Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a’r gymuned i feithrin dysgu a lles disgyblion - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a’r gymuned i feithrin dysgu a lles disgyblion

Ciplun

Mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a’r gymuned ehangach yn gryfder nodedig. Mae staff yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i rieni a disgyblion ddysgu gyda’i gilydd, sy’n codi dyheadau teuluoedd ac yn helpu rhieni i gefnogi dysgu gartref. Mae gweithdai a digwyddiadau cymunedol yn cryfhau ymgysylltiad â theuluoedd ac yn codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth lleol. Mae’r gwaith hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb disgyblion a’u hagweddau cadarnhaol at ddysgu.