Arfer Effeithiol |

Elwa ar ddiddordebau plant i ysbrydoli datblygiad mathemategol

Share this page

Nifer y disgyblion
27
Ystod oedran
2-4
Dyddiad arolygiad
Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Cymraeg yw Cylch Meithrin Cefneithin Gorslas, sydd yn cwrdd mewn caban pwrpasol ym Mharc Hamdden Crosshands, yn awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin.  Mae’r lleoliad ar agor am bump bore’r wythnos ac wedi’i gofrestru i dderbyn 20 o blant rhwng dwy a phedair blwydd oed.  Mae wyth plentyn yn cael eu hariannu i dderbyn addysg y blynyddoedd cynnar.

Mae rhan fwyaf y plant o gefndir gwyn Prydeinig a daw ychydig o gartrefi sy’n siarad Cymraeg.  Ar hyn o bryd, nid oes gan unrhyw blentyn anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r lleoliad yn cyflogi tri o ymarferwyr amser llawn, sy’n cynnwys yr arweinydd, ac ymarferydd rhan amser.  Penodwyd yr arweinydd i’w swydd ym mis Hydref 2011.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Prif nod y lleoliad yw sicrhau bod pob plentyn yn cael ei herio’n llwyddiannus i ddatblygu eu medrau ar draws y cwricwlwm er mwyn gwneud y cynnydd gorau posib ym mhob agwedd o’u haddysg.

Er mwyn gwireddu hyn, mae’r ymarferwyr yn trafod hoff ddiddordebau gyda’r plant ar gychwyn pob tymor cyn cynllunio gweithgareddau a thasgau yn yr ardaloedd dysgu yn unol â dyheuadau’r plant. Dau thema sydd yn cael eu trafod yn aml yw ‘Deinasoriaid’ a ‘Mor Ladron’.  Cryfder y lleoliad yw’r modd y maent yn creu ardaloedd dysgu parhaus lliwgar, ysgogol a deniadol i’r plant yn seiliedig ar y themâu hyn, er mwyn eu hudo i ymchwilio a chreu er mwyn datblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r lleoliad yn blaenoriaethu hybu datblygiad mathemategol y plant trwy weinyddu asesiadau proffil y cyfnod sylfaen fel gwaelodin.  Wrth gynllunio neu newid ardaloedd dysgu, mae ymarferwyr yn ymateb i ddeilliannau asesu er mwyn herio pob unigolyn yn llwyddiannus trwy gynnwys gweithgareddau sydd yn datblygu medrau rhifedd pob unigolyn yn effeithiol.  Gwneir hyn yn ofalus trwy ystod o weithgareddau sy’n galluogi plant i weithio’n annibynnol er mwyn adeiladu ar wybodaeth a dealltwriaeth flaenorol.  Agwedd nodedig o waith yr ymarferwyr yw’r modd y maent yn cynllunio gweithgareddau sydd yn datblygu dealltwriaeth y plant o briodweddau siapiau 2 dimensiwn yn ogystal â’u medrau creu a darllen map.  Er enghraifft, maent yn defnyddio thema dinosoriaid er mwyn canolbwyntio ar siâp. Wrth gyflwyno dinosor newydd pob wythnos, mae’r plant yn argraffu siâp newydd ar gefnau’r dinosoriaid fel cylchoedd ar y diplodocws, sgwariau ar y tyranosor, hanner cylchoedd ar y trichorn a thrionglau ar y brontasôr.  Wrth i’r ymarferwyr ychwanegu siapiau newydd fel calon a chwarter cylch, yn raddol, mae’r plant yn gyfarwydd â thrafod nodweddion unigol y siapiau hyn.

Er mwyn datblygu dealltwriaeth y plant ymhellach o siapau dau ddimensiwn, mae ymarferwyr yn cynnwys y siapau yn y cwtsh chwarae rôl Môr Ladron.  Yma mae’r plant yn creu clytweithiau o barot, llong mor ladron a het Barti Ddu gan ddefnyddio siapau fel hanner a chwarter cylch.  Maent hefyd yn defnyddio siapau gwahanol yn y tywod fel gemwaith, er mwyn creu cist trysor yn llawn gemwaith siapau dau ddimensiwn. Rhoddir cyfleoedd da iawn i blant dorri siapiau dau ddimensiwn allan o bapur sgleiniog a’u gludo fel ‘trysorau’ yn y gist trysor.

Er mwyn datblygu medrau mapio cynnar y plant, mae’r ymarferwyr yn trafod stori am for ladron yn darganfod trysor.  Mae hyn yn rhoi ffocws ar yr eitemau canlynol - llong, trysor, het, ynys, a map.  Peintiodd yr ymarferwyr fap ar lawr y lleoliad er mwyn cyflwyno’r syniad o deithio o un ochr i’r llall.  Er mai map syml oedd hwn, roedd yn cynnwys nifer o leoliadau penodol sef yr ynys ei hun, y llong a’r trysor.  Ychwanegwyd pegwn y gogledd a phegwn y de.  Er mwyn cyrraedd yr ynys roedd rhaid cerdded o’r llong ar hyd ‘planc o bren’ cyn neidio dros y siarc ar ei ddiwedd.  Tasg gorfforol oedd hon i ddechrau sef neidio a chydbwyso.  Datblygodd y dasg i fod yn llawer fwy wrth i’r plant roi cyfarwyddiadau i’w gilydd er mwyn dilyn llwybrau penodol ar draws yr ynys.  Creodd y plant eu mapiau trysor eu hunain cyn rhaglennu beebot i deithio o’r gogledd i’r de er mwyn darganfod y trysor.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r cynllunio medrus hwn, mae gan lawer o blant fedrau rhifedd ardderchog ac mae’r rhan fwyaf yn caffael eu medrau yn hyderus ac yn annibynnol iawn ar draws y meysydd dysgu.  Mae gan y mwyafrif ymwybyddiaeth dda iawn o siapiau dau ddimensiwn cyffredin yn ogystal â nodweddion siapiau cymhleth fel seren a phentagon wrth greu darluniau yn ymwneud â’r thema.  Mae’r lleiafrif yn enwi ac yn adnabod siapiau hanner a chwarter cylch yn gywir wrth eu defnyddio i greu clytweithiau o long môr-leidr a pharot lliwgar.  Mae ychydig yn datblygu medrau creu a darllen map arbennig o dda ac yn gwybod bod angen dal map o ynys trysor gyda’r gogledd ar i fyny.  Maent yn rhoi cyfarwyddiadau clir ar lafar ar sut i fynd o un ochr yr ynys i’r llall ynghyd â llunio llwybr er mwyn darganfod y trysor.  Mae llawer yn trin ystod eang o offer mathemateg yn fedrus er mwyn rhifo a dosbarthu gwrthrychau’n gywir gan ddefnyddio iaith fathemategol briodol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae nifer o ymarferwyr eisoes wedi ymweld â’r lleoliad er mwyn gwella darpariaeth ar gyfer y medrau ar draws y cwricwlwm

Tagiau adnoddau

Defnyddiwch y tagiau isod i chwilio am fwy o adnoddau gwella ar y pynciau canlynol