Arfer Effeithiol |

Manteisio ar bob cyfle i gynyddu llythrennedd

Share this page

Nifer y disgyblion
485
Ystod oedran
3-11
Dyddiad arolygiad

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gynradd ddinesig amlddiwylliannol fawr gerllaw canol Caerdydd yw Ysgol Gynradd Kitchener.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned sydd ymhlith y 10% uchaf o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 33%, ceir cyfraddau uchel o symudedd, a siaredir 27 o ieithoedd yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol (SIY) i 86% o ddisgyblion.  Bengaleg ac Arabeg yw’r ieithoedd mwyaf cyffredin a siaradir.  Mae symudedd disgyblion yn uchel, ac mae nifer sylweddol o blant yn ymuno â’r ysgol yng nghanol cyfnod.  Nid yw llawer o’r disgyblion hyn yn siarad llawer o Saesneg, os o gwbl.  Mae gan ryw 22% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae bron pob un o’r disgyblion SIY yn cyflawni’n eithriadol o dda yn eu medrau siarad, darllen ac ysgrifennu er gwaethaf eu mannau cychwyn.  Mae’r ysgol yn elwa ar dîm cryf o gynorthwywyr cymorth dwyieithog.  Fodd bynnag, nid yw’n bosibl i’r ysgol ddarparu ar gyfer yr holl ieithoedd, felly mae’n defnyddio dull generig i gynorthwyo pob disgybl SIY, beth bynnag fo iaith yr aelwyd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn gweithio mewn ffordd amlweddog i sicrhau bod yr holl ddisgyblion sy’n ymuno ag Ysgol Kitchener yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ddatblygu eu medrau llythrennedd.  Wrth wraidd hyn y mae cwricwlwm sy’n canolbwyntio’n dda ar wireddu llawn botensial pob cyfle i ddatblygu medrau llefaredd disgyblion.

Mae athrawon yn sicrhau bod dysgu’n aml yn dechrau â phrofiad uniongyrchol, sy’n sbardun ar gyfer  gwaith geirfa, a gweithgareddau llefaredd sy’n tanategu ysgrifennu.  Mae’r ysgol yn ffodus ei bod o fewn pellter cerdded o lawer o leoliadau diwylliannol a hanesyddol yng Nghaerdydd, ac mae’r ymweliadau addysgol hyn yn darparu cyd-destun cyffrous ar gyfer dysgu.

Mae’r holl athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn fodelau rôl ar gyfer iaith, gan ddefnyddio ystumiau, goslef a mynegiant i greu effaith. 

Nid yw athrawon byth yn rhagdybio, ac maent yn achub ar bob cyfle i gyflwyno geiriau newydd mewn cyd-destun sy’n ei gwneud yn ystyrlon i ddisgyblion – nid oes unrhyw air yn cael ei wastraffu.  Mae staff yn defnyddio arwyddion gweledol allweddol yn effeithiol i ategu gweithgareddau sydd wedi eu gwahaniaethu’n ofalus, a chaiff disgyblion eu ‘cyfeillio’ fel bod gan newydd-ddyfodiaid ddelfryd ymddwyn gref i gydweithio â nhw.  Mae adrodd storïau’n rhan annatod o’r ddarpariaeth.  Mae chwarae rôl, ymarferion cadair goch a ‘throi at eich partner’ yn weithgareddau dyddiol sy’n sicrhau ei bod yn ofynnol i bob disgybl siarad ym mhob gwers.

Mae cynllun gwaith trylwyr ar waith ar gyfer ffoneg, a chaiff ei gyflwyno gan bob aelod staff.  Mae arweinwyr yn sicrhau y caiff staff hyfforddiant manwl rheolaidd er mwyn i ddarpariaeth fod yn gyson.  Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion bob hanner tymor ac yn addasu’r grwpiau, lle bo hynny’n briodol, er mwyn i’r dysgu symud ymlaen yn gyflym.  Mae athrawon y Cyfnod Sylfaen yn sicrhau eu bod yn datblygu medrau ffoneg disgyblion yn rheolaidd trwy gyfleoedd ysgrifennu estynedig. 

