Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o UCDau

Diweddarwyd y dudalen hon ar 20/08/2021

Rydym yn rhannu cipolygon ar sut mae ysgolion ac UCDau yn cefnogi eu disgyblion a’u cymunedau wrth ymateb i’r amgylchiadau anodd o ganlyniad i COVID-19.

Ysgrifennwyd y dulliau hyn ar ôl galwad ffôn ymgysylltu ac mae’n adlewyrchu’r sefyllfa ar y pryd.

Efallai y gall ysgolion ac UCDau addasu’r rhain ar gyfer eu cyd-destun eu hunain.

Mae’r UCDau hyn wedi rhannu eu cipolygon a gafwyd tra’n cefnogi eu disgyblion i barhau â dysgu. Un enghraifft yw trwy greu cwricwlwm teilwredig yn canolbwyntio ar ddiddordebau disgyblion ar draws grwpiau oedran, o ffasiwn a choginio i ‘dai chwilod’ ar gyfer disgyblion iau.

Cynnal swigod dosbarth

Mewn un UCD, mae disgyblion yn aros yn eu grwpiau dosbarth arferol (cyfeirir atynt fel swigod) gan fod yr adeilad yn caniatáu ar gyfer y dull hwn. Mae drysau mynediad trwy ffob ar bob ‘adain’ o’r UCD, a oedd yn arfer normal cyn y pandemig, ond sydd bellach yn lleihau risg ‘torri’r swigen’. Yr unig wahaniaeth i ddisgyblion yw bod eu pwyntiau mynediad a gadael wedi newid i ddileu’r posibilrwydd o groesi. Ac eithrio staff sydd ar ddyletswydd, mae staff eraill yn aros gyda’u swigen dosbarth arferol.

Addasu’r amserlen

Caiff disgyblion mewn un UCD eu rhannu yn ôl cyfnod allweddol, ac maent yn cynnal eu gweithgor bach trwy gydol y dydd. Addaswyd yr amserlen ar gyfer dychwelyd disgyblion i’r ysgol yn raddol, gyda boreau yn canolbwyntio ar les ac adolygu gwaith ar-lein. Mae sesiynau’r prynhawn yn canolbwyntio ar waith galwedigaethol, sy’n unigol ar gyfer pob disgybl.

Cymorth digidol ar gyfer rhieni a gofalwyr

Mae staff mewn un UCD pob oed wedi parhau i ddarparu arweiniad a hyfforddiant ar gyfer rhieni a gofalwyr ar ddefnyddio offer digidol trwy gydol y pandemig i gefnogi dysgu o bell eu plentyn. Er enghraifft, maent yn hwyluso clinigau TG ar gyfer rhieni. Mae’r UCD wedi cydweithio â Gwasanaethau Tîm o Amgylch y Teulu yr awdurdod lleol hefyd i brydlesu iPads ar gyfer rhieni a gofalwyr i’w galluogi i gefnogi dysgu eu plant.

Cyfathrebu â staff

Ar ddechrau’r cyfnod clo, sefydlodd un UCD grŵp WhatsApp ar gyfer yr holl staff. Mae’r grŵp hwn yn golygu y gellir mewngofnodi bob dydd erbyn 8:45 a.m. er mwyn gwneud yn siŵr bod pob un o’r staff yn iach. Mae’r dirprwy bennaeth yn goruchwylio / delio â hyn, os bydd angen.

Polisi ymddygiad

Mae’r athro â gofal ag un UCD yn gweithio gyda’r awdurdod lleol i lunio atodiad i’r polisi ymgysylltu (ymddygiad) i hyrwyddo ymagwedd gyson at ymddygiadau yn gysylltiedig â COVID, disgwyliadau a chanlyniadau yn sgil eu torri.

Cysylltu trwy Google Classroom

Mewn un UCD, gall yr holl ddisgyblion fanteisio ar Google Classroom. Mae staff yn darparu gweithgareddau dysgu cynlluniedig ar gyfer disgyblion, fel technegau ymlacio, storïau cymdeithasol, llythrennedd a rhifedd, yn ogystal â gwasanaethau dosbarth, a’r cyfle i ddilyn rhaglen fasnachol i hyrwyddo eu lles cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Cynhelir gwasanaeth ‘cyfarch’ bob wythnos, sy’n cael ei dderbyn yn gadarnhaol. Darperir amserlenni, amcanion gwersi a meini prawf llwyddiant gweledol i geisio cynnal arfer sy’n debyg i’r fformat gwersi arferol. Mae disgyblion yn ymateb yn dda i hyn, a chafwyd ymglymiad cynyddol gan rieni.

Canolbwyntio ar ddiddordebau disgyblion

Ar ddechrau’r cyfnod clo, defnyddiodd un UCD ddull ‘prosiect a phapur’ ar gyfer dysgu disgyblion, a oedd yn cynnwys tîm o staff yn cyflwyno gwaith i ddisgyblion bob wythnos. Disodlwyd y system hon gan gwricwlwm teilwredig yn canolbwyntio ar ddiddordebau disgyblion, er enghraifft ffasiwn, trydan, a heriau coginio ‘ready steady cook’, ac adnoddau ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 4 sy’n astudio tecstilau, trydan a bwyd a maeth, sy’n llwyddo i ennyn diddordeb llawer o ddisgyblion hŷn. Mae cyflwyno “tai chwilod” i ddisgyblion cyfnod allweddol 2 wedi hwyluso ymgysylltu â byd natur, ac archwilio byd natur yn ymarferol.

Darparu cwnsela o bell

Mewn un UCD, mae’r nifer fach o ddisgyblion sy’n cael cwnsela yn seiliedig ar UCD wedi parhau â’u sesiynau unigol, naill ai drwy’r e-bost, trwy negeseuon testun neu dros y ffôn. Mae pob un o’r cwnselwyr bellach wedi cwblhau modiwl i allu cynnig cwnsela dros y ffôn.

Cynnal cysylltiad

Mae un UCD wedi gwneud defnydd effeithiol o ‘lythyrau pryder’ ar gyfer disgyblion sy’n anodd eu cyrraedd a’u rhieni. Yn ogystal â’r ffordd arferol o gysylltu â disgyblion a’u rhieni, gwnaeth yr UCD sawl cynnig gwahanol i gysylltu â’r teuluoedd hyn. Pan nad oedd hyn yn llwyddiannus, ysgrifennodd yr athro â gofal ‘lythyrau pryder’ at y rhieni i esbonio eu pryderon ynglŷn â pheidio â gallu cysylltu â nhw neu’u plentyn. Dywedodd y llythyr wrth y rhieni, os nad oeddent yn cysylltu â’r UCD o fewn cyfnod penodol, byddai’r UCD yn cysylltu â’r asiantaeth sy’n berthnasol i anghenion eu plentyn, fel gofal cymdeithasol neu ofal iechyd. Byddai’r UCD yn cysylltu â’r asiantaeth i roi gwybod a mynegi pryder am y diffyg cysylltiad neu ymgysylltiad gan deulu penodol, a gofyn am weithgarwch dilynol. Mae’r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus o ran helpu sicrhau bod yr UCD wedi parhau mewn cysylltiad â’r holl ddisgyblion.