A1 Roi arweiniad Llywodraeth Cymru ar waith i ddarparu dull ysgol gyfan o atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (Llywodraeth Cymru, 2015)
A2 Sicrhau bod negeseuon allweddol yn ymwneud â pherthnasoedd iach yn cael eu hymgorffori yn y cwricwlwm a’u hatgyfnerthu’n rheolaidd
A3 Adeiladu ar yr arfer orau a nodir yn yr adroddiad hwn
Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:
A4 Sicrhau bod yr holl staff sy’n gweithio mewn ysgolion yn cwblhau’r hyfforddiant a amlinellir yn y Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol (Llywodraeth Cymru, 2016a)
Dylai Llywodraeth Cymru:
A5 Gyhoeddi arweiniad ymhellach i sicrhau bod ysgolion a chyrff llywodraethol yn ymwybodol o’r cyngor a’r arweiniad y maent yn eu cynnwys
A6 Sicrhau bod y rheiny sy’n gysylltiedig â chynllunio a datblygu’r cwricwlwm ar gyfer y maes dysgu iechyd a lles a phrofiadau yn ymwybodol o’r rôl bwysig sydd gan ysgolion o ran rhoi Deddf TEMCDThRh 2015 (Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2015) ar waith, a chynnwys addysg perthnasoedd iach yn eu gwaith
A7 Galluogi staff sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau annibynnol i elwa