Mae’r ysgol yn rhoi cynllun ffoneg ar waith ochr yn ochr â rhaglen ar gyfer llythrennedd, sy’n uchelgeisiol iawn o ran y gofynion ar gyfer cymhwyso gramadeg.  Mae staff yn addysgu iaith dechnegol i ddisgyblion ac yn darparu gweithgareddau ystyrlon, rheolaidd iddynt sy’n gofyn iddynt gymhwyso’r wybodaeth hon.

Mae’r prosesau monitro yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar ddatblygu llefaredd, a chaiff ansawdd arfer ei sicrhau er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gyson ar draws yr ysgol.  Mae amcanion rheoli perfformiad yn cysylltu’n agos ag agweddau ar addysgu, fel adborth llafar i ddisgyblion a holi sydd, yn eu tro, yn ffocws ar gyfer arsylwi gwersi.  Mae’r ysgol wedi addasu ei ffurflen arsylwi gwersi i annog staff i gofnodi dyfyniadau o ddeialog rhyngddynt hwy a disgyblion, a’r effaith y mae wedi’i chael.  Mae staff yn olrhain cynnydd disgyblion bob hanner tymor ar sail ystod eang o ddata, gan gynnwys continwa caffael iaith.  Mae disgwyliadau’n uchel - mae staff yn disgwyl i bob disgyblion wneud cynnydd o ddwy is-lefel bob blwyddyn.  Mae’r ysgol yn coladu proffiliau disgyblion i ddisgyblion sy’n gwneud cynnydd sylweddol o’u mannau cychwyn, ond efallai na fyddant yn cyflawni’r disgwyliadau cenedlaethol.

Mae’r cwricwlwm wedi’i amgylchynu gan ethos ysgol cryf, cadarnhaol a chynorthwyol.  Mae llais y dysgwr yn hollbwysig.  Mae oedolion yn buddsoddi amser mewn meithrin perthynas ragorol â phob disgyblion, sy’n meithrin hyder ac uchelgais.  Mae disgyblion yn siarad oherwydd eu bod yn gwybod y bydd rhywun yn gwrando arnynt.  Mae darpariaeth allgyrsiol, fel clwb adrodd storïau a chlwb dadlau, yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion ymarfer eu medrau llafar, a byddant yn aml yn perfformio o flaen cynulleidfaoedd mewn digwyddiadau a chystadlaethau proffil uchel.  

Mae gan yr ysgol nifer o bartneriaethau sy’n ategu ei nod craidd o ddatblygu llefaredd, gan gynnwys cysylltiadau â theuluoedd trwy ddosbarthiadau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) yn yr ysgol a chlybiau ar ôl ysgol i deuluoedd, lle mae’n annog rhieni i rannu eu profiadau a’u diwylliannau eu hunain.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae safonau mewn llythrennedd ar draws yr ysgol wedi codi bob blwyddyn ar gyfer y tair blynedd diwethaf.  Mae’r ysgol yn perfformio’n well nag aelodau’r teulu sydd â niferoedd llai o lawer o ddisgyblion SIY.  Yn aml, mae disgyblion sy’n ymuno â’r ysgol yng nghanol cyfnod, efallai na fyddant yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, yn mynd ymlaen i gyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.  Mae bron pob un o’r disgyblion sy’n ymuno â’r ysgol yng nghanol cyfnod yn gwneud o leiaf ddwy is-lefel o gynnydd yn ystod y flwyddyn – mae llawer o’r disgyblion hyn wedi ymuno â’r ysgol heb unrhyw Saesneg.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi croesawu athrawon o bob rhan o Gaerdydd ac o’i grŵp gwella ysgolion i arsylwi’r arfer hon.  

 

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol

Adnoddau eraill gan y darparwr hwn

Adroddiad thematig |

Arloesi'r cwricwlwm mewn ysgolion cynradd

pdf, 940.23 KB Added 17/05/2018

Darganfyddwch ddull pedwar cam y gall eich ysgol ei ddefnyddio fel strwythur i gefnogi syniadau cwricwlaidd a dysgu proffesiynol. ...Read more
Arfer Effeithiol |

Cwricwlwm seiliedig ar fedrau, gyda mwy o gyd-destunau lleol

Mae Ysgol Gynradd Kitchener wedi addasu ei gwricwlwm i ganolbwyntio’n fwy ar yr hyn mae disgyblion eisiau ei ddysgu, gan ddefnyddio cyd-destunau mwy lleol ar gyfer dysgu. ...Read more