Crynodeb gweithredol
Mae’r adroddiad thematig hwn yn archwilio addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed yng Nghymru. Mae’n gwerthuso’r cynnydd a wnaed o ran gweithredu ieithoedd rhyngwladol o fewn Cwricwlwm i Gymru. Mae’n ystyried ansawdd yr addysgu a’i effaith ar ddysgu, a sut mae arweinwyr yn dylanwadu ar ddarpariaeth ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn eu hysgolion. Mae’r adolygiad hefyd yn ystyried sut mae ysgolion yn hyrwyddo dysgu ieithoedd, agweddau disgyblion tuag at ieithoedd rhyngwladol, a’r heriau sy’n parhau o ran annog disgyblion i astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU) a thu hwnt.
Mae’r adroddiad yn amlygu enghreifftiau o’r modd y mae ysgolion cynradd wedi datblygu ieithoedd rhyngwladol yn llwyddiannus yn y cwricwlwm. Ceir enghreifftiau o addysgu a dysgu o ansawdd da yn yr ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed yr ymwelom â nhw. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae cynllunio’r cwricwlwm ac ansawdd yr addysgu yn parhau i fod yn anghyson. O ganlyniad, mae’r profiadau a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion mewn ieithoedd rhyngwladol yn rhy amrywiol. Mae trefniadau pontio rhwng y sector cynradd a’r sector uwchradd yn aml yn wan, a’r nifer sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn TGAU a Safon Uwch yn isel. O ystyried y materion hyn, mae dyfodol addysg ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru yn parhau i fod yn heriol.
Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso pedwar maes allweddol, sef:
- Ieithoedd rhyngwladol yn y sector cynradd: Ers i ieithoedd rhyngwladol gael eu hintegreiddio yng Nghwricwlwm i Gymru yn y sector cynradd ym mis Medi 2022, roedd llawer o’r ysgolion cynradd a’r ysgolion pob oed yr ymwelom â nhw wedi gwneud cynnydd cadarnhaol yn ymgorffori dysgu ieithoedd rhyngwladol. Roedd y rhan fwyaf o’r ysgolion yn canolbwyntio’n briodol ar ddatblygu medrau gwrando a siarad disgyblion ac ehangu dealltwriaeth ddiwylliannol disgyblion. Fodd bynnag, at ei gilydd, mae datblygu’r cwricwlwm yn parhau i fod yn anghyson. Roedd ychydig o ysgolion yn cael trafferth oherwydd diffyg hyder staff, eu hamgyffrediadau o amser cwricwlwm cyfyngedig a chyfleoedd dysgu proffesiynol annigonol. Yn yr ysgolion mwyaf effeithiol, roedd dysgu ieithoedd yn cael ei ymgorffori ar draws y cwricwlwm. Yn yr ysgolion hyn, roedd disgyblion yn cael eu hamlygu i ieithoedd o oedran cynnar, gan feithrin ethos amlieithog.
- Ieithoedd rhyngwladol yn y sector uwchradd: Er bod y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd yn ein sampl yn darparu cyfleoedd addas ar gyfer dysgu ieithoedd rhyngwladol ym Mlynyddoedd 7-9, mae’r nifer sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol yng nghyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16 yn parhau i fod yn isel. Roedd cyfyngiadau o ran amser cwricwlwm, yr amgyffrediad fod ieithoedd yn anodd a phwysau’r broses opsiynau, yn cyfrannu at y gostyngiad. Pan roedd darpariaeth ieithoedd yn gryf, roedd athrawon yn defnyddio adnoddau dilys a chreadigol, technoleg defnyddiol, a strategaethau addysgu hynod ddifyr i ddatblygu gwybodaeth a medrau disgyblion. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, roedd gorddibynnu ar gymorth athrawon yn atal disgyblion rhag datblygu’n dysgwyr annibynnol ieithoedd. Roedd ymgysylltiad disgyblion yn gryfach mewn ysgolion sydd ag addysgu effeithiol a chwricwlwm cyfoethog, yn enwedig mewn TGAU a Lefelau Uwch TAG (Safon Uwch).
- Agweddau ac ymgysylltiad disgyblion: Roedd llawer o ddisgyblion yn yr ysgolion yr ymwelom â nhw yn mwynhau dysgu ieithoedd rhyngwladol ac yn cydnabod y manteision ar gyfer teithio, cyfathrebu a chyflogaeth. Fodd bynnag, wrth iddynt symud ymlaen trwy’r ysgol, roedd eu brwdfrydedd yn aml yn dirywio oherwydd diffyg perthnasedd canfyddedig dysgu ieithoedd a hyder yn eu gallu i lwyddo. Roedd rhai disgyblion yn credu bod dysgu Cymraeg yn ddigonol, tra bod disgyblion eraill yn ystyried bod dysgu ieithoedd yn heriol o gymharu â phynciau eraill y cwricwlwm. Yn gyffredinol, roedd rhieni a gofalwyr a ymatebodd i’n harolwg yn gwerthfawrogi dysgu ieithoedd, ond nododd ein harolwg fod angen cyfathrebu’n well â rhieni a gofalwyr am ei fanteision hirdymor.
- Arweinyddiaeth a chymorth ar gyfer ieithoedd rhyngwladol: Roedd yn glir o’n tystiolaeth fod gan arweinyddiaeth gref rôl hanfodol mewn cynnal darpariaeth ieithoedd rhyngwladol. Mewn ysgolion lle roedd arweinwyr yn blaenoriaethu dysgu ieithoedd, roedd disgyblion yn elwa’n well ar addysgu o ansawdd uchel, llwybrau dilyniant clir, a chyfleoedd cyfoethogi. Fodd bynnag, mewn llawer o ysgolion, nid oedd uwch arweinwyr yn ystyried bod ieithoedd rhyngwladol yn flaenoriaeth strategol, ac roedd hyn yn aml yn arwain at ddarpariaeth anghyson neu wannach. Roedd cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn aml yn wael, gan effeithio ar ba mor dda yr oedd disgyblion yn gwneud cynnydd o’r sector cynradd i’r sector uwchradd. Dywedodd yr ysgolion hynny a oedd yn ymgysylltu â gwasanaethau gwella ysgolion a sefydliadau allanol wrthym eu bod yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth, ond bod mynediad at ddysgu proffesiynol ac adnoddau yn amrywio’n eang ledled Cymru. Mae recriwtio athrawon ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn parhau i fod yn her sylweddol, ac mae niferoedd gostyngol o athrawon dan hyfforddiant yn dechrau yn y proffesiwn.
- Rôl cymorth y system ehangach: Er bod rhaglenni fel Dyfodol Byd-eang, a chymorth gan wasanaethau gwella ysgolion lleol a rhanbarthol, wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ddarpariaeth ieithyddol, roedd arweinwyr ysgolion yn pryderu am gynaliadwyedd hirdymor. Mae colegau addysg bellach yn cynnig llwybrau ieithoedd rhyngwladol cyfyngedig, ac mae darpariaeth ieithyddol o fewn rhaglenni galwedigaethol yn rhy amrywiol. Mae darparwyr addysg gychwynnol athrawon yn wynebu anawsterau recriwtio, gyda niferoedd isel o athrawon dan hyfforddiant ieithoedd rhyngwladol.
Mae’r adroddiad hwn yn gwneud argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion, a Llywodraeth Cymru. Mae’r argymhellion hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar wella addysgu a dysgu, datblygu trefniadau cwricwlwm cryfach mewn cyfnodau pontio i sicrhau cynnydd a pharhad yn nysgu disgyblion, a chefnogi ysgolion i gynnal a gwella darpariaeth ar gyfer cyrsiau ieithoedd rhyngwladol TGAU a Safon Uwch.