan pob un gyfrif unigryw a mynediad at adran fy nysgu, sy’n darparu gwybodaeth bwysig am eu dysgu
  • Mae dros 1,000 o adnoddau digidol ar gael i gynorthwyo dysgwyr gyda’u dysgu.
  • Mae 300awr o gynnwys hunan-astudio ar y platfform, a’r oll yn cofnodi a thracio cynnydd y dysgwyr. 
  • Mae dros 130 o adnoddau digidol amrywiol ar gael i diwtoriaid i gynorthwyo gyda’r addysgu.
  • Mae dros 140 o adroddiadau data amrywiol o fewn system rheoli data y Platfform digidol. 

Bu’r platfform digidol yn ganolog i hwyluso symud y rhan fwyaf o ddarpariaeth y sector ar lein o fewn mater o wythnosau ar gychwyn y pandemig gyda chydweithrediad brwd a phroffesiynol y darparwyr Dysgu Cymraeg unigol. O ganlyniad, ac er gwaetha’r pandemig, mae’r Ganolfan wedi llwyddo i gynyddu nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg. 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Arfer Effeithiol |

Troi dysgwyr yn ddefnyddwyr y Gymraeg

Ffurfiodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol bartneriaethau â chyrff amrywiol (cyhoeddus, gwirfoddol a diwylliannol) i greu cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’w gwersi.  ...Read more