Adroddiad thematig |

Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol

Share this page

Adroddiad thematig | 23/03/2021

pdf, 1.12 MB Added 23/03/2021

Datblygiadau mewn arferion dysgu o bell a dysgu cyfunol - Gwaith darparwyr addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19

Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:

  • A1 Sicrhau ansawdd darpariaeth dysgu o bell a dysgu cyfunol i sicrhau bod yr holl gyrsiau neu raglenni yn bodloni safon ansawdd ofynnol er mwyn lleihau’r amrywioldeb mewn darpariaeth
  • A2 Sicrhau bod arweinwyr ac athrawon yn gallu elwa ar ddysgu proffesiynol sy’n cefnogi datblygiad o ran sut i gynllunio addysgu a dysgu effeithiol o bell a chyfunol, yn ogystal â datblygu medrau addysgegol ac asesu athrawon ymhellach.
  • A3 Rhannu arfer sy’n dod i’r amlwg ac arfer arloesol o ran dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru, a thu hwnt

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A4 Barhau i gefnogi’r sector ag arweiniad i alluogi darparwyr i ddatblygu dulliau dysgu o bell a dysgu cyfunol o ansawdd da, yn enwedig o ran cefnogi’r dychwelyd i addysgu a hyfforddiant uniongyrchol, ac asesu medrau galwedigaethol a thechnegol ymarferol
  • A5 Comisiynu dysgu proffesiynol ar gyfer y sector ôl-16, sy’n rhad ac am ddim i ddarparwyr ac yn eu helpu i ddatblygu arbenigedd penodol mewn dylunio, addysgu, hyfforddiant a dysgu o ran dysgu cyfunol a dysgu o bell ar gyfer eu sector i leihau amrywioldeb yn ansawdd y ddarpariaeth
  • A6 Galluogi partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned a dysgwyr i gael mynediad at blatfform digidol cenedlaethol canolog i ddarparu dysgu o bell a dysgu cyfunol yn haws
  • A7 Annog a chefnogi darparwyr i rannu arfer sy’n dod i’r amlwg mewn dysgu o bell a dysgu cyfunol o fewn, ac ar draws, sectorau ôl-16 yng Nghymru

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol