Adroddiad thematig |

Cyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn rhaglenni prentisiaeth

Share this page

Adroddiad thematig | 21/11/2023

pdf, 781.48 KB Added 21/11/2023

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn prentisiaethau dysgu yn y gwaith. Ym mis Mai a mis Mehefin 2023, ymwelodd arolygwyr â naw o’r deg darparwr arweiniol sy’n cynnig rhaglenni prentisiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliom gyfarfodydd a siarad gyda dysgwyr, rheolwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr. Arsylwom sesiynau addysgu grŵp ac adolygiadau un-i-un. Cynhaliom arolwg ar-lein dienw i ddysgwyr, staff cyflwyno a chyflogwyr yn ymchwilio i agweddau ymatebwyr at gymwysterau SHC a datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol ar raglenni prentisiaeth.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A1    Gydweithio â Cymwysterau Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i adolygu’r defnydd o gymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn prentisiaethau
  • A2   Adnewyddu Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) ac adnoddau
  • A3    Trwy gydweithio â phartneriaid, datblygu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol i wella dealltwriaeth ymarferwyr o’r addysgeg a’r gallu i gyflwyno medrau hanfodol

Dylai darparwyr prentisiaethau dysgu yn y gwaith:

  • A4    Ddatblygu ymagweddau gweithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau:
    • y caiff dysgwyr gyfleoedd ystyrlon i astudio ac ymgymryd ag asesiadau’n ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg 
    • y caiff anghenion dysgu ychwanegol dysgwyr eu nodi a’u gwerthuso’n brydlon a’u cefnogi’n  briodol
  • A5    Sicrhau bod dysgwyr sydd eisoes wedi ennill y cymwysterau SHC gofynnol neu sydd wedi’u heithrio trwy ddirprwy yn parhau i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol
  • A6    Cynnig dysgu proffesiynol sy’n datblygu addysgeg tiwtoriaid ac aseswyr i gyflwyno medrau hanfodol

Dylai darparwyr arweiniol:

  • A7    Sicrhau bod hunanwerthuso’n myfyrio ar effeithiolrwydd y modelau cyflwyno sy’n cael eu defnyddio ar draws partneriaid ac isgontractwyr y darparwr ac yn cymryd camau i leihau’r anfanteision posibl a nodir yn yr adroddiad hwn

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol