Adroddiad thematig |

Arferion cofrestru disgyblion

Share this page

Adroddiad thematig | 25/10/2019

pdf, 1.64 MB Added 25/10/2019

Mae’r adroddiad yn archwilio arferion cofrestru disgyblion yng Nghymru, ac yn benodol: ysgol sy’n tynnu enw disgybl oddi ar ei chofrestr yn gyfan gwbl heb ddefnyddio gwaharddiad parhaol ffurfiol (‘tynnu oddi ar y gofrestr’); ac ysgol sy’n newid statws cofrestru disgyblion rhwng mis Ionawr ym Mlwyddyn 10 a mis Ionawr ym Mlwyddyn 11 fel nad yw deilliannau’r disgybl.

Argymhellion

Dylai ysgolion a chyrff llywodraethol:

  • A1 sicrhau bod disgyblion yn ail-wneud Blwyddyn 10 mewn amgylchiadau eithriadol yn unig
  • A2 adolygu arferion cofrestru a symudiadau disgyblion yn rheolaidd fel rhan o drefniadau gwerthuso a gwella ysgolion
  • A3 sicrhau bod llywodraethwyr yn monitro symudiadau disgyblion rhwng Blynyddoedd 10 ac 11

Dylai awdurdodau lleol:

  • A4 fonitro arferion cofrestru ysgolion i roi sicrwydd fod ysgolion bob amser yn gweithredu er lles pennaf disgyblion unigol
  • A5 sicrhau bod gan awdurdodau lleol ac ysgolion feini prawf a phrotocolau clir ar gyfer caniatáu i ysgolion gofrestru disgyblion yn ddisgyblion sy’n ail-wneud
  • Blwyddyn 10
  • A6 monitro ac ymchwilio i unrhyw achosion lle mae disgyblion yn ail-wneud Blwyddyn 10 neu’n symud o Flwyddyn 10 i flwyddyn ysgol heblaw Blwyddyn 10 neu Flwyddyn 11

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A7 adolygu’r drefn ar gyfer cofrestru disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac ystyried data cyrchfannau i fesur effeithiolrwydd darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol 
  • A8 gweithio gydag awdurdodau lleol i sefydlu cronfeydd data o ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol yn eu hardal
  • A9 adolygu trefniadau ar gyfer CYBLD i sicrhau tryloywder gwell o ran symudiadau disgyblion

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol