Cryfhau medrau darllen disgyblion
Ciplun
Yn dilyn y pandemig, nododd yr ysgol ddirywiad ym medrau darllen disgyblion ac yn eu mwynhad o ddarllen. Mewn ymateb, datblygodd a gweithredodd athrawon amrywiaeth gyfoethog o heriau diddorol, fel ‘Gollwng Popeth a Darllen’ a’r ‘Her 25 Llyfr’, i ailennyn eu brwdfrydedd a’u cariad at ddarllen. Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant darllen cryf sy’n sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf wrth ddatblygu eu medrau darllen ac yn cymhwyso’r medrau hyn yn effeithiol ar draws y cwricwlwm.