Cymorth i Ddal ati i Ddysgu |

Cefnogi lles a dysgu yn ystod COVID-19 – dulliau o ddarparwyr dysgu yn y gwaith

Diweddarwyd y dudalen hon ar 20/08/2021

Rydym ni’n rhannu cipolygon bras i’r modd y mae darparwyr hyfforddiant dysgu yn y gwaith yn cefnogi eu dysgwyr a’u cymuned wrth ymateb i’r amgylchiadau anodd o ganlyniad i COVID-19.

Mae darparwyr dysgu yn y gwaith yn cyflwyno prentisiaethau mewn partneriaeth ag ystod eang o gyflogwyr, yn ogystal â rhaglenni hyfforddeiaeth i ddatblygu medrau a dealltwriaeth yn gysylltiedig â gwaith pobl ifanc.

Ysgrifennwyd y dulliau hyn yn dilyn galwad ymgysylltu, ac maent yn adlewyrchu’r sefyllfa ar yr adeg honno.

Efallai y gall darparwyr dysgu yn y gwaith addasu’r rhain yn unol â’u cyd-destun eu hunain.

Mae’r cipolygon hyn yn dangos sut gwnaeth darparwyr dysgu yn y gwaith gefnogi eu dysgwyr yn ystod y pandemig. Darganfyddwch sut gwnaethon nhw flaenoriaethu lles ac iechyd meddwl, defnyddio portffolios electronig a chyfarfod yn rhithwir ar draws consortia.

Cefnogi lles ac iechyd meddwl

Mae cymorth ar gyfer lles ac iechyd meddwl dysgwyr yn barhaus, yn enwedig ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n dilyn rhaglenni hyfforddeiaeth. Mae un darparwr wedi gweld ymchwydd mewn atgyfeiriadau diogelu a cheisiadau am sesiynau cwnsela. Yn aml, mae’r rhain o ganlyniad i heriau teuluol a dylanwadau allanol eraill.  Mae staff y darparwr yn cysylltu’n rheolaidd â’u dysgwyr ac yn parhau i gynnig gwasanaethau cwnsela, pan fydd angen. Mae gan lawer o ddysgwyr fynediad cyfyngedig, os o gwbl, i offer TG neu’r rhyngrwyd. Yn yr achosion hyn, mae darparwyr wedi rhoi benthyg gliniaduron neu gyfrifiaduron llechen i ddysgwyr, ac maent yn cynnal sesiynau dysgu un i un dros y ffôn.

Defnyddio portffolios electronig

Mae darparwyr sydd wedi bod yn defnyddio portffolios electronig am gyfnod sylweddol wedi gallu defnyddio’r adnoddau i gynnal ymgysylltu a gweithgareddau gyda’u dysgwyr. Mae’r darparwyr a’r dysgwyr hyn wedi elwa ar fod yn gymwys ac yn hyderus yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael, ac felly ni wnaethant golli amser yn ymgymryd â hyfforddiant cyn eu defnyddio. O ganlyniad, mae dysgwyr wedi gallu cwblhau gwaith lle bo’n briodol, wedi ei farcio a’i ddychwelyd, ac yn cwblhau gweithgareddau atodol a fydd yn helpu datblygu eu gwybodaeth a’u medrau.

Egwyl goffi ddyddiol

Mae un darparwr yn trefnu cyfarfodydd ‘egwyl goffi’ anffurfiol â staff dros fideo sy’n galluogi staff ar bob lefel i gael ‘sgyrsiau hamddenol’. Mae rheolwyr a staff wedi croesawu a gwerthfawrogi’r dull sy’n ceisio rhoi math o normalrwydd i’r diwrnod gwaith. Mae’r rhyngweithio hwn yn rhoi hyblygrwydd i staff drafod materion yn gysylltiedig â gwaith a materion nad ydynt yn gysylltiedig â gwaith mewn amgylchedd cefnogol.

Arweiniad ar gyfer staff

Mae un darparwr wedi datblygu protocolau ac arweiniad ar gyfer dychwelyd i gyflwyno wyneb yn wyneb ar y safle. Cynlluniwyd y llyfryn hwn i hysbysu a chynorthwyo pob un o’r staff, gan gynnwys staff is-gontractwyr sy’n gysylltiedig â recriwtio a chyflwyno i’r holl ddysgwyr prentisiaeth a hyfforddeiaeth. Mae’n amlinellu blaenoriaethau’r darparwr ar gyfer model cyflwyno cwbl ddigidol, ac addysgu, hyfforddiant a dysgu o ansawdd uchel i gefnogi dull dysgu cyfunol. Hefyd, mae’r arweiniad yn amlinellu gwybodaeth glir i sicrhau bod gan staff gynlluniau priodol ar waith i sicrhau cyfleoedd parhaus o ran dysgu a dilyniant.

Adolygu arfer ar draws partneriaid

Mae un darparwr yn cynnal cysylltiad rheolaidd â’i is-gontractwyr trwy adolygu’r cymorth y maent yn ei roi i ddysgwyr. Maent yn defnyddio’r ymgysylltu hwn hefyd i nodi ble gallai arfer fod yn cael effaith hynod gadarnhaol ar eu dysgwyr. Mae’r darparwr wedi nodi gwahaniaethau yn y ffordd y mae is-gontractwyr yn cyflwyno ac yn cynnal asesiadau o bell, lle bo modd. Maent yn bwriadu sefydlu grŵp datblygu sy’n edrych ar rannu’r defnydd o ddeunyddiau addysgu a dysgu ar-lein ar draws maes dysgu.

Yn ôl i’r arfer

Mae un darparwr wedi datblygu cyfres o gyfarfodydd rhithwir “Yn ôl i’r arfer” (“Back to Business”) ar gyfer ei gyflogwyr. Mae pob cyfarfod wedi gwahodd siaradwyr gwadd, fel y Cyngor Gwallt a Barbwyr, i roi diweddariadau am y diwydiant i gyflogwyr, i siarad am fesurau diogelwch yn y salon, ac esbonio sut i lanhau salonau yn drylwyr cyn ailagor.  Mae llawer o gyflogwyr o fewn y diwydiant wedi mynychu’r cyfarfodydd hyn.

Cefnogi dysgu proffesiynol

Mewn un darparwr, cyflwynwyd rhaglen gynhwysfawr o weithgareddau dysgu proffesiynol i bob un o’r staff, gyda’r ffocws ar hyfforddiant dysgu cyfunol. Mae’r darparwr wedi cefnogi’r hyfforddiant hwn trwy ddefnyddio set o egwyddorion arweiniol ar gyfer cynllunio a chyflwyno addysgu, hyfforddi, ac asesu. Mae pob un o’r staff un cael eu hyfforddi, ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio technoleg ddigidol a’r platfform ar-lein. Mae adnoddau dysgu cyfunol yn cael eu datblygu, a threfnwyd eu bod ar gael ar fewnrwyd y darparwr.

Cyfarfodydd rhithwir y consortiwm

Mae un darparwr yn parhau i reoli a chefnogi ei bartneriaid consortiwm trwy ystod o gyfarfodydd rhithwir. Cynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd, ac maent yn cwmpasu ystod o destunau, gan gynnwys materion lles, iechyd a diogelwch, cynlluniau asesu risg ar gyfer ailagor a gofynion hyfforddi staff ar gyfer byd digidol. Mae aelodau’r consortiwm yn rhannu eu harfer orau, gwahanol ddulliau a phryderon ar gyfer y dyfodol. Mae’r darparwr wedi datblygu dull cyffredin o gyflwyno dysgu proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff, gan gynnwys hyfforddiant technegol ac addysgegol gorfodol.