Adroddiad thematig |

Caffael yr iaith Gymraeg

Share this page

Nod yr adroddiad yw rhoi trosolwg i Lywodraeth Cymru o ba mor effeithiol y mae lleoliadau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn addysgu a chefnogi caffael a datblygu medrau Cymraeg ymhlith dysgwyr rhwng tair ac un ar ddeg oed.

Argymhellion 

Dylai lleoliadau nas cynhelir, ysgolion meithrin ac ysgolion cynradd:

  • A1 gynllunio’n ofalus ar gyfer dilyniant a pharhad mewn datblygu medrau dysgwyr o bob cefndir ieithyddol wrth iddynt gaffael y Gymraeg
  • A2 darparu gweithgareddau gwrando a siarad rheolaidd i ddatblygu geirfa a phatrymau cystrawennol dysgwyr, a’u hannog i gymhwyso’r medrau newydd hyn mewn gweithgareddau ffurfiol a llai ffurfiol
  • A3 olrhain cynnydd, datblygiad geirfa a chaffaeliad iaith grwpiau penodol o ddysgwyr yn drylwyr, gan gynnwys y rhai sy’n fwy abl

Dylai ysgolion cynradd:

  • A4 gynnig cyfleoedd i ddysgwyr wrando ar, darllen a gwerthfawrogi llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gan awduron o Gymru, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2
  • A5 sicrhau cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr ysgrifennu’n rhydd ac yn annibynnol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A6 ddarparu hyfforddiant i ddwysau dealltwriaeth ymarferwyr o’r modd y mae dysgwyr yn caffael y Gymraeg, ac o fethodoleg effeithiol o ran trochi iaith

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A7 ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar drochi iaith er mwyn cefnogi addysgu a dysgu wrth gaffael y Gymraeg

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol