Erthyglau newyddion |

Arolygwyr yn amlygu cryfderau ysgolion cynradd yn y celfyddydau creadigol

Share this page

Mae Estyn wedi amlygu nifer o ysgolion cynradd ledled Cymru sy’n arwain y ffordd yn y celfyddydau creadigol ac y dylid rhannu a chymhwyso eu dulliau yn ehangach.

Mae ffilm fer yn cynnwys chwe ysgol gynradd sy’n dangos prif ganfyddiadau’r adroddiad yn cyd-fynd ag adroddiad Estyn, ‘Arfer orau mewn addysgu a dysgu yn y celfyddydau creadigol yng nghyfnod allweddol 2’. Mae enghreifftiau o wersi mewn celf a dylunio, dawns, drama a cherddoriaeth yn dangos yr arfer orau a welodd arolygwyr.

Dywed Ann Keane, Prif Arolygydd,

“Mae gan y celfyddydau creadigol ran bwysig ym mywyd Cymru. Mae cydnabyddiaeth gynyddol y dylai plant a phobl ifanc gael ystod o gyfleoedd cyffrous i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol yn yr ysgol.

“Mae’r ysgolion cynradd gorau yn rhoi ehangder o brofiadau i ddisgyblion trwy addysgu difyr, sy’n defnyddio adnoddau priodol ac ymweliadau â safleoedd treftadaeth a theatrau fel symbyliad. Mae adroddiad Estyn a’r ffilm sy’n cyd-fynd ag ef yn dangos cyfoeth o strategaethau a syniadau ac rwy’n annog ysgolion eraill i’w hystyried a’u defnyddio nhw.”

Canfu arolygwyr fod safonau lles disgyblion yn uchel yn yr ysgolion yr ymwelwyd â nhw. Roedd tystiolaeth hefyd fod llafaredd wedi gwella, yn rhannol am fod y celfyddydau creadigol yn rhoi profiadau cyffrous i ddisgyblion siarad amdanynt.

Mae addysgu brwdfrydig a hyderus yn ffactor hanfodol mewn darpariaeth lwyddiannus ar gyfer y celfyddydau creadigol. Mae safonau disgyblion ar eu gorau pan fydd gan eu hathrawon wybodaeth ac arbenigedd, yn ogystal â bod yn ymarferwyr ystafell ddosbarth da. Yn rhy aml, mae ansawdd darpariaeth yr ysgolion yn dibynnu’n ormodol ar siawns a ph’un a oes athro brwdfrydig â medrau arbenigol yn yr ysgol ai peidio. Ar hyn o bryd, nid oes digon o hyfforddiant neu gymorth i helpu athrawon i fagu hyder yn y celfyddydau creadigol.

Mae Ysgol Gynradd Pillgwenlli yng Nghasnewydd yn hyrwyddo’r celfyddydau i ddathlu amrywiaeth yn yr ysgol a’r gymuned ehangach. Mae athrawon yn cynllunio’n drylwyr fel bod pob disgybl yn cael profiadau eang a chynyddol, tra bod arweinwyr yn ystyried disgyblion a allai fod mewn perygl o dangyflawni. Mae ffilm fer Estyn yn dangos plant yn cynllunio a pherfformio eu dawns frwydr ‘haka’ eu hunain ar ôl trafod a dadansoddi pwysigrwydd diwylliannol defod Seland Newydd. Mae’r wers yn datblygu iaith lafar disgyblion, eu gwaith tîm, eu hyder a’u medrau cynllunio.

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys: ffocws cryfach mewn ysgolion ar gynllunio dilyniant graddol o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion brofi’r celfyddydau creadigol wrth iddynt symud trwy’r ysgol; monitro cyflawniad disgyblion; a gweithio’n agosach mewn partneriaeth ag ysgolion eraill ar y celfyddydau creadigol. Yn ychwanegol, dylid darparu mwy o gyfleoedd i athrawon ddatblygu eu medrau mewn addysgu’r celfyddydau creadigol a dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi ysgolion i wneud y defnydd gorau o’r cyllid a ddyrennir i gynorthwyo teuluoedd o deuluoedd tlotach i gymryd rhan lawn yn y celfyddydau.

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â’r adroddiad

Mae sail dystiolaeth yr adroddiad yn cynnwys ymweliadau â sampl o 20 ysgol gynradd lle nodwyd arfer dda, ac arolwg ar-lein o 150 o ysgolion ar hap oedd â chyfradd ymateb o 21%.

Astudiaethau achos arfer orau:

  • Ysgol Cynwyd Sant, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol Gynradd Tredelerch, Caerdydd
  • Ysgol Iau Llangewydd, Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ysgol-Y-Wern, Caerdydd
  • Ysgol Twm o’r Nant, Sir Ddinbych
  • o Ysgol Gynradd Tywyn, Castell-nedd Port Talbot
  • o Ysgol Gynradd Pillgwenlli, Casnewydd
  • o Ysgol Iau Aberdaugleddau, Sir Benfro
  • o Ysgol Gynradd Fenton, Sir Benfro
  • o Ysgol Gynradd Gymunedol Cas-mael, Sir Benfro
  • o Ysgol Gynradd Gymunedol Llanidloes, Powys
  • o Ysgol Gynradd Ynystawe, Abertawe
  • o Ysgol Gynradd Christchurch (yr Eglwys yng Nghymru), Abertawe
  • o Ysgol Gynradd Llanyrafon, Torfaen