Darparu amgylchedd hynod effeithiol ar gyfer y disgyblion ieuengaf - Estyn

Darparu amgylchedd hynod effeithiol ar gyfer y disgyblion ieuengaf

Ciplun

Mae dull yr ysgol o ddatblygu’r amgylchedd dysgu ar gyfer y disgyblion ieuengaf yn gryfder amlwg. Mae athrawon wedi cynllunio amgylchedd dan do ac awyr agored ag adnoddau da yn ofalus, sy’n hyrwyddo medrau dysgu annibynnol disgyblion yn effeithiol. Mae staff yn gwneud defnydd rhagorol o dir cyfan yr ysgol i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio byd natur, datblygu eu medrau corfforol, mathemategol a chyfathrebu, ac ennyn eu chwilfrydedd. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos lefelau uchel o ymgysylltiad wrth chwarae ochr yn ochr ag eraill neu wrth ddilyn eu diddordebau a’u chwilfrydedd eu hunain yn annibynnol. Mae oedolion yn arsylwi’n ofalus, gan gofnodi datblygiad medrau cynnar trwy chwarae a nodi sgemâu disgyblion unigol yn dda. Mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth hon yn fedrus i deilwra gweithgareddau dysgu i ddisgyblion unigol, gan hyrwyddo eu datblygiad gwybyddol, emosiynol a chorfforol yn llwyddiannus